Skip to content

Llafar - Cynllun Cydraddoldeb Sengl

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Yr wyf yn falch o gael y cyfle hwn i gyhoeddi’n cynllun cydraddoldeb sengl cyntaf a’r cynlluniau gweithredu sy’n deillio ohono. Dyma garreg filltir i Lywodraeth y Cynulliad. Yr ydym yn cyhoeddi cynllun cydraddoldeb sengl oherwydd ein bod yn credu bod angen ymagwedd fwy cyfannol er mwyn i bawb sy’n byw yng Nghymru allu gwneud hynny ar sail gyflawn a chyfartal heb ofn na gwahaniaethu na rhagfarn. Mae gan bobl lu o anghenion cymhleth ac nid ydynt o anghenraid yn cydweddu’n rhwydd ag unrhyw un maes neu gategori penodol. Drwy roi’r dinesydd wrth wraidd llunio polisïau a darparu gwasanaethau, mae hynny’n golygu ein bod yn wir yn mynd ati mewn ffordd gynhwysol i wneud ein gwaith fel Llywodraeth. Drwy symud oddi wrth ymagwedd un maes at ymagwedd sawl maes, gallwn gynnig ffordd ymlaen er mwyn gwella cyfleoedd bywyd i’n poblogaeth, yn ei holl gymhlethdod.

Mae Cymru’n dod yn wlad fwyfwy amrywiol a rhaid inni goleddu’r cyfoeth diwylliannol sy’n dod yn sgil hynny. Yr wyf am i’n cynllun cydraddoldeb sengl wireddu agenda flaengar ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol. Mae ein cynllun a’i 10 cynllun gweithredu’n  disgrifio sut y byddwn yn hybu cydraddoldeb a sut y byddwn yn cyflawni’r dyletswyddau statudol cyffredinol o ran cydraddoldeb ym maes anabledd, hil a’r ddau ryw. Byddwn yn rhoi’r un egwyddorion cyffredinol ar waith yn y meysydd cydraddoldeb eraill: oedran, trawsrywedd, crefydd a chred neu ddiffyg cred a chyfeiriadedd rhywiol. Mae’r cynllun yn ystyried sut y byddwn yn asesu dylanwad ein gwaith ar y gwahanol grwpiau a’r camau y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r dylanwad hwnnw dros y tair blynedd nesaf. Bydd yn ceisio sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol yn bwrw gwreiddiau yng ngwaith a diwylliant ein sefydliad. Yr ydym wedi llwyddo’n aruthrol i hybu cydraddoldeb drwy benodi comisiynydd plant cyntaf y DU, ac, wedi hynny, drwy benodi’r comisiynydd pobl hŷn.

Fel cyflogwr, yr ydym yn dal i wella; mae ein hymgyrch recriwtio ddiweddaraf wedi dyblu nifer y ceisiadau am swyddi gan grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Yr ydym hefyd ymhlith 100 cyflogwr uchaf y DU ar gyfer hybu cydraddoldeb i lesbiaid, hoywon a phobl ddeurywiol. Dathlwn y llwyddiannau hyn, ond sylweddolwn fod llawer o waith i’w wneud eto. Mae angen inni ddeall a gwerthfawrogi’r bobl amrywiol sy’n ffurfio cymunedau Cymru. Mae angen inni edrych ar bobl fel unigolion a chanddynt wahanol anghenion sydd o bosibl yn wynebu anfanteision lu. Aethom ati’n frwd i feithrin cysylltiad â phobl er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu am rai o’r materion hyn cyn inni ymgynghori ynglŷn â’r cynllun ac yn ystod y broses honno. Dechreuodd y rhaglen ym mis Tachwedd 2007 a daeth i ben 15 mis wedyn, ym mis Ionawr 2009. Siaradwyd â mwy na 100 o fudiadau, trefnwyd 25 o grwpiau ffocws a llenwyd 1,400 o holiaduron gan baneli dinasyddion. Yn sgil hynny, cawsom 121 o ymatebion ysgrifenedig i’n dau ymgynghoriad. Dosbarthwyd y negeseuon hyn i’r adrannau ac fe’u defnyddiwyd i fireinio’u cynlluniau gweithredu. Mae’n fy nghalonogi’n fawr bod cymaint o drafod wedi bod ar faterion sy’n ymwneud â chydraddoldeb yn sgil y cyfnod hir hwn o ymgysylltu.

Cawsom lawer o negeseuon yn yr ymatebion yn sgil yr ymgysylltu, a’n bwriad yn awr yw adolygu’r rhain. Yr oedd y rhain yn cynnwys negeseuon yn dweud bod y cynllun cydraddoldeb i’w groesawu, ac mai symud oddi wrth ymagwedd un maes at ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y dinesydd, i bob golwg, oedd y ffordd ymlaen er mwyn gwella cyfleoedd byw’r boblogaeth; bod cydraddoldeb yn fusnes i bawb ac y dylai fod o bwys i bawb; a bod angen inni gynllunio mwy o wasanaethau o gwmpas ein dinasyddion. Mae hynny’n golygu bod gofyn deall eu hanghenion a’u dymuniadau’n iawn.

Dywedwyd wrthym hefyd ei bod yn rhaid inni feddwl bob tro am gydraddoldeb a hawliau dynol wrth ddechrau llunio polisïau er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau gorau posibl ac yn rhoi cydraddoldeb wrth graidd busnes; ei bod yn rhaid inni ddal ati i ddatblygu cysylltiadau cryf rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, cyrff cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector a chydweithio’n effeithiol i gyflawni canlyniadau cyffredin—gwyddom na allwn fabwysiadu agwedd un dimensiwn wrth ymdrin ag anghydraddoldebau parhaus; a’i bod yn rhaid inni ystyried materion sy’n bodoli ar draws meysydd a chyfleoedd i weithio ar y cyd—yr ydym yn deall bod llawer o bolisïau wedi’u cydio ynghyd.

Mae’r prosesau yr ydym wedi’u defnyddio wedi caniatáu inni roi ystyriaeth ofalus i safbwyntiau amrywiaeth eang o grwpiau buddiant, darparwyr gwasanaeth, cymunedau buddiant a’r cyhoedd yn ehangach. Yr ydym wedi gwrando’n benodol ar yr adborth yr ydym wedi’i gael. Er enghraifft, byddwn yn sicrhau bod crynodeb gweithredol yr adroddiad ar gael ym mhob ffurf hygyrch.

Bydd y cynlluniau gweithredu gan bob adran yn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn helpu i hyrwyddo cyfle cyfartal a chael gwared ar anghydraddoldebau a gwahaniaethu anghyfreithlon. Mae’r cynlluniau gweithredu hyn yn adeiladu ar sail yr ymrwymiadau a wnaethom, fel Llywodraeth y Cynulliad, yn 'Cymru’n Un’.

Yr wyf yn cydnabod ein bod yn cynhyrchu’r cynllun hwn ar adeg o newid mewn cyfraith cydraddoldeb. Credaf ein bod yn cychwyn ar daith ddeinamig a chyffrous, ac mae’r cynllun yn rhoi sylfaen gadarn a chonglfeini ar gyfer newid inni.

Ni fyddwn yn cynhyrchu’r cynllun ac yna’n anghofio amdano. Mae’r cynllun yn esblygu. Yr wyf yn creu grŵp cyflawni a fydd yn cynnwys rhanddeiliaid allanol a mewnol i fonitro pa mor effeithiol yw’r cynllun bob chwe mis ac i gyhoeddi diweddariadau. Byddaf hefyd yn cyhoeddi dogfen adolygu bob 12 mis ar effeithiolrwydd y cynllun. Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn un cadarn, byddaf yn comisiynu adolygiad annibynnol.

Byddwn yn dal ati i adeiladu ar sail y cysylltiadau y ceisiwyd eu creu yn ystod y broses ymgysylltu. Anogir pob adran i ddal ati i gynnwys cynrychiolwyr grwpiau cydraddoldeb wrth ddatblygu polisïau yn y dyfodol. Bwriadwn hefyd roi gweithdrefnau ar waith er mwyn cynnwys pob maes cydraddoldeb wrth fonitro pa mor effeithiol yw’r cynllun.

Mae’r cynllun cydraddoldeb sengl yn dathlu’r holl waith caled yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn. Mae’n wir gyfrwng ar gyfer newid. Yn sgil ei ddatblygu, mae wedi rhoi cydraddoldeb ar flaen meddyliau arweinwyr, rheolwyr a staff ac mae wedi darparu modd o ymdrin â diwylliant o gynhwysiant drwy gyfrwng perchenogaeth ar bob lefel o’r sefydliad. Gobeithiaf y bydd yn cyflawni’r un peth i bobl Cymru.