Skip to content

Ysgrifenedig - Cyhoeddi’r Penderfyniad Drafft (terfynau pris drafft) ar gyfer biliau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer 2010 - 2015

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Heddiw (23 Gorffennaf 2009), cyhoeddodd Ofwat, rheoleiddiwr economaidd y diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr, y “Penderfyniad Drafft” mewn perthynas â biliau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer y cyfnod rhwng 2010 a 2015.

Y penderfyniad drafft sy’n pennu terfyn ar yr hyn y gall cwmnïau dŵr ei godi ar gwsmeriaid am ddefnyddio eu gwasanaethau.

Mae’r penderfyniad drafft yn gam pwysig yn y broses adolygu cyfnodol, sef y mecanwaith a ddefnyddir gan Ofwat i bennu biliau dŵr a charthffosiaeth.

Mae’r penderfyniad drafft yn adlewyrchu canlyniad proses ddwy flynedd o ddatblygu cynlluniau busnes, casglu tystiolaeth, ymchwil ymhlith cwsmeriaid, asesu a thrafod.  Roedd y broses hon yn cynnwys Ofwat, y cwmniau dŵr, Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, English Nature, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU.  

Yn sgil cyhoeddi’r penderfyniad drafft, mae cyfle yn awr i gynnig sylwadau.  Bydd amrywiol sefydliadau, gan gynnwys y cwmniau dŵr a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr (y corff annibynnol a statudol sy’n cynrychioli defnyddwyr dŵr), yn cynnig adborth ar y terfynau pris drafft a gynigir gan Ofwat, a bydd Ofwat yn ystyried y sylwadau hyn cyn dod i benderfyniad terfynol ym mis Tachwedd 2009.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi cyfeiriad pendant i Ofwat mewn perthynas â’r hyn y dylai’r broses adolygu cyfnodol ei flaenoriaethu.  Nodwyd yn eglur yn ein Datganiad Sefyllfa ar y Polisi Strategol ar Ddŵr, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2009, mai ein hegwyddorion craidd ar gyfer dŵr yw sicrhau mynediad at ddŵr yfed diogel, sicrhau bod gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yn parhau’n fforddiadwy, a chydymffurfio â’r rhwymedigaethau statudol sy’n gyrru ansawdd dŵr yn gyffredinol.

Hefyd, ym mis Chwefror 2009, cyhoeddwyd Canllawiau Cymdeithasol ac Amgylcheddol Statudol i Ofwat, sy’n nodi blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad mewn perthynas â fforddiadwyedd, datblygu cynaliadwy, arloesedd, a’r nodau a amlinellir yn y Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru.  Mae’n ofynnol i Ofwat ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni ei ddyletswyddau.

Dyma’r pwyntiau allweddol i’w nodi yn y penderfyniad drafft ar gyfer cwmnïau dŵr sy’n gweithredu yng Nghymru:

Dŵr Cymru Welsh Water

  • Ar gyfartaledd, bydd biliau dŵr a charthffosiaeth cartrefi yn gostwng mewn termau real o £404 yn 2009-10 i £368 yn 2014-15
  • Dyma ostyngiad o 9%
  • Dŵr Cymru Welsh Water oedd yr unig gwmni dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr i beidio â chynnig cynyddu pris biliau.
  • O’i gymharu â chwmnïau dŵr a charthffosiaeth eraill, mae’r bil cyfartalog, sef £368, yn parhau’n uchel.
  • Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer pris biliau yn y dyfodol yn cynnwys unrhyw fuddsoddiadau, a all fod yn angenrheidiol er mwyn bodloni gofynion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, y Gyfarwyddeb Trin Dŵr Gwastraff Trefol, y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr neu i fabwysiadu carthffosydd preifat.
  • Maen nhw’n darparu ar gyfer buddsoddiad gwerth tua £1.1 biliwn.

Dyffryn Dyfrdwy

  •  Ar gyfartaledd, bydd biliau dŵr cartrefi yn gostwng o £128 yn 2009/10 i £125 yn 2014/15, ac eithrio effeithiau chwyddiant.
  • Dyma ostyngiad cyffredinol o 2% dros bum mlynedd.
  • O’i gymharu â chwmnïau eraill sy’n darparu dŵr yn unig, bydd biliau dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn parhau ymhlith y rhai isaf.

Dŵr Severn Trent  

  • Ar gyfartaledd, bydd biliau dŵr a charthffosiaeth cartrefi yn gostwng o £305 yn 2009/10 i £281 yn 2014/15, ac eithrio effeithiau chwyddiant.
  • Dyma ostyngiad cyffredinol o 8% dros bum mlynedd.
  • Y bil cyfartalog o £281 a amcangyfrifir ar gyfer gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth erbyn 2015 yw’r isaf o blith yr holl gwmnïau dŵr a charthffosiaeth.