Skip to content

Llafar - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ffliw Moch

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Hoffwn ddiweddaru Aelodau am yr achosion ffliw moch a sut y mae paratoadau yng Nghymru yn dod yn eu blaen. Mae lefel rhybudd pandemig ffliw Sefydliad Iechyd y Byd yn parhau ar gam 5, sy’n dangos ei fod yn cael ei drosglwyddo o unigolyn i unigolyn, ac y gallai droi’n bandemig yn fuan. Mae’n parhau’n wir fod y ffliw wedi achosi salwch llai difrifol y tu allan i Fecsico.

 

Dengys y ffigurau diweddaraf fod dros 1,500 o achosion ffliw A wedi’u cadarnhau mewn 21 o wledydd ledled y byd. Yr oedd 28 o achosion wedi’u cadarnhau yn y DU erbyn 5 p.m. ddoe, ond yr ydym yn disgwyl y bydd y ffigur hwnnw’n codi’n ddiweddarach heddiw. Nid oes dim achosion wedi’u cadarnhau yng Nghymru hyd yma. Mae’r sefyllfa’n newid drwy’r amser. Yng Nghymru, canfuwyd fod 50 o achosion yn negyddol, sy’n golygu bod 18 yn dal i gael eu harchwilio. Mae gan y cleifion hyn i gyd gysylltiad â theithio ym Mecsico ac UDA ac maent i gyd yn arddangos, neu wedi arddangos, symptomau ysgafn.

 

Mae’n rhy fuan i ddweud a yw’r salwch hwn sy’n ymdebygu i ffliw yn debyg i ffliw tymhorol y gaeaf. Mae angen gwybod mwy am y modd mae’n cael ei ledaenu, pa mor ddifrifol yw’r salwch, neu ba mor ddifrifol y gall fod, a beth yw’r risgiau i wahanol grwpiau oed. Mae pob ymdrech yn cael ei gwneud gan y grŵp cynghori gwyddonol ar argyfyngau a’r gymuned ryngwladol o arbenigwyr i gael digon o wybodaeth dda ar yr achosion yn y DU a gweddill y byd. Yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, yr ydym yn gweld achosion ymhlith pobl sydd wedi ymweld ag un ai Mecsico neu UDA neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â phobl sydd wedi gwneud hynny. Nid ydym eto wedi cyrraedd y sefyllfa lle mae’n cael ei drosglwyddo’n gyson o berson i berson. Bydd yn rhaid cael cytundeb ar y pwynt hwnnw ar lefel y DU, gan y bydd yn effeithio ar ein polisi i geisio cyfyngu’r haint a lleihau cyfradd y lledaeniad.

 

Yr ydym yn defnyddio ein systemau gwyliadwriaeth i gael gwybodaeth am ddifrifoldeb tebygol yr haint a gwybodaeth ynghylch oedrannau. Mewn achosion o bandemig yn y gorffennol, yr oedd y gyfradd heintio’n cilio yn ystod yr haf, gyda chynnydd mewn achosion dros y gaeaf. Mae’n bwysig, felly, ein bod yn wyliadwrus ac yn paratoi ar gyfer ton arall bosibl o’r feirws ffliw moch yn yr hydref a’r gaeaf, a all fod yn fwy cyffredin. Rhaid cofio y ceir mwy o farwolaethau yn y gaeaf nag yn yr haf fel arfer, ac y gellid priodoli hynny’n rhannol i ffliw tymhorol. Cyfeirir at fwy o farwolaethau na’r disgwyl fel rhai ‘gormodol’. Yn ystod yr epidemig mawr diwethaf o ffliw tymhorol yn 1999-2000, cafwyd 21,000 o farwolaethau gormodol yng Nghymru a Lloegr.

 

Yr ydym yn sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwybodaeth a chyngor amserol a phriodol. Cyhoeddwyd taflen wybodaeth ddwyieithog yn rhoi gwybodaeth am ffliw moch a sut i atal ei ledaeniad, ar y cyfle cyntaf posibl, ar wefannau Llywodraeth Cynulliad Cymru, GIG Cymru a Galw Iechyd Cymru, ac mae ymgyrch hysbysebu genedlaethol, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, wedi bod yn cyfeirio’r cyhoedd at y gwefannau hynny lle gallant weld y daflen ar-lein. Bydd y daflen hefyd yn cael ei phostio drwy ddrysau pobl ledled y DU. Dechreuodd y gwaith dosbarthu yn yr Alban ddoe, gan mai dyna’r rhan o’r DU yr effeithiwyd arni gyntaf gan achos wedi’i gadarnhau o ffliw moch. Bydd ton arall o hysbysebion, gan gynnwys fersiynau dwyieithog, yn ymddangos yn y cyfryngau yng Nghymru yn ddiweddarach yr wythnos yma. Mae posteri a thaflenni dwyieithog wedi bod ar gael ym mhorthladdoedd Cymru ers yr wythnos diwethaf, sy’n rhoi gwybodaeth i deithwyr sy’n cyrraedd adref. Yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ar Galw Iechyd Cymru, mae llinell wybodaeth genedlaethol ffliw moch bellach yn weithredol, sy’n rhoi cyngor i’r cyhoedd ar beth i’w wneud os ydynt yn arddangos symptomau sy’n ymdebygu i ffliw.

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau mewn cysylltiad â Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, gwledydd eraill y DU a chydweithwyr rhyngwladol i fonitro’r sefyllfa’n ofalus. Yr ydym wedi rhoi’r cynlluniau pandemig ffliw ar waith, ac yr wyf yn parhau i fynychu cyfarfodydd Ystafell Friffio Swyddfa’r Cabinet i sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i ymateb yn effeithiol.

 

Mae uned parodrwydd am argyfwng iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi arweiniad i fyrddau iechyd lleol ar ddosbarthu cyffuriau gwrthfeirysol ac mae hefyd yn cydlynu gwaith ar ganfod pwyntiau casglu priodol a’r trefniadau angenrheidiol i hwyluso’r broses hon. Yr ydym wrthi hefyd ar hyn o bryd yn adolygu cadernid cynlluniau lleol o fewn y GIG i sicrhau ei fod yn gwbl barod i ddelio â’r sefyllfa. Mae cyffuriau gwrthfeirysol fel Tamiflu wedi eu hanfon o’n cyflenwadau i fferyllfeydd ysbytai a gwasanaethau y tu allan i oriau meddygon teulu. Yr ydym yn gweithio hefyd gyda  gwledydd eraill y DU i sefydlu stoc bentwr o gyffuriau gwrthfiotig. Mae gennym hefyd stoc bentwr ganolog o fasgiau wyneb ac anadlyddion yn barod os bydd eu hangen ar y gwasanaeth iechyd. Mae’r pedair gwlad wedi cytuno i gaffael masgiau ac anadlyddion ychwanegol i sicrhau bod ein staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael eu diogelu yn ystod pandemig. Bydd llawer o bobl yn awyddus i wybod a ddylent wisgo masgiau wyneb. Er ein bod yn ymwybodol bod masgiau wyneb yn cael eu rhoi i’r cyhoedd ym Mecsico, nid yw’r dystiolaeth wyddonol sydd ar gael yn cefnogi gwisgo’r masgiau wyneb yn gyffredinol i ymgymryd â gweithgareddau arferol os nad yw pobl yn sâl.

 

Er nad oes brechlyn penodol ar gael yn erbyn ffliw moch ar hyn o bryd, yr ydym yn cael  cyngor gwyddonol i’n galluogi i wneud penderfyniad priodol ynghylch datblygu brechlyn penodol ar gyfer y DU, a fyddai ar gael yn yr hydref, yn barod ar gyfer y gaeaf nesaf.

 

Gallaf sicrhau Aelodau ein bod wedi gwneud ac yn parhau i wneud popeth a allwn i baratoi ar gyfer pandemig. Mae’r gwasanaeth iechyd yn barod, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i staff y GIG am eu hymrwymiad. Byddaf, wrth gwrs, yn adrodd i’r Cynulliad yn rheolaidd ar y materion hyn, yn enwedig os bydd unrhyw ddatblygiadau pwysig yn codi.