Skip to content

Ysgrifenedig - Ffliw Moch H1N1

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am yr achos o ffliw moch A (H1N1), a’r datblygiadau diweddaraf yng Nghymru a ledled y DU. 

 

Ni fu unrhyw newid i rybudd ffliw pandemig Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’r rhybudd hwnnw yn parhau ar lefel Cam 5, sy’n adlewyrchu bod y clefyd yn trosglwyddo o berson i berson ar raddfa eang. Mae’r Sefydliad yn adolygu’r dystiolaeth yn barhaus i godi’r lefel i Gam 6 ac mae’n bosibl y bydd cyhoeddiad o fewn dyddiau. Nid datganiad am ddifrifoldeb yr afiechyd yw newid y statws i Gam 6, sy’n golygu pandemig byd-eang, ond cydnabyddiaeth o’r ffaith ei fod yn lledaenu’n fyd-eang. Er nad yw’r Sefydliad wedi datgan bod pandemig wedi cyrraedd, mae dros 24,000 o achosion wedi cael eu cadarnhau mewn 73 o wledydd ar draws pob cyfandir.   

 

Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf, bu 139 o farwolaethau ledled y byd, y rhan fwyaf ohonynt ym Mecsico, ond bu hefyd 27 o farwolaethau yn Unol Daleithiau America (UDA). Cofnodwyd marwolaethau hefyd yng Nghanada, Chile, Costa Rica a’r Weriniaeth Ddominicaidd. Erbyn hyn, mae achosion wedi cael eu cadarnhau ar bob cyfandir, gyda chynnydd sylweddol yn Awstralia.

 

Mae dau achos o ffliw moch wedi’u cadarnhau yng Nghymru. Dyn 31 oed o ardal awdurdod lleol Caerffili oedd y cyntaf ac mae wedi gwella’n llwyr.

 

Yr ail achos a gadarnhawyd ar 3 Mehefin oedd Dr Eleanor Mair Williams, meddyg teulu ym Meddygfa Sgiwen, Castell-nedd Port Talbot. Cymerodd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol y cam eithriadol o’i henwi gyda’i chaniatâd. Cafodd Dr Williams gynnig cyffuriau gwrthfeirysol, ac mae’n gwella gartref. Mae ei salwch hi hefyd yn gysylltiedig â theithio yn UDA. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol wedi nodi 21 o bobl a oedd mewn cysylltiad agos â hi tra roedd yn sâl. Yn eu plith mae 4 o staff, 2 gyswllt cymdeithasol a 15 ymwelydd â’i meddygfa. Mae pob cyswllt agos yn iach, maent wedi cael cynnig cyffuriau gwrthfeirysol ac wedi cael cyngor am y symptomau i fod yn ymwybodol ohonynt. Mae meddygfa Sgiwen wedi’i datgan yn saff i gleifion ac mae ar agor fel arfer.


Am 5pm ar 9 Mehefin, roedd 115 o bobl wedi cael profion yng Nghymru. Profwyd nad ffliw moch yw 104 o’r achosion hynny, ac mae profion yn dal i gael eu cynnal ar naw.

 

Yn y DU, eto am 5pm ar 9 Mehefin, roedd 666 o achosion wedi cael eu cadarnhau, 286 o achosion yn fwy na’r 380 yr adroddais amdanynt yn fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf. Hyd yn hyn, nid yw’r afiechyd wedi effeithio’n ddifrifol ar y rhan fwyaf o bobl, ond yn achos lleiafrif bach. Cofiwch fod ffliw tymhorol yn gallu gwneud pobl yn ddigon sâl nes eu bod yn gorfod mynd i’r ysbyty ac mae’n gallu achosi marwolaeth.

 

Mae tystiolaeth gynyddol o achosion gwasgaredig, heb gysylltiad â’i gilydd, sy’n arwain at ledaeniad parhaus, yn arbennig yn yr Alban, lle mae 3 chlaf yn parhau’n ddifrifol wael ac mewn gofal dwys. Cadarnhawyd achosion o ffliw moch, a rhai’n gorfod mynd i’r ysbyty, mewn naw ysgol yn Birmingham.

 

Mae’r math penodol hwn o ffliw yn newydd, ychydig o imiwnedd sydd gan bobl iddo, os o gwbl, ac rydym yn gwybod y bydd yn lledaenu ar draws y wlad maes o law. Yn yr achos yn Ysgol Welford yn Birmingham, yn yr achos ymhlith cefnogwyr pêl-droed Dunoon Glasgow Rangers yng Ngorllewin yr Alban ac mewn nifer o achosion eraill, rydym wedi gweld ffliw ymhlith pobl nad ydynt wedi teithio nac mewn cysylltiad â phobl a fu’n teithio, felly mae’n bwysig ein bod i gyd yn parhau’n wyliadwrus.

 

Mae nifer o weithwyr gofal iechyd yn yr Alban hefyd wedi dal yr afiechyd, sy’n ein hatgoffa o’r peryglon i weithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen sy’n dod i gysylltiad â phobl sydd â symptomau ffliw moch. Dyna pam – fel rwyf wedi’i ddweud mewn datganiadau blaenorol – y rhoddir blaenoriaeth i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gweithwyr eraill y rheng flaen, yn ogystal â’r rhai sydd mewn grwpiau risg clinigol o ran brechlynnau cyn-bandemig a masgiau wyneb.

 

Mae’r DU yn parhau i fynd ati i gyfyngu ar ledaeniad y feirws drwy ymyriadau fel rheoli achosion mewn ysgolion yn unol ag asesiadau risg lleol, defnyddio cyffuriau gwrthfeirysol fel modd o atal y clefyd, a chwilio am bobl sydd wedi dod i gysylltiad â chleifion. Ni fydd y strategaeth hon yn gweithio am gyfnod diderfyn, ac rydym wrthi’n ystyried y cam gweithredu nesaf, pan na fydd yn bosibl parhau â’r dull presennol. Gydol y cyfnod hwn, byddwn yn derbyn cyngor gwyddonol arbenigol gan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd  a’n Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol. Yn ogystal, rydym mewn cysylltiad rheolaidd â’n cydweithwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Rydym yn dal i fod yn barod am ail don bosibl fwy difrifol o’r feirws yn ystod misoedd y gaeaf. Bydd gwyddonwyr yn monitro effeithiau a difrifoldeb ffliw moch yn Hemisffer y De, mewn gwledydd fel Chile ac Awstralia, yn ofalus yn ystod misoedd y gaeaf. 

 

     Yr wythnos diwethaf yn y cyfarfod llawn, gofynnodd William Graham a Mohammed Ashgar am effeithiau niweidiol posibl MRSA a gafwyd yn y gymuned ar gleifion sy’n gwella o ffliw moch. Nid oes unrhyw dystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu bod MRSA yn broblem benodol i gleifion sy’n gwella yn y DU na’i bod yn debygol y bydd hwn yn cyd-daro â ffliw pe bai pandemig yn dod. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn monitro’r sefyllfa yn ofalus ac mae’r pedair gwlad yn stocio cyffuriau gwrthfiotig yn barod i drin niwmonia bacterol sy’n gallu dilyn ffliw.

 

Mae’n parhau’n hanfodol i’r cyhoedd gael yr wybodaeth ddiweddaraf, drwy ddarparu negeseuon iechyd cyhoeddus sy’n gywir a phriodol. Mae ein cyngor i’r cyhoedd yn dal yr un fath. Dylai pobl lynu wrth arferion hylendid da er mwyn helpu i atal y ffliw rhag lledaenu. Defnyddiwch hances bapur bob tro wrth disian. Taflwch hancesi sydd wedi cael eu defnyddio, gan fod germau yn gallu byw arnynt am amser, a golchwch eich dwylo yn rheolaidd, neu ddefnyddio hylif diheintio i’w glanhau. Rydym yn parhau i gynghori unrhyw un sydd â symptomau tebyg i ffliw ac sydd wedi teithio i un o’r ardaloedd yr effeithir arnynt, neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â pherson â ffliw moch, dylent aros gartref a ffonio eu meddyg neu Galw Iechyd Cymru.

 

Mae’r pedair gwlad yn parhau i gydweithio’n ardderchog, a hynny wrth inni ddal ati i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i baratoi ar gyfer y cam nesaf.

 

Byddaf yn adrodd i’r Cynulliad yn wythnosol ar y materion hyn, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau os bydd unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r sefyllfa bresennol.