Skip to content

Ysgrifenedig - Ffliw Moch H1N1

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ynghylch yr achosion o Ffliw Moch (H1N1) a’r datblygiadau diwethaf yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol.

 

Ddydd Llun, ysgrifennais at Aelodau’r Cynulliad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y ddau achos o ffliw moch yng Nghymru a gadarnhawyd dros y penwythnos. Yn y ddau achos – dyn 28 oed yn ardal Powys a bachgen 3 oed yng Ngheredigion – mae’r cleifion yn cael triniaeth wrthfeirysol ac maent yn dechrau gwella. Mae’r achos yng Ngheredigion yn gysylltiedig ag achos o ffliw moch sydd wedi’i gadarnhau yn ardal Birmingham.

 

Ers y penwythnos, mae tri achos pellach wedi’u cadarnhau, sef:

 

·        dyn 20 oed o Dorfaen sydd wedi cael cysylltiad uniongyrchol â rhywun y gwyddys bod arno ffliw moch yn ardal Bryste

·        menyw 19 oed yn Sir Fynwy, lle mae modd olrhain yr achos i gysylltiad â chlaf y gwyddys amdano yn ardal Caergrawnt

·        menyw 62 oed yng Ngheredigion a ddaeth i gysylltiad â rhywun o ardal Birmingham oedd wedi’i heintio â’r feirws.

 

Mae pawb yn dechrau gwella ac wedi cael cynnig triniaeth wrthfeirysol. Yn dilyn yr achosion diweddar hyn, mae 8 o achosion wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.

 

Am 5pm ar 23 Mehehin, y sefyllfa yng Nghymru oedd bod 160 o bobl wedi cael eu harchwilio yng Nghymru. Mewn 134 o achosion llwyddwyd i ddweud yn bendant nad oedd ffliw moch ar y cleifion, sy’n golygu bod angen cadw golwg ar 18 o bobl o hyd.

 

Yn y DU – unwaith eto am 5pm ar 23 Mehefin – roedd 2908 o achosion wedi’u cadarnhau, sef cynnydd o 1446 o achosion o’u cymharu â’r 1462 o achosion y soniais amdanynt yn fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, ac roedd cyfanswm o 64 o gleifion yn y DU wedi cael triniaeth mewn ysbyty. Hyd yn hyn, mae’r feirws yn y DU wedi bod yn gymharol ysgafn yn y rhan fwyaf o achosion. Mae lleiafrif bach o achosion wedi bod yn fwy difrifol yn yr un modd â ffliw tymhorol ac mae un person wedi marw yn yr Alban.

 

Ar draws y byd (ac eithrio’r DU), y sefyllfa yw bod dros 52,000 o achosion wedi’u cadarnhau mewn 98 o wledydd ar draws pob cyfandir, gan gynnwys 2436 o achosion sydd wedi’u cadarnhau yn Awstralia. 

 

Y newyddion diweddaraf yw bod 230 o bobl wedi marw o’r ffliw ar draws y byd, y rhan fwyaf ohonynt ym Mecsico, ond hefyd 87 o bobl yn UDA. Mae adroddiadau hefyd am bobl yn marw o’r ffliw yng Nghanada, Chile, Costa Rica, Guatemala, y Weriniaeth Ddominicaidd, Colombia, yr Ariannin ac Awstralia.

 

Rydym wedi pwysleisio o’r dechrau y byddai achosion yng Nghymru, a bydd y niferoedd yn parhau i gynyddu wrth i’r haint ledu. Rhaid i bawb fod ar eu gwyliadwriaeth o hyd a cheisio atal y feirws rhag lledu trwy ddilyn arferion da o ran anadlu a golchi dwylo. Yn ôl fy arfer, byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi wrth i’r sefyllfa ddatblygu.