Skip to content

Ysgrifenedig - Ffliw Moch H1N1

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart , y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr achos o ffliw moch, a’r datblygiadau diweddaraf yng Nghymru a ledled y DU. 

 

Ni fu unrhyw newid i rybudd ffliw pandemig Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’r rhybudd hwnnw yn parhau ar lefel cam 5, sy’n adlewyrchu bod y clefyd yn trosglwyddo o berson i berson ar raddfa eang. Fodd bynnag, er nad yw’r Sefydliad wedi datgan bod pandemig wedi cyrraedd, mae’r sefyllfa fyd-eang yn parhau’n ddifrifol. Mae dros 17,000 o achosion wedi cael eu cadarnhau mewn 66 o wledydd (gan gynnwys y DU).  

 

Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf, bu 117 o farwolaethau ledled y byd, y rhan fwyaf ohonynt ym Mecsico, ond bu hefyd 17 o farwolaethau yn Unol Daleithiau America (UDA). Erbyn hyn, mae achosion wedi cael eu cadarnhau ar bob cyfandir, gyda chynnydd nodedig yn Chile ac Awstralia.

 

Cafodd yr achos cyntaf o ffliw moch yng Nghymru ei gadarnhau ddydd Sul 31 Mai. Dyn 31 oed o ardal awdurdod lleol Caerffili yw’r claf. Roedd wedi dychwelyd yn ddiweddar o UDA, ac roedd wedi dweud bod ganddo symptomau ffliw ysgafn.

 

Cafodd y claf gynnig cyffuriau gwrthfeirysol, ac mae’n gwella gartref. Rwy’n deall bod teulu agos y claf yn iach, a’u bod wedi cael cynnig triniaeth.


Cafodd ail achos o ffliw moch ei gadarnhau ar 3 Mehefin, a’i gyhoeddi heddiw. Menyw o ardal Abertawe yw’r claf, ac mae’n gwella gartref ar ôl derbyn triniaeth. Mae’r achos hwn yn gysylltiedig â theithio i UDA.

 

Am 5pm ar 3 Mehefin, roedd 107 o bobl wedi cael profion yng Nghymru. Profwyd nad ffliw moch yw 95 o’r achosion hynny, ac mae profion yn dal i gael eu cynnal ar 10. Mae gan bob un o’r rheini, neu bu ganddynt, symptomau ysgafn, ar ôl iddynt deithio i ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.

 

Yn y DU, eto am 5pm ar 3 Mehefin, roedd 380 o achosion wedi cael eu cadarnhau, 273 o achosion yn fwy na’r 107 yr adroddais amdanynt ar 21 Mai.  Mae tystiolaeth gynyddol o achosion gwasgaredig, digyswllt, sy’n arwain at ledaeniad parhaus, yn arbennig yn Yr Alban. 

 

Ar sail y dystiolaeth wyddonol a dderbyniwyd hyd yma, mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd a’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol o’r farn bod y math o ffliw sy’n cylchredeg ar hyn o bryd yn achosi salwch cymharol ysgafn yn y rhan fwyaf o achosion. Er hynny, efallai bod y raddfa y mae’r ffliw yn ymosod yn unol â hi ychydig yn uwch na ffliw tymhorol arferol, a phobl ifanc sy’n cael eu heffeithio’n bennaf. Fodd bynnag, rhaid inni fod yn wyliadwrus oherwydd rydym yn gwybod bod ffliw tymhorol yn gallu achosi salwch difrifol, ac rydym yn deall bod 4 claf sy’n dioddef o’r feirws H1N1 yn Yr Alban mewn unedau gofal dwys. Mae’n ymddangos mai achosion gwasgaredig yw’r 4 achos, ac nid ydynt yn gysylltiedig â theithio dramor.

 

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd 94 o achosion newydd eu cadarnhau yn Ysgol  Welford, Birmingham. Dyma’r achos mwyaf i gychwyn mewn ysgol yn y DU hyd yma. Cafodd yr ysgol ei chau er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y feirws. Nid yw’n ymddangos bod yr achosion hyn yn gysylltiedig â theithio, sy’n golygu ei bod hi’n debygol bod y clefyd yn lledaenu yn y gymuned. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth o hyd o ledaeniad ‘cyson’ yn y gymuned. Yn Yr Alban, cafwyd clystyrau cyffelyb o achosion, er enghraifft yr achos ymhlith cefnogwyr Dunoon Glasgow Rangers, nad oedd yn gysylltiedig â theithio i UDA neu i Fecsico. 

 

Mae systemau i gadw golwg yn eu lle gan feddygon teulu, a hynny er mwyn mesur lledaeniad y feirws mewn cymunedau. Mae’r system arferol o gadw golwg ar salwch sy’n debyg i ffliw tymhorol wedi cael ei ymestyn i fisoedd yr haf. Yn ogystal â hynny, mae 19 o’r 42 practis sy’n cymryd rhan yn y gwaith hwn i gadw golwg ar y sefyllfa yn cynnal profion ar gleifion er mwyn dod o hyd i achosion digyswllt yn y gymuned.  

 

Mae systemau cyfrifiadur pob practis yng Nghymru sy’n cynnwys meddalwedd cydweddol yn cael eu chwilio yn ddyddiol i fonitro faint o ymgyngoriadau sy’n cael eu cynnal ar gyfer salwch tebyg i ffliw. Mae hyd at 70% o bob practis yng Nghymru yn cyflwyno data yn ddyddiol erbyn hyn, felly rydym yn gallu asesu unrhyw ledaeniad yn y gymuned.  

 

Mae’r DU yn parhau i fynd ati i gyfyngu ar ledaeniad y feirws drwy ymyriadau fel cau ysgolion, defnyddio cyffuriau gwrthfeirysol fel modd o atal y clefyd, a chwilio am bobl sydd wedi dod i gysylltiad â chleifion. Ni fydd y strategaeth hon yn gweithio am gyfnod diderfyn, ac rydym wrthi’n ystyried y cam gweithredu nesaf, pan na fydd yn bosibl parhau â’r dull presennol. Gydol y cyfnod hwn, byddwn yn derbyn cyngor gwyddonol arbenigol gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.

 

Mae’r neges i’r cyhoedd, felly, yn dal yr un fath: i fod yn wyliadwrus, a dilyn y cyngor hylendid allweddol sydd i’w cael yn y daflen am ffliw moch sydd eisoes wedi ei dosbarthu i bob cartref. Mae gwneud hynny yn bwysicach fyth wrth inni symud i gyfnod newydd yn hanes y clefyd.

 

Er ei bod hi’n dal i ymddangos bod y feirws yn llai difrifol nag achosion blaenorol o ffliw pandemig, rydym yn dal i fod yn barod am ail don o’r feirws yn ystod misoedd y gaeaf. Bydd gwyddonwyr yn parhau i fonitro effeithiau a difrifoldeb ffliw moch yn Hemisffer y De, mewn gwledydd fel Chile ac Awstralia, yn ofalus yn ystod misoedd y gaeaf. 

 

      Yn fy natganiad llafar diwethaf, cyhoeddais wrth yr Aelodau y byddai cynhyrchu brechlynnau gwrthfeirysol yn barod ar gyfer pandemig yn cychwyn cyn gynted â phosibl. Mae’r gwaith o sicrhau y bydd gennym gyflenwad o frechlynnau ar gyfer pandemig ar gael erbyn diwedd mis Rhagfyr ar amser. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen, a’r rheini sy’n perthyn i’r grwpiau sydd mewn perygl clinigol, fel pobl hŷn a phlant.

 

Mae’n parhau’n hanfodol i’r cyhoedd gael yr wybodaeth ddiweddaraf, drwy ddarparu negeseuon iechyd cyhoeddus sy’n gywir a phriodol. Rwy’n sylweddoli hefyd pa mor bwysig yw cyfathrebu’n rheolaidd â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, ac aelodau eraill o staff y rheng flaen. O ganlyniad, mae bwletin newyddion wythnosol wedi cael ei baratoi. Mae’r bwletin yn cefnogi’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n cael ei chyhoeddi’n ddyddiol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru. Mae’n arbennig o ddefnyddiol gan ei fod yn cyfeirio at y canllawiau a’r cyngor mwyaf diweddar am ffliw moch a ffliw pandemig.

 

Mae’r pedair gwlad yn parhau i gydweithio’n ardderchog, a hynny wrth inni ddal ati i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i baratoi ar gyfer achos o ffliw pandemig.

 

Byddaf yn adrodd i’r Cynulliad yn wythnosol ar y materion hyn, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau os bydd unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r sefyllfa bresennol.