Skip to content

Llafar - Wasanaethau i Blant yn Abertawe

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Gwasanaethau Cymdeithasol

Carwn wneud datganiad am wasanaethau cymdeithasol i blant yn Abertawe.

Rhoddais ddatganiad ym mis Mehefin 2007 am ganfyddiadau a goblygiadau’r adolygiad o wasanaethau cymdeithasol plant yn Ninas a Sir Abertawe, a gynhaliwyd ym mis Mawrth a mis Ebrill 2007 gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Canfu’r adolygiad hwnnw fod pryderon difrifol ym meysydd craidd darparu gwasanaethau ac, wrth ystyried hynny, penderfynodd y prif arolygydd ddefnyddio’r protocol ar gyfer ymateb i bryder difrifol am wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng nghyswllt yr awdurdod hwnnw. Mae’r protocol hwnnw yn dal ar waith, a, dros y 18 mis diwethaf, mae’r arolygiaeth wedi gosod targedau gwella ar gyfer yr awdurdod ac wedi monitro i ba raddau yr oedd cynnydd yn cael ei wneud. Mae’r prif arolygydd cynorthwyol wedi cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r prif weithredwr ac uwch gyfarwyddwyr eraill i adolygu’r sefyllfa, ac mae’r arolygiaeth wedi ysgrifennu droeon am y materion y mae angen rhoi sylw iddynt a chadarnhau disgwyliadau o’r gwelliannau yr oedd angen eu gwneud.

Cynhaliwyd arolygiad pellach o wasanaethau cymdeithasol plant yn Abertawe ym mis Rhagfyr 2008. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Ebrill, ond yr wyf wedi cael gwybod beth yw’r canfyddiadau. I grynhoi, er bod rhywfaint o welliant, yr un yw’r dyfarniad cyffredinol am wasanaethau cymdeithasol plant ag a gafwyd yn dilyn arolygiad 2007. Mae ei wasanaethau’n dal yn anghyson ac mae’r rhagolygon ar gyfer gwella yn dal yn ansicr. Yr wyf wedi cwrdd ag arweinydd yr awdurdod a deilydd y portffolio gwasanaethau cymdeithasol dair gwaith ers adroddiad arolygiad 2007, ac yr wyf wedi egluro fy mod yn disgwyl gweld gwelliannau sylweddol mewn gwasanaethau ac y dylai 18 mis fod yn ddigon er mwyn cyflawni hynny. Mae canfyddiadau’r arolygiad diweddar yn siomedig. Bu rhai gwelliannau, ond cyfyngedig a thameidiog fu’r cynnydd, ac, ym marn Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, nid yw plant yn cael eu gwasanaethu’n dda o hyd.

Yr oedd ymateb cyntaf yr awdurdod i’r pryderon a fynegwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru o ganlyniad i arolygiad 2007 yn annigonol. Er gwaethaf symud ymlaen wedi hynny ynglŷn â materion y gweithlu, ac yn ddiweddar ynghylch rheoli perfformiad, pryderon am agwedd yr awdurdod at gynllunio a phartneriaeth, comisiynu, adnoddau, arweiniad a diwylliant, cefnogaeth gorfforaethol a gwleidyddol, a chraffu yn aros, gan adael yr awdurdod mewn sefyllfa ansicr o ran ei ragolygon ar gyfer gwella.

Yr wyf wedi dod i’r casgliad fod maint y gwelliant yn Abertawe wedi bod yn annigonol, ac ystyried y buddsoddiad sylweddol o ran amser a chymorth y mae’r arolygiaeth wedi’i wneud ers galw ar y protocol. At hynny, ni ellir cynnal y lefel honno o ymyrryd yn ddiddiwedd. O gymryd y cymorth hwnnw i ffwrdd, mae’r risg yn rhy fawr y gwnaiff y sefyllfa gyfredol—er mor anfoddhaol y mae o hyd—ddirywio ymhellach.

Yn y fan yma, hoffwn gydnabod, fel y gwnaeth yr arolygwyr, ymroddiad ac ymrwymiad staff rheng flaen yr awdurdod, sy’n ymdrechu, a hynny’n aml mewn amgylchiadau anodd, i ddarparu gwasanaethau a all ymateb i anghenion, diogelu plant a phobl ifanc Abertawe a chynnal eu teuluoedd. Yr wyf yn siŵr yr hoffai pawb ohonoch ymuno â mi i wneud hynny. Fodd bynnag, rhaid iddynt gael cefnogaeth yr awdurdod cyfan ac arweiniad corfforaethol cryf os yw eu gwaith caled am fod yn effeithiol ac os am gyflawni’r gwelliannau angenrheidiol i wasanaethau cymdeithasol plant yn Abertawe.

Ni fu’r arweiniad yn ddigonol yn ystod y cyfnod y bu’r protocol ar waith, a chafwyd enghreifftiau o oedi wrth fynd i’r afael â meysydd gwella ac wrth sefydlu bwrdd gwella i hyrwyddo’r gwaith hwn, sy’n peri pryder. Gwelwyd tystiolaeth hefyd o ddiffyg cydlyniad a chanolbwyntio ar draws yr awdurdod, a galwaf ar holl aelodau’r awdurdod, o ba bynnag liw gwleidyddol, i gyflawni’u cyfrifoldebau fel rhiant corfforaethol i’r plant sydd yng ngofal yr awdurdod. Rôl y rhiant corfforaethol yw ceisio dros blant mewn gofal cyhoeddus yr un canlyniad ag y byddai pob rhiant da’n ei ddymuno ar gyfer ei blant ei hun, ac amlinellais y cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth hyn yn fy llythyr ym Medi 2008 at holl aelodau etholedig awdurdodau lleol yng Nghymru.

Nid wyf yn barod i wasanaethau cymdeithasol i blant ddisgyn ac aros o dan safonau derbyniol, ac yr wyf o’r farn fod Dinas a Sir Abertawe wedi methu cymryd camau digonol i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd gan arolwg 2007 a sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol yn y gwasanaethau hynny. Felly, cyfarfûm y bore yma â’r dirprwy arweinydd a deilydd portffolio’r gwasanaethau cymdeithasol i’w hysbysu fy mod yn ystyried gwneud Gorchymyn dan adran 84 Deddf Plant 1989 yn datgan eu bod yn ddiffygiol mewn rhai swyddogaethau penodol yng nghyswllt darparu gwasanaethau cymdeithasol plant ac yn eu cyfarwyddo i gymryd camau penodol. Yr wyf yn ysgrifennu at yr awdurdod heddiw i gadarnhau hyn, gan roi cyfle iddynt ymateb i’r bwriad hwn o fewn pythefnos. Byddaf yn hysbysu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am hyn hefyd.

Asesir ymateb yr awdurdod yn erbyn fy mhenderfyniad y dylid gwella gwasanaethau cymdeithasol plant yn Abertawe yn fuan ac fel mater o flaenoriaeth. Wrth symud i gyhoeddi Gorchymyn o’r fath, yr wyf yn awyddus i’r cyfrifoldeb am sicrhau’r gwelliant angenrheidiol aros gydag aelodau’r awdurdod, sydd wedi’u hethol i wneud y gwaith hwn. Bwriadaf sefydlu bwrdd ymyrryd i gynnig her allanol gryf i’r awdurdod. Byddaf yn penodi aelodau i’r bwrdd, a ddylai gynnwys cadeirydd a dynnir o’r tu allan i’r gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol, aelod sydd neu a fu’n gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, pennaeth gwasanaethau cymdeithasol plant, prif weithredwr awdurdod lleol ac aelod etholedig mewn llywodraeth leol gyda phrofiad mewn materion gwasanaethau cymdeithasol.

Bydd gan y bwrdd ymyrryd bwerau sylweddol i fynnu bod yr awdurdod yn cymryd pob cam cyfrifol i’w alluogi i gyflawni’i gyfrifoldebau, i gynnig her allanol gryf i’r awdurdod ar lefel wleidyddol ac ar lefel swyddogion, i adrodd i fyrddau craffu a throsolwg ar y camau y mae’r awdurdod yn eu cymryd, ac i adrodd i mi ar hynt yr awdurdod yn ôl amserlen reolaidd, a bennir gennyf fi.

Yr wyf yn ymwybodol o’r ffaith mai dyma’r tro cyntaf i Orchymyn o’r fath efallai gael ei gyhoeddi yng nghyswllt awdurdod lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, teimlaf fod yr amgylchiadau’n mynnu fy mod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i wneud hynny. Ysgrifennaf at Aelodau’r Cynulliad i’w hysbysu am y camau y byddaf yn eu cymryd yn dilyn y cyfle i ymateb a gynigiais i’r cyngor yn Abertawe.