Skip to content

Ysgrifenedig - Datblygiadau Technolegol yn y Gwasanaethau Tån ac Achub yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub wedi bod yn flaengar erioed ac wedi ymroi i leihau marwolaethau ac anafiadau boed oherwydd tân, gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd neu unrhyw ddigwyddiad brys difrifol arall.  Cafodd hyn ei gyflawni bob blwyddyn nid dim ond drwy adolygu a gwella gweithdrefnau gweithredol ond hefyd drwy fynd ati i ddatblygu a defnyddio dulliau technolegol blaengar sy’n datblygu mwyfwy ym maes cyfathrebu, diffodd tanau a chyfarpar achub.  

Mae digwyddiadau mawr difrifol lle mae nifer fawr o bobl yn marw mewn tanau bob amser wedi sbarduno sefydlu deddfwriaeth tân newydd, safonau adeiladu a gweithdrefnau gweithredol. Mae digwyddiadau trychinebus y blynyddoedd diwethaf megis yr ymosodiadau gan derfysgwyr ar Ganolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd yn 2001 (9/11), ar rwydwaith tanddaearol Llundain neu tanau mawr megis Buncefield wedi bod yn sbardun ar gyfer datblygiadau technolegol sylweddol yn y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled y DU ac yn benodol yng Nghymru.

Dangosodd yr ymosodiad ar 9/11 lle bu 2,751 o bobl farw, gan gynnwys 343 o ddiffoddwyr tân, ddiffyg affwysol o ran gallu’r gwasanaethau brys i gyfathrebu â’i gilydd.  Yn sgil hyn, aethpwyd ati ar frys i roi uwch-system radio  ddigidol o’r enw Firelink ar waith yn y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru, Lloegr a’r Alban; ynghyd â sefydlu Rhaglen y Dimensiwn Newydd. Penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad ymuno â’r contract Firelink yn 2006, gan fuddsoddi bron £45 miliwn dros ddeng mlynedd.

Bydd Firelink yn darparu system data a llais radio gydnerth fydd yn galluogi’r Gwasanaethau Tân ac Achub a gwasanaethau golau-glas eraill i gyfathrebu â’i gilydd; nid yn unig yn lleol ond hefyd ar draws ffiniau, i Loegr.  

Mae Firelink yn diwallu angen busnes allweddol am ddulliau cyfathrebu symlach, effeithlon ac effeithiol mewn digwyddiadau mawr, a chaiff hyn ei ddangos yn y ffordd y mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn cydweithredu a chydweithio’n fwy drwy sicrhau bod modd defnyddio unrhyw offer i gysylltu ag unrhyw ganolfan reoli heb golli’r sain na data. Mae Firelink hefyd yn darparu’r cyfathrebu ategol ag asedau Rhaglen y Ddimensiwn newydd.

Y gobaith yw y bydd y system yn gwbl weithredol erbyn diwedd 2009 ac y bydd nid yn unig yn system trawsyrru sain o ansawdd uchel ond hefyd yn trawsyrru data i offer y rheng flaen, gan ddarparu gwybodaeth allweddol am eiddo, cerbydau, peryglon a gweithdrefnau gweithredol, tra’n symudol. Bydd gwybodaeth am leoliad cerbydau hefyd yn cael ei throsglwyddo’n awtomatig i staff yr ystafell reoli er mwyn sicrhau’r ymateb cyflymaf a mwyaf effeithlon.

Yn sgil gweithredu system Firelink, ysgogwyd syniadau technolegol newydd ynghylch sut i sicrhau bod y tair ystafell reoli yng Nghymru yn gallu gwrthsefyll amgylchiadau argyfyngus pan fo afon yn ei llif neu pan fo un neu fwy o’r ystafelloedd rheoli yn methu.  O’r herwydd, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi arian i’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub allu uwchraddio’u system neu sefydlu system  gorchymyn a rheoli newydd o’r radd flaenaf fydd yn gyffredin i’r tri Gwasanaeth, i’w paratoi ar gyfer prosiect i wneud y tair ystafell reoli yn gydnerth.  Mae’r  prosiect bellach ar waith, yn sgil cael cyllid gwerth £1.87 gan Lywodraeth y Cynulliad. Bydd hyn yn golygu y gellir trefnu’r holl offer tân a’r cerbydau achub o unrhyw un o’r tair prif ystafelloedd rheoli yng Nghymru  ac o Ganolfan Cydgysylltu Argyfyngau Cymru yn Llywodraeth y Cynulliad.  

Bydd y prosiect yn manteisio ar y fenter gydweithredol i gyflwyno technolegau newydd fydd yn gwella’r gwasanaeth 999 tân ac achub brys yng Nghymru o safbwynt y sawl sy’n galw’r gwasanaeth a’r gweithredwr yn yr ystafell reoli.

Mae datblygiadau technolegol hefyd wedi golygu  bod modd i’r  Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub weithio gyda’i gilydd mewn canolfan gwasanaethau gorchymyn ac achub brys ar y cyd yn Llanelwy, Sir y Fflint, a aeth yn fyw ym mis Hydref.

Bydd hyn yn arwain y ffordd at sicrhau amcanion tymor hwy prosiect y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys ar gyfer ystafelloedd rheoli’r gwasanaethau brys yng Nghymru, ac at ategu’r gwaith a wneir.

Mae’r broses o gyflwyno Rhaglen y Ddimensiwn Newydd fesul cam ar fin ei chwblhau; mae gan y Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru Unedau Ymateb i Ddigwyddiadau ar gyfer dadheintio ar raddfa fawr; timau Chwilio ac Achub Trefol; Offer Pwmpio Cyfeintiau Mawr i ddelio â llifogydd neu pan fo angen cyfeintiau mawr o ddŵr i ddiffodd tanau mawr; a’r gallu i Ganfod ac Adnabod Deunyddiau Peryglus (DIM).

Mae’r holl offer hwn wedi’i ddylunio, ei ddatblygu a’i greu yn ôl safonau technegol uchel iawn er mwyn ateb galwadau ein hoes. Mae rhaglen hyfforddi lefel uchel ddwys ar gyfer difforddwyr tân i’w galluogi i ddefnyddio’r offer arbenigol hwn yn effeithiol wedi’i rhoi ar waith. Mae Canolfan Hyfforddi Cymru-gyfan bwrpasol wedi’i hadeiladu yn Earlswood, Llansawel gydag arian Llywodraeth y Cynulliad er mwyn hwyluso’r broses  dechnegol iawn o hyfforddi timau chwilio ac achub trefol.

Dangoswyd gwerth a llwyddiant y rhaglen hon ar sawl achlysur, er enghraifft yn ymateb Cymru i’r llifogydd mawr yn Swydd Efrog, Swydd Gaerloyw a Tewkesbury; wrth ddiffodd tân enfawr yn Buncefield ac wrth ddelio ag adeiladau a oedd wedi dymchwel mewn amrywiol leoliadau. Yn ogystal â’r Offer Pwmpio Cyfeintiau Mawr,  mae’r gallu DIM yn cael ei roi ar waith yn rheolaidd i adnabod deunyddiau a allai fod yn beryglus ac a allai achosi niwed difrifol.

Mae’r holl brosiectau hyn yn enghreifftiau pwysig o ddatblygiadau technolegol modern a’r cydweithredu sy’n bodoli rhwng y Gwasanaethau Tân ac Achub a’r Llywodraeth.