Skip to content

Ysgrifenedig - Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru

Ar 18 Mawrth 2009, cafodd yr ail orchymyn trosglwyddo swyddogaethau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (adran 58) ei wneud gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor (y Gorchymyn). Mae’r Gorchymyn yn trosglwyddo swyddogaethau o dan adran 47 o Ddeddf Carchardai 1952 mewn perthynas ag addysg, hyfforddiant a llyfrgelloedd, i Weinidogion Cymru, a bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2009.

 

Mae copi o’r Gorchymyn wedi ei osod o flaen y Cynulliad. O dan y trefniadau blaenorol yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998, roedd swyddogaethau’n cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac yna’n cael eu dirprwyo i’r Gweinidogion. Ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad gael ei gwahanu’n gyfreithiol oddi wrth y Cynulliad ym mis Mai 2007, cafodd yr holl swyddogaethau gweithredol yr oedd gan y Cynulliad ar y pryd eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Ar ôl i’r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau hwn gael ei wneud, Gweinidogion Cymru fydd â’r pŵer i wneud rheolau mewn perthynas â’r addysg a’r gwasanaethau llyfrgell sydd i’w darparu mewn carchardai yng Nghymru.

 

Goblygiadau Ariannol

Nid oes unrhyw faterion arwyddocaol sy’n ymwneud â chostau yn gysylltiedig â’r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau hwn. Yn ystod y trafodaethau gyda’r Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau, canolbwyntiwyd ar y cyllid ar gyfer 2009-2010 a 2010-2011, a hynny yn unol â’i setliad o dan yr adolygiad o wariant, a llwyddwyd i sicrhau cytundeb da a theg o ran yr adnoddau a fyddai’n cael eu trosglwyddo. Roedd y cytundeb hwnnw’n seiliedig ar y niferoedd sydd yng ngharchardai Cymru ar hyn o bryd.

Cafwyd sicrwydd hefyd y byddai adnoddau ychwanegol yn cael eu trosglwyddo er mwyn talu am y costau dysgu ychwanegol pe bai rhagor o leoedd yn cael eu creu mewn carchardai yng Nghymru, naill ai drwy ehangu carchardai sy’n bodoli eisoes neu drwy adeiladu carchardai newydd. Gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder y mae’r cyllid adnoddau ar gyfer y costau gweithredu sy’n gysylltiedig â’r lleoedd mewn carchardai sy’n cael eu hadeiladu o’r newydd ac sy’n rhan o’r Rhaglen Capasiti Carchardai. Mae’r costau gweithredu hynny’n cynnwys costau ar gyfer dysgu a sgiliau. Byddai’r cyllid y cytunwyd arno ar gyfer dysgu a sgiliau yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru unwaith y byddai lleoedd newydd mewn carchardai ar gael yng Nghymru.

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cael sicrwydd ac ymrwymiad hefyd oddi wrth adrannau perthnasol Llywodraeth y DU y bydd arian canlyniadol ar gyfer dysgu ymhlith carcharorion ar gael yng Nghymru ar gyfer 2011/2012 ymlaen.

 

Nid oes unrhyw faterion arwyddocaol sy’n ymwneud â materion trawsffiniol yn gysylltiedig â’r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau hwn. 

 

Ar ôl i’r swyddogaethau gael eu trosglwyddo, bydd y pŵer i wneud rheolau sy’n ymwneud â darparu addysg a hyfforddiant, a gwasanaethau llyfrgell o dan adran 47 o Ddeddf Carchardai 1952 yn gymwys i’r carchardai sy’n bodoli eisoes ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Caerdydd, Brynbuga a Phrescoed ac i unrhyw garchardai newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru. Byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn cydweithio â’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr - Cymru (NOMS Cymru), sy’n gyfrifol am gomisiynu ac am ddarparu gwasanaethau addysgol mewn carchardai yng Nghymru, er mwyn sicrhau yr eir ati mewn ffordd gyson i ddarparu addysg a hyfforddiant ar draws holl garchardai Cymru. Bydd hyn yn fodd i weithredu’r agenda sydd gennym ar y cyd, ac a amlinellir yn y ddogfen bolisi Dysgu Newid.

 

Bydd trosglwyddo’r swyddogaethau hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu:

  • mynd ati i gynllunio ac i reoli’n strategol, gan gysylltu’r gwaith â’r agenda ehangach sydd ganddi o ran sgiliau a chyfiawnder cymdeithasol, a darparu lefel gyson o wasanaethau ar draws holl garchardai Cymru; 
  • integreiddio addysg mewn carchardai yng Nghymru ag addysg a hyfforddiant y brif ffrwd, gan helpu i gynnig cyfleoedd dysgu cydgysylltiedig i droseddwyr cyn iddynt gael eu dedfrydu, yn ystod y broses ddedfrydu ac ar ôl iddynt gael eu dedfrydu. Bydd hyn yn golygu y bydd gofyn cydgysylltu’r addysg a’r hyfforddiant a ddarperir mewn carchardai a chan y gwasanaeth prawf, ac yn achos troseddwyr ifanc, bydd gofyn bod yn rhan o Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc;
  •  sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu mewn carchardai yn ymateb yn well i gyfleoedd yn y farchnad lafur yng Nghymru, gan sicrhau cynnydd yn y gyfradd gyflogaeth ymhlith cyn droseddwyr (sy’n ffactor pwysig er mwyn sicrhau gostyngiad yn y niferoedd sy’n aildroseddu);
  •  achub ar y cyfle i arloesi ac i dreialu ffyrdd newydd o weithredu, er enghraifft, o ran creu cysylltiadau â gwasanaethau Gyrfa Cymru, neu i dreialu dulliau newydd o weithredu mewn perthynas â systemau gwybodaeth;
  •  Mae’n briodol mai Gweinidogion Cymru ddylai arfer y swyddogaeth hon ar gyfer carcharorion yng Nghymru, a hynny am fod addysg a hyfforddiant yn faterion sydd wedi’u datganoli. Bydd yn caniatáu i addysg mewn carchardai gael ei hintegreiddio’n llawn â pholisïau presennol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar addysg, hyfforddiant a dysgu gydol oes.  

Mae strategaeth sgiliau a chyflogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru: ‘Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru’ 2008 yn cyfeirio’n benodol ar yr angen i weithio mewn partneriaeth er mwyn cynorthwyo troseddwyr i feithrin eu sgiliau ac i gael gwaith cynaliadwy. Ymgynghorwyd yn eang am y strategaeth hon, ymhlith rhanddeiliaid allweddol a’r cyhoedd fel ei gilydd, ac un o’r camau gweithredu allweddol oedd cwblhau’r broses trosglwyddo swyddogaethau.