Yn dilyn y ddau adolygiad a gynhaliwyd o’r diwydiant twristiaeth a marchnata, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi crynodeb o’r diweddaraf am dwristiaeth. Yn gyntaf, yr oedd y ddwy uwchgynhadledd twristiaeth a gynhaliwyd y llynedd yn gyfle gwerthfawr i gryfhau cysylltiadau gweithio a’r berthynas rhwng y Llywodraeth a’r diwydiant twristiaeth, a hoffwn ddatblygu ar hynny. Un o’r argymhellion allweddol a gododd o’r adolygiad o’r diwydiant y llynedd oedd yr angen am bartneriaeth twristiaeth newydd rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat ar lefel genedlaethol. Cafodd hynny gefnogaeth Cynghrair Twristiaeth Cymru, a oedd yn galw am bartneriaeth o dan arweiniad y diwydiant. Yr wyf yn gefnogol iawn i fwy o gyfranogiad gan y diwydiant ar draws pob sector wrth ddatblygu’r polisi a’r strategaeth ym maes twristiaeth. Felly, yr wyf wedi derbyn argymhellion yr adroddiad a barn Cynghrair Twristiaeth Cymru bod angen sefydlu partneriaeth gryfach, sy’n cael ei harwain gan y diwydiant, er mwyn cyflawni hynny.
Yn sgil ymgynghori â’r gynghrair, a chyngor gan fy mhanel cynghori ar dwristiaeth, mae Croeso Cymru wedi cyflwyno cynigion ar gyfer gwneud hynny. Daeth cyfnodau aelodau presennol y panel i ben ar 15 Mai. Yr wyf yn cynnig sefydlu panel cynghori ar dwristiaeth newydd gydag aelodaeth gryfach, sy’n cynrychioli’r diwydiant i raddau mwy. Bydd hynny yn creu partneriaeth well rhwng y Llywodraeth a’r diwydiant. Bydd y bartneriaeth hon yn cynnwys cynrychiolwyr allweddol o’r diwydiant, yn ogystal â swyddogion perthnasol o’r Adran Dreftadaeth. Bydd hynny’n ein galluogi i greu cronfa wybodaeth a mecanwaith cyfathrebu a chyflawni newydd ar draws y sector.
Mae rhestr wedi ei llunio sy’n cynnwys holl argymhellion a chamau gweithredu’r adroddiad ar adolygu’r diwydiant. Bydd y rhain yn cael eu datblygu gan y gynghrair a Croeso Cymru, a fydd yn ymgynghori ac yn gweithio gydag eraill yn ôl y gofyn. Mae fy swyddogion, drwy gydweithio â’r gynghrair, eisoes yn datblygu tri grŵp gorchwyl a gorffen mewn meysydd allweddol a godwyd yn ymateb y gynghrair i’r adolygiad o’r diwydiant. Mae’r tri grŵp yn cwmpasu: yn gyntaf, cais a phrosiect y gronfa gydgyfeirio marchnata digidol—mae’r gynghrair wedi bod yn cydweithio’n agos â Croeso Cymru wrth ddatblygu’r prosiect hwn; yn ail, canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad ‘Marchnata a Rheoli Cyrchfan’, a byddaf yn trafod yr adroddiad hwn yn y man; ac yn drydydd, yr ymatebion a’r pryderon am faint o gymorth y mae busnesau twristiaeth yn ei gael gan y gronfa fuddsoddi sengl newydd. Bydd yn edrych hefyd am ffyrdd newydd o gynghori busnesau ar sut i gael gafael ar gefnogaeth ac arian o’r cronfeydd.
Bydd yr adolygiad o’r diwydiant, ar y cyd â’r adolygiad marchnata a rheoli cyrchfan, yn ein helpu i ddeall anghenion presennol y diwydiant, a’r anghenion yn y dyfodol. Bydd hefyd o gymorth i ddeall yr hyn sydd angen ei wneud i wella ansawdd profiad yr ymwelwyr ar lefel cyrchfan, a sicrhau bod Cymru yn cael ei marchnata’n effeithiol. Edrychodd yr adolygiad marchnata a rheoli cyrchfan ar y trefniadau presennol yng Nghymru ar gyfer datblygu a marchnata ein hardaloedd twristiaeth.
O ganlyniad, cafodd newidiadau sy’n angenrheidiol er mwyn cynnig profiad o ansawdd uwch eu hargymell. Yr oedd hefyd yn archwilio’r strwythurau rhanbarthol a lleol ar gyfer marchnata Cymru, y berthynas â gweithgareddau eraill ym maes marchnata, a’r angen i ddefnyddio adnoddau cyfyngedig mewn ffordd fwy effeithiol. Mae grŵp gorchwyl a gorffen wedi ei sefydlu erbyn hyn i ystyried argymhellion yr adolygiad ac i gytuno ar gynllun gweithredu priodol i ddatblygu’r gwaith hwn, a hynny mewn ffordd sy’n sicrhau bod y strwythurau cywir yn eu lle ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Erbyn dechrau’r hydref, y gobaith yw y bydd y grŵp mewn sefyllfa i gyflwyno cynllun gweithredu terfynol i mi ei ystyried, a fydd yn nodi dulliau o ddatblygu’r argymhellion y cytunwyd arnynt yn yr adolygiad. Yn olaf, hoffwn sôn rhywfaint am rai o’r datblygiadau sydd ar y gweill, yn ogystal â’r rhagolygon ar gyfer y tymor sydd ar ddechrau. Byddaf yn gwneud hynny yn Saesneg.
Yr oeddwn wrth fy modd o weld yr hysbysebion teledu newydd yn cael eu darlledu ym mis Ionawr ar ôl lansio ymgyrch farchnata 2009 Croeso Cymru ledled y Deyrnas Unedig, ymgyrch sy’n werth £2.2 miliwn. Mae’r hysbysebion wedi cael eu dangos ar bob un o brif sianeli teledu’r DU. Mae’r ymgyrch hon wedi rhagori ar y targedau a osodwyd o ran nifer y bobl sydd wedi gofyn am lyfrynnau gwybodaeth ac sydd wedi gwneud ymholiadau ar-lein. O ran nifer y bobl a fydd yn dod i Gymru ar eu gwyliau yn ystod yr haf, mae’r arolygon a gynhaliwyd gan y diwydiant yn awgrymu bod lefel y diddordeb cynnar yn dda. Fodd bynnag, yr ydym yn ymwybodol bod llawer o ansicrwydd yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ac mae teimlad cryf nad yw pobl, mewn llawer o achosion, wedi mynd ati o ddifrif i drefnu gwyliau hyd yn hyn. Mae’n dra thebygol y bydd hon yn flwyddyn o drefnu gwyliau’n hwyr. Er inni gael penwythnos da dros y Pasg, a bod hyn wedi rhoi mwy o hyder i’r diwydiant ar gyfer yr haf sydd o’n blaenau, yr ydym yn ymwybodol nad yw hynny’n gwarantu tymor da.
Ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Mae Croeso Cymru wedi addasu’r cyllidebau eleni er mwyn rhoi’r adnoddau i’r tîm marchnata ymestyn yr ymgyrch bresennol yn y DU—gan gynnwys rhai hysbysebion teledu—tan ddechrau’r haf. Bydd hyn yn helpu i droi’r diddordeb a gynhyrchwyd yn archebion go iawn. Yn hynny o beth, ar 1 Mai, lansiodd Croeso Cymru ymgyrch ychwanegol, a welodd hysbyseb ‘Dadbacio Gwyliau’ yn cael ei ddarlledu rhwng 1 ac 17 o Fai. Mae Croeso Cymru hefyd yn bwriadu cynnal ymgyrch negeseuon e-bost ddiwedd mis Mai i gyd-fynd â Gŵyl y Banc, ac yng nghanol mis Gorffennaf i annog pobl wrth i’r gwyliau ysgol agosáu.
Mae’n bwysig cofio nad o gyllidebau Croeso Cymru yn unig y daw’r cyllid ar gyfer twristiaeth. Daw’r arian o gyrff eraill hefyd, fel Buddsoddi Cymru, Cadw, a Chronfeydd Adfywio a Datblygu Gwledig. Buddsoddwyd yn sylweddol mewn twristiaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ers mis Ebrill 2008, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi darparu cymorth gwerth mwy na £3.4 miliwn i brosiectau twristiaeth. Rhagwelir y bydd hyn yn arwain at fuddsoddiad gwerth bron i £35 miliwn. Yn ogystal â hyn, mae ceisiadau am gefnogaeth wedi’u cyflwyno sy’n gofyn am gyllid gwerth cyfanswm o fwy na £4.5 miliwn. Felly mae cymorth ariannol parhaus ar gael—sydd o bosibl dipyn yn uwch na’r £3.5 miliwn a oedd ar gael yn flynyddol dan hen gynllun grant adran 4 Bwrdd Croeso Cymru.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio fuddsoddiad gwerth £38 miliwn i adfywio safleoedd glan-y-môr a chanol tref yng ngogledd Cymru. Bydd y Rhyl a Bae Colwyn, sy’n ffocws allweddol ar gyfer adfywio, yn elwa ar ddatblygiadau ar lan y môr. Bydd y datblygiadau hyn yn gwella’r cyfleusterau presennol ac yn rhoi hwb i dwristiaeth. Bydd prosiectau i adnewyddu canol y dref yn cael eu rhoi ar waith ym Mangor a Chaernarfon hefyd. Ar Ynys Môn, bydd ystod o adeiladau hanesyddol gwag ledled y sir yn cael eu hadnewyddu er mwyn eu defnyddio unwaith yn rhagor at ddibenion economaidd. Mae Cynllun Môn a Menai hefyd yn cynnwys buddsoddiad sylweddol mewn glan cei newydd yng Nghaergybi, fel y gall llongau mordeithio ollwng teithwyr sydd am ymweld â safleoedd treftadaeth ac atyniadau eraill ledled gogledd Cymru ac Eryri.
Yn ogystal â rhoi twristiaeth wrth galon menter Blaenau’r Cymoedd, yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio fuddsoddiad pellach mewn twristiaeth gwerth £22 miliwn yng nghymoedd de Cymru dros y tair blynedd nesaf. Dylai hynny roi hwb i dwristiaeth. Mae bron i £10.5 miliwn o’r cynllun datblygu gwledig eisoes wedi’i ddyfarnu i tua 60 o brosiectau twristiaeth, ac mae Cadw yn arwain prosiect gwerth £19 miliwn i ddatblygu twristiaeth treftadaeth yng Nghymru. Bydd y prosiect hwn yn manteisio’n llawn ar werth economaidd treftadaeth drwy gynyddu nifer yr ymweliadau â Chymru, eu hyd a’u gwerth. Ynghyd â’r gwerth y mae sterling yn ei gynnig i ymwelwyr â Chymru a rhagolygon y dynion tywydd am haf gwell, gallwn edrych tua’r dyfodol yn weddol obeithiol y bydd ein diwydiant twristiaeth yn dod drwy’r trafferthion economaidd presennol.