Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun o dan y teitl “UK Low Carbon Transition Plan – National Strategy for Climate and Energy.”
Mae Cynllun Trosglwyddo i Economi Carbon Isel y DU yn adlewyrchu’r camau sy’n cael eu cymryd ledled pob gwlad yn y DU ac yn nodi’r ffordd y byddwn ni’n cydweithio i sicrhau bod y DU yn cadw at ei chyllidebau carbon ac yn cyflawni ei tharged, sef gostyngiad o 34% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2020 o’i chymharu â 1990. Mae hefyd yn nodi’r ffordd y caiff ynni’r DU ei wneud yn fwy diogel a’r cynlluniau i sefydlu system o rannu’r cyfrifoldeb dros sicrhau’r cyllidebau carbon ledled Adrannau llywodraeth y DU.
Caiff y Cynllun Trosglwyddo i Economi Carbon Isel ei ategu gan nifer o ddogfennau polisi mawr eraill, gan gynnwys Strategaeth Ddiwydiannol Carbon Isel y DU, sy’n amlinellu’r cynlluniau i helpu i drosglwyddo i ddiwydiant carbon isel, Strategaeth y DU ar Ynni Adnewyddadwy, sy’n nodi sut y bydd targed y DU, o gael 15% o’r holl ynni (trydan, gwres a thrafnidiaeth) o ynni adnewyddadwy erbyn 2020, yn cael ei gyflawni a Chynllun Trafnidiaeth Carbon Isel y DU, sy’n nodi’r ffordd y bydd allyriadau carbon o drafnidiaeth ddomestig yn cael eu lleihau hyd at 14% yn ystod y degawd nesaf.
Roedd yr angen i ddatgarboneiddio’r trydan a gynhyrchir yn un o argymhellion allweddol adroddiad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd, Building a Low Carbon Economy – the UK’s Contribution to Tackling Climate Change, ac fe’i hadlewyrchir yn y cynigion a gyhoeddwyd heddiw. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cadarnhau rhestr fer derfynol y cynlluniau ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb Ynni'r Llanw ar Afon Hafren. Yn eu plith mae tri morglawdd (gan gynnwys morglawdd Trwyn Larnog i Brean Down) a dau lagŵn. Mae tri chynllun arloesol hefyd wedi cael arian i helpu i’w datblygu.
- Arian i helpu i ddatblygu ‘smart grid’ a chyhoeddi map ffyrdd polisi y gwanwyn nesaf
- Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd i gymryd y cyfrifoldeb uniongyrchol a ysgwyddwyd gan Ofgem dros sefydlu trefn newydd o gyrchu’r grid o fewn blwyddyn
- Ymgynghoriad ar y newidiadau i’r Rhwymedigaeth bresennol ar Ynni Adnewyddadwy, megis ymestyn oes y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy tan o leiaf 2037 a chyflwyno terfyn 20 mlynedd ar gymorth
- Nifer o gynigion i helpu i ddefnyddio ynni adnewyddadwy
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i fynd â’r cynigion hyn a chynigion eraill yn eu blaenau er mwyn sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran cael budd yn sgil gweddnewid y sector cynhyrchu trydan. Roedd y Trywydd Ynni Adnewyddadwy, a oedd yn destun ymgynghoriad yn 2008, yn amlinellu’n gweledigaeth i wneud y gorau o adnoddau ynni adnewyddadwy eithriadol Cymru, a byddaf yn cyhoeddi Datganiad ar Ynni’r Môr yfory, sy’n rhoi mwy o fanylion am ein cynlluniau i wneud y gorau o’r cyfleoedd y mae adnoddau ynni’r môr yn eu cynnig ledled Cymru.
Bydd gwella effeithlonrwydd ynni domestig a gwneud mwy o ddefnydd o ficrogynhyrchu yn allweddol i leihau allyriadau yn y sector preswyl. Adlewyrchir hyn yn ein Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd – Ymgynghoriad ar Raglen Weithredu a bydd llawer o’r cynigion a amlinellir yng Nghynllun Trosglwyddo i Economi Carbon Isel y DU yn helpu Llywodraeth y Cynulliad i wireddu ei huchelgeisiau yn y maes hwn.
Dyma rai o’r cynigion newydd ynglŷn ag effeithlonrwydd ynni domestig yng Nghynllun Trosglwyddo i Economi Carbon Isel y DU:
- Cynlluniau peilot ‘talu wrth arbed’ i helpu pobl i wneud eu tŷ cyfan yn fwy gwyrdd drwy ddefnyddio’r arbedion a wneir ar filiau ynni i ad-dalu’r costau cychwynnol
- Ymgynghoriad ar gynllun a chyfradd Tariffau Bwydo i Mewn yn barod iddynt gael eu rhoi ar waith erbyn mis Ebrill 2010. Bydd cynllun tebyg ar gyfer gwres adnewyddadwy yn dilyn ym mis Ebrill 2011
- Ymestyn rhaglen effeithlonrwydd ynni bresennol y Targed Lleihau Allyriadau Carbon am flwyddyn arall i 2012 a chynnydd o 20% yng nghyfanswm y cymorth dan y cynllun i £3.2 biliwn
Mae hefyd nifer o gynigion a fydd yn helpu i fynd i’r afael ag effaith y prisiau ynni sy’n codi, yn enwedig ar y bobl fwyaf agored i niwed, ac a fydd yn ein helpu i gymryd camau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cynnig deddfwriaeth i roi rhaglenni cymdeithasol cwmnïau ynni ar sail statudol pan fydd y cytundeb gwirfoddol presennol â chyflenwyr ynni yn dod i ben ym mis Mawrth 2011
- Cryfhau pwerau Ofgem er mwyn diogelu’r cwsmer
Un o’r themâu allweddol yn ein Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd – Ymgynghoriad ar Raglen Weithredu yw helpu pobl, cymunedau a sefydliadau i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ac rydym wedi amlinellu nifer o gynigion i helpu’r gymuned ac unigolion i gymryd camau a byddwn ni’n gweithio gyda Llywodraeth y DU i gysylltu ein cynlluniau â’u cynigion ar gyfer cynllun cymhelliant carbon personol newydd i unigolion a rhaglen her gymunedol i brofi modelau newydd o leihau carbon.
Roedd ein Strategaeth Swyddi Gwyrdd yn nodi’n eglur ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i helpu busnesau yng Nghymru i fod ar flaen y gad o ran trosglwyddo i economi carbon isel, gan adeiladu ar y weledigaeth a’r cynigion a geir yn y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd – Ymgynghoriad ar Raglen Weithredu.
Bydd nifer o’r cynigion a amlinellir yng Nghynllun Trosglwyddo i Economi Carbon Isel y DU yn helpu Llywodraeth y Cynulliad i wireddu ei huchelgeisiau yn y maes hwn, gan gynnwys:
- Arian i ddatblygu’r diwydiant gwynt ar y môr yn y DU
- Arian i helpu i ddatblygu’r DU fel canolfan fyd-eang ar gyfer ynni’r tonnau ac ynni’r llanw
- Arian i archwilio ardaloedd lle mae’n bosibl defnyddio “creigiau poeth” ar gyfer ynni geothermol
- Cymorth ar gyfer technoleg a gweithgynhyrchu carbon isel
Heddiw, cyhoeddodd Dirprwy Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol i’w ymgynghori yn ei gylch. Mae’n nodi’n eglur ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu system drafnidiaeth carbon isel yng Nghymru ac yn adeiladu ar y weledigaeth a’r cynigion a amlinellir yn y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd – Ymgynghoriad ar Raglen Weithredu.
Mae Cynllun Trosglwyddo i Economi Carbon Isel y DU yn cynnwys cynigion perthnasol o ran trafnidiaeth, megis:
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gymell defnyddwyr i brynu ceir trydan a cheir hybrid
- Grŵp llywio newydd ar gyfer y diwydiant cludo nwyddau a logisteg i ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o fesur, cofnodi a lleihau allyriadau ar draws y sector logisteg
- Ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i weithio yn Ewrop i ddatblygu dull cadarn o reoleiddio CO2 o faniau newydd
Mae amaethyddiaeth, rheoli tir a rheoli gwastraff hefyd yn feysydd pwysig i fynd i’r afael â hwy yng Nghymru, a nodir cynigion i leihau allyriadau yn y meysydd hynny yn y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd – Ymgynghoriad ar Raglen Weithredu. Mae’r Gweinidog dros Faterion Gwledig wedi gofyn i Is-grŵp Defnyddio Tir y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd gynghori ynghylch cyfleoedd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ym meysydd amaethyddiaeth a’r economi wledig mewn ffordd fwy cyffredinol. Mae’r ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth Wastraff yn rhoi mwy o fanylion y camau yr ydym yn cynnig eu cymryd i leihau gwastraff a hyrwyddo’r defnydd effeithlon o adnoddau. Mae’r cynigion yng Nghynllun Trosglwyddo i Economi Carbon Isel y DU yn y ddau faes hyn yn ymwneud i raddau helaeth â Lloegr, ond byddwn ni’n gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU wrth i’r gwaith yn y maes hwn ddatblygu.
Mae’r newid yn yr hinsawdd yn her hanfodol ac yn un sy’n gofyn i ni gydweithio er mwyn ymateb iddi. Byddwn ni yn Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio’n agos â Llywodraeth y DU i gyrraedd targedau uchelgeisiol y DU o ran lleihau allyriadau a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ac i sicrhau bod yr holl gynigion a amlinellir heddiw yn dod â’r manteision mwyaf i bobl, cymunedau a busnesau yng Nghymru.