Skip to content

Llafar - Gyllideb Llywodraeth y DU

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Hoffwn wneud datganiad byr i friffio Aelodau’r Cynulliad ynghylch goblygiadau cyllideb y DU ddydd Mercher diwethaf.

 

Mae cyllideb y Canghellor wedi’i llunio fel ymateb i’r sgil-effeithiau aruthrol a achoswyd gan y cwymp economaidd byd-eang a’r anawsterau sy’n amlwg ledled y byd. Mae nifer o’r cyhoeddiadau’n cyd-fynd â’n dull ni o weithredu: sicrhau tegwch i bobl yn yr amser anodd hwn, helpu i baratoi’r economi ar gyfer adferiad, a gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol sefydlog a chynaliadwy. Rhaid inni dargedu polisïau ar ymdrin â diweithdra, yn enwedig ymhlith yr ifanc, a byddwn yn gwneud hynny. Fel y dywedodd David Blanchflower, cyn-aelod o’r Pwyllgor Polisi Ariannol, yn ddiweddar:

 

mae cyfnodau hir o ddiweithdra pan mae pobl yn ifanc yn achosi creithiau parhaol, yn hytrach na’r brychau dros dro sy’n dod i ran gweithwyr hŷn y mae ganddynt eisoes droedle yn y farchnad lafur.

 

Credwn ei bod yn iawn defnyddio ein cyllideb i ddarparu ysgogiad economaidd gwrthgylchol. Yr ydym wedi bod yn defnyddio ein cyllideb i’r eithaf i gefnogi pobl, cymunedau a busnesau yng Nghymru yn ystod y cwymp byd-eang. Er enghraifft, yr ydym yn cael ein cydnabod ledled y DU oherwydd ein bod ar flaen y gad o ran datblygu dulliau gweithredu newydd arloesol megis y cynllun ProAct. Fodd bynnag, yn ogystal ag elwa yn sgil mesurau i’r DU gyfan, bydd angen i Gymru chwarae ei rhan i helpu i fantoli’r cyfrifon yn y blynyddoedd sydd i ddod. Ni allwn fod yn rhydd rhag gwasgfa’r DU ar wario er mwyn cael y ddyled genedlaethol yn ôl i lefelau cynaliadwy. Bydd yr arbedion yr ydym yn wynebu gorfod eu gwneud yng Nghymru—o tua £216 miliwn o refeniw yn 2010-11—yn her sylweddol inni ac i’n partneriaid sy’n rhanddeiliaid, wrth inni geisio sicrhau bod gwasanaethau mor effeithlon â phosibl. Yr ydym yn ymgysuro rhywfaint ein bod, yn sgil sylwadau yr ydym wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU, wedi osgoi gorfod gwneud arbedion effeithlonrwydd refeniw mwy o bron i £300 miliwn ar gyfer 2010-11, a allai fod wedi bod yn annheg ac anghymesur. Dyma’r hyn yr oedd Prif Weinidog Cymru a minnau wedi ceisio’i sicrhau a’r hyn y bu inni lwyddo ei wneud mewn trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU.

 

O ran cyfalaf, yn deillio o’r adroddiad rhag-gyllidebol ym mis Tachwedd, ac fel yr ydym wedi nodi’n flaenorol, bydd ein cyllideb cyfalaf bloc flynyddol yn 2010-11 yn gostwng tua £200 miliwn. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i ddwyn cyllidebau cyfalaf o hyd at £140 miliwn ymlaen o 2010-11 i’r flwyddyn ariannol hon a’r un ddiwethaf er mwyn ysgogi’r economi. Mae hefyd yn rhannol yn sgil gostyngiad o £75 miliwn yn ein cyllideb sy’n codi o ganlyniad i Barnett yn sgil gostyngiad yng nghyllideb gyfalaf Adran Iechyd y DU, er ein bod yn bwriadu defnyddio adnoddau hyblygrwydd diwedd blwyddyn a gasglwyd mewn blynyddoedd blaenorol i leddfu effaith y toriad yng nghyllideb iechyd y DU.

 

Yn fwy cadarnhaol, drwy gyfrwng symiau canlyniadol Barnett o gyhoeddiadau eraill yng nghyllideb Llywodraeth y DU, byddwn hefyd yn cael £46 miliwn yn ychwanegol yn 2009-10—yn y flwyddyn ariannol hon, hynny yw—a £14 miliwn yn 2010-11. Gwneir cyhoeddiadau ynghylch sut yn union y byddwn yn defnyddio’r adnodd ychwanegol hwn i barhau â’n gwaith i helpu pobl, cymunedau a busnesau yn y cyfnod heriol hwn yn ystod yr wythnosau sydd i ddod, wedi trafodaethau yng Nghabinet Llywodraeth y Cynulliad.

 

Gan edrych y tu hwnt i 2010-11, mae Llywodraeth y DU yn ceisio canfod £9 biliwn o arbedion effeithlonrwydd ychwanegol yn ystod y cyfnod 2011-12 i 2013-14. Er y rhagwelir y bydd y gwariant cyfredol yn dal i dyfu oddeutu 0.7 y cant yn gyffredinol ar lefel y DU mewn termau real yn ystod y cyfnod hwn, mae hynny’n is na’r rhagamcanion yn yr adroddiad rhag-gyllidebol yn ôl ym mis Tachwedd ac ni allwn fod yn sicr y cawn gynnydd ariannol o gwbl yn ein cyllidebau yn y dyfodol. Yn ogystal â hynny, disgwylir i’r buddsoddi cyfalaf crynswth ar lefel y DU ostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod 2010-11 i 2013-14, ac mae hynny’n debygol o arwain at gyllidebau cyfalaf is ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad.

Er nad yw union effaith yr arbedion effeithlonrwydd ychwanegol a’r wasgfa ehangach ar wario cyhoeddus ar gyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn hysbys eto, mae’r cyllidebau tynnach yr ydym yn eu hwynebu, ac yr wyf wedi bod yn rhybuddio am hyn ers 18 mis, yn pwysleisio pa mor bwysig yw defnyddio’n hadnoddau’n effeithiol ac yn effeithlon. Yn y trafodaethau y mae’r Prif Weinidog a minnau wedi’u cael ers yr adroddiad rhag-gyllidebol gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, yr ydym wedi bod yn argymell yn gyson fesurau a fydd o gymorth i economi Cymru yn ogystal â rhai a fydd yn lliniaru effaith penderfyniadau ariannol y DU ar gyllideb Llywodraeth y Cynulliad.

 

Ceir ystod o gyhoeddiadau yn y gyllideb ynglŷn â chynlluniau y bwrir ymlaen â hwy ar lefel y DU. Yr ydym yn croesawu’r mesurau hynny, a fydd o fudd i unigolion, i fusnesau ac i gymunedau yng Nghymru, er enghraifft, cymorth i bobl ifanc sy’n ddi-waith am fwy na blwyddyn, a chymorth i ddiwydiannau rhad-ar-garbon. Fel yr awgrymodd y Prif Weinidog gynnau, mesurau yw’r rhain yr ydym wedi bod yn eu hargymell i Lywodraeth y DU. Yn benodol, yr ydym yn croesawu’r gronfa buddsoddi strategol newydd ar gyfer y DU gyfan. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd hon yn gymorth i’r sectorau technoleg newydd allweddol yr ydym eisoes wedi eu dynodi yng Nghymru, megis technolegau gweithgynhyrchu uwch, technolegau digidol a biodechnolegau. Byddwn yn ymwneud â Llywodraeth y DU i geisio sicrhau’r budd mwyaf posibl i Gymru yn sgil y mesurau hyn ar gyfer y DU gyfan.

 

I grynhoi, mae cyllideb y DU yn cynnig cyfleoedd y bwriadwn fanteisio i’r eithaf arnynt, yn ogystal â mynd i’r afael â’r anawsterau ariannol cynyddol a ddaw yn y blynyddoedd sydd o’n blaen. Fel yr ydym wedi’i ddweud droeon, mae’r tynhau ar gyllidebau yr ydym yn ei wynebu’n pwysleisio pa mor bwysig yw defnyddio’n hadnoddau’n effeithiol ac yn effeithlon. Felly, byddwn yn parhau i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus gwell a mwy effeithlon, yn canolbwyntio fwyfwy ar ganlyniadau ac yn sicrhau ein bod yn ymestyn punt Cymru er mwyn cael y budd mwyaf posibl i bobl ledled Cymru.