Skip to content

Llafar - Ymgynghoriad ar Sefydlu Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Unedig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart , y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle hwn i adrodd ar y canfyddiadau sy’n codi o’r ymgynghoriad ar uno gwasanaethau iechyd cyhoeddus, a ddaeth i ben ar 24 Ebrill. Ar y dyddiad hwnnw, yr oedd 125 o ymatebion wedi dod i law, y mae pob un ohonynt wedi’i gyhoeddi’n llawn. Fe’u cafwyd gan amrywiaeth eang o gyrff a chyrff cynrychioladol sydd â buddiant mewn gwasanaethau iechyd cyhoeddus yng Nghymru, ac ymatebodd pob un o’r gwasanaethau y cynigiwyd eu gwneud yn rhan o’r corff iechyd cyhoeddus unedig newydd i’r ymgynghoriad.

 

Yr wyf wedi achub ar y cyfle i ddarllen pob un o’r ymatebion hyn dros yr wythnosau diwethaf ac, o ganlyniad, gallaf gadarnhau fy mwriad i symud ymlaen, o dan orchmynion cyfreithiol a rheoliadau, i sefydlu’r corff iechyd cyhoeddus unedig newydd fel ymddiriedolaeth GIG a elwir yn Iechyd Cyhoeddus Cymru—ar ffurf gysgodol o 1 Awst 2009, ac yn llawn weithredol o 1 Hydref 2009. 

 

Gallaf gadarnhau hefyd, yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus, fod yr Athro Mansel Aylward wedi’i benodi i swydd cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhoddaf bwys mawr ar benodi cadeiryddion, a ddewisir oherwydd eu sgiliau, eu profiad a’r cyfraniad y gallant ei roi i waith y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Yr wyf yn sicr bod yr Athro Aylward yn meddu ar y gallu angenrheidiol i ymgymryd â’r gwasanaeth cyhoeddus heriol ond tra buddiol hwn. Fe’i hystyrir yn ddarpar gadeirydd nes sefydlu Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 1 Awst 2009.

 

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgorffori’r swyddogaethau a’r gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol; Canolfan Iechyd Cymru; Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru; y Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cydenedigol; a Gwasanaethau Sgrinio Cymru. Mynegodd llawer o ymatebwyr amheuon ynghylch cynnwys Gwasanaeth Gwaed Cymru yn y corff newydd, gan ei bod yn ymddangos nad oes fawr o synergedd rhwng darparu gwasanaethau gwaed a’r gwasanaethau iechyd cyhoeddus. Felly yr wyf wedi dod i’r casgliad y byddai’n well petai Gwasanaeth Gwaed Cymru yn aros gydag Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

 

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adeiladu ar lwyddiant ei wasanaethau cyfansoddol, a bydd yn darparu’r adnoddau cenedlaethol i gyflenwi gwasanaethau iechyd cyhoeddus yn effeithiol ar lefel genedlaethol, leol a chymunedol. Fel rhan o’r system iechyd cyhoeddus genedlaethol yng Nghymru, yr wyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd swyddog a chanddo gyfrifoldeb dros iechyd cyhoeddus yn aelod o bob un o’r saith bwrdd iechyd lleol; er y cânt eu cyflogi gan y BILl, byddant yn rhan annatod o’r system iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

 

Yr wyf wedi pwysleisio’r angen am gryfhau partneriaethau ag awdurdodau lleol er mwyn ategu eu dyletswyddau statudol, a chyflenwi gwasanaethau iechyd cyhoeddus yn well ar lefelau lleol a chymunedol. Yr wyf wedi gofyn i ddarpar gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru gydgysylltu â phrif weithredwyr y BILlau newydd er mwyn datblygu trefniadau gweithio cadarn i gyflenwi gwasanaethau iechyd cyhoeddus yn lleol, ac i gynorthwyo a chydweithio â’r cyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus newydd yn y BILlau, a’u priod awdurdodau lleol.

 

Mae strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles, a chynlluniau plant a phobl ifanc, yn dal yn ddyletswydd statudol ar y cyd ar y BILlau a’r awdurdodau lleol. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu’r BILlau a’r awdurdodau lleol i ddatblygu’r rhain, gan adeiladu ar y partneriaethau presennol. Byddant hefyd yn cydweithio â byrddau gwasanaethau lleol i ddod ag iechyd cyhoeddus at y dinesydd ac i’r gymuned. Yn union fel y bydd y corff newydd yn cydweithio’n glòs â llywodraeth leol felly, hefyd, y rhoddwyd pwys cyson ar bwysigrwydd y trydydd sector wrth ymgynghori. Mae cyfraniad y trydydd sector yn bwysig gan ei fod yn adlewyrchu nid yn unig amrywiaeth Cymru fel cenedl, ond hefyd y gydgefnogaeth i’r gwasanaeth iechyd gwladol, a geir ym mhob rhan o’n gwlad.

 

Er mwyn cyflawni ei gylch gwaith, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ei fantais o gael ei fwrdd ei hun ac arno saith cyfarwyddwr anweithredol, gan gynnwys y cadeirydd, a phum cyfarwyddwr gweithredol. Bydd y bwrdd yn cynnwys cyfarwyddwyr anweithredol a chanddynt brofiad o lywodraeth leol, undebau llafur, y trydydd sector a phrifysgolion Cymru. Mae’r rhain i gyd yn bwysig ar gyfer datblygu a chyflenwi gwasanaethau iechyd cyhoeddus, a byddant yn cyfrannu eu safbwyntiau, eu syniadau a’u meddyliau eu hunain i’r bwrdd. Bydd dau gyfarwyddwr anweithredol annibynnol hefyd a fydd yn sicrhau sylw i anghenion y dyn cyffredin ym mhenderfyniadau’r bwrdd.

 

Gan droi at rolau’r cyfarwyddwyr gweithredol, tynnodd ymatebwyr sylw at y ffaith y bydd cylch gwaith eang gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac y byddai’r bwrdd yn fwy effeithiol petai gan y cadeirydd a’r cyfarwyddwyr anweithredol fwy o ryddid i bennu eu rolau. Felly yr wyf wedi dod i’r casgliad y bydd rolau’r tri chyfarwyddwr gweithredol sy’n weddill, yn ogystal â rhai’r prif swyddog gweithredol a’r cyfarwyddwr cyllid, yn cael eu pennu yn ôl disgresiwn y bwrdd.

 

Yr wyf yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad, ac a ysgrifennodd ataf i roi eu barn. Unwaith eto, mae’r ymarfer hwn wedi bod yn llwyddiant mawr ac yn dyst i’r awydd i gynnal deialog ac ymgysylltu a fu wrth wraidd y diwygiadau hyn. Rhaid inni ddal ymlaen yn awr â’r camau sy’n angenrheidiol i wireddu hyn. Er mwyn gwneud y newidiadau hyn, bwriadaf lofnodi’r gorchmynion cyfreithiol a rhoi’r rheoliadau ger eich bron erbyn 9 Mehefin.