Skip to content

Ysgrifenedig - Gwaith Parhaus yng Nghymru i Atal Trais yn Erbyn Menywod

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Darperir y Datganiad Cabinet hwn er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i Aelodau ar y gwaith sy’n cael ei wneud i atal trais yn erbyn menywod yng Nghymru.  

Yng Nghymru, mae ein dull sylfaenol o weithredu yn parhau i weld cyswllt rhwng cam-drin domestig â’r mater ehangach o drais yn erbyn menywod, tra’n cydnabod ar yr un pryd y gall dynion hefyd ddioddef o drais yn y cartref.  

Menywod o hyd yw mwyafrif llethol y rhai sy’n cael eu cam-drin yn y cartref, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn ein dull o ariannu yn ogystal â phroffil y gwasanaeth a ddarperir.  Yn erbyn y cefndir hwnnw, mae gwaith wedi hen ddechrau ar gynllun gweithredu strategol newydd i ategu’r gwaith o weithredu Strategaeth Cam-drin Domestig Cymru yn y dyfodol.  Bydd y cynllun gweithredu hwn yn cydnabod yr angen ehangach a phenodol i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod.  Bydd yn adeiladu ar yr haenau o waith gofalus sydd eisoes yn cael ei wneud sydd wedi ei anelu at fynd i’r afael â’r agenda ehangach o drais yn erbyn menywod, ac nad ydynt yn cael eu cynnwys yn ein gwasanaethau ar gyfer cam-drin domestig.

Dyma rai o fanylion y cynnydd sydd wedi ei wneud:-

  • Mae’r Cyllid ar gyfer y gwaith pwysig hwn wedi cynyddu saith gwaith ers 2002 ac mae bellach yn £3.7miliwn ar gyfer 2009/10. Y llynedd, cyhoeddwyd £1.5 miliwn yn ychwanegol o gyllid cyfalaf. 
  • Rydym ar hyn o bryd yn ariannu 16 o brosiectau ledled Cymru, gan gynnwys dwy linell ffôn gymorth ar gyfer cam-drin domestig, cydgysylltwyr cam-drin domestig ym mhob rhan o Gymru, 5 Siop Un Stop newydd ar gyfer Cam-drin Domestig, ac rydym yn rhoi help ariannol i wyth o weithwyr plant peripatetig a chydgysylltydd i gynorthwyo plant a phobl ifanc mewn llochesi.
  • Mae’r Rhaglen Ysgolion Cymru Gyfan, sy’n cynnwys modiwl ar gam-drin domestig, wedi ei roi ar waith bellach mewn 97% o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.  Mae Tai Hafan, sy’n cynorthwyo’r Rhaglen Ysgolion, yn dosbarthu pecyn sbectrwm i ysgolion ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig.  Byddwn yn dosbarthu canllawiau newydd yn fuan i ysgolion ar gam-drin domestig.  
  • Mae gennym chwech o Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yng Nghymru ym Merthyr Tudful, Bae Colwyn, Caerfyrddin, Risga, Caerdydd ac Abertawe.  Rydym wedi darparu cyllid ar gyfer offer newydd hanfodol ac ar gyfer llyfryn i godi ymwybyddiaeth ynghylch ymosodiadau rhywiol.  Mae’r rhan fwyaf o Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn darparu gwasanaethau cwnsela therapiwtig hirdymor i ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol.  
  • Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi sefydlu gweithgor trawsadrannol i sicrhau bod cysylltiad priodol rhwng y gwasanaeth iechyd â’r broses o ddatblygu’r Canolfannau Atgyfeirio yng Nghymru.  Rydym wedi cyflwyno llwybrau gofal mewn unedau mamolaeth ac unedau damweiniau ac achosion brys.
  • Rydym yn darparu cynllun gweithredu ar gyfer priodasau dan orfod a throseddu anrhydedd, a chyn bo hir byddwn yn cyhoeddi canllawiau newydd i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.  Rydym yn cynorthwyo gwasanaethau arbenigol ar gyfer menywod duon a lleiafrifoedd ethnig yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam.  
  • Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Heddlu er mwyn sefydlu rhwydwaith o Gynadleddau Asesu Risg Aml-asiantaethol a 10 o Lysoedd Arbenigol ar gyfer Cam-drin Domestig ledled y wlad, i roi cymorth i ddioddefwyr ar wahanol gamau o’r system gyfiawnder troseddol a thu hwnt.  
  • Rydym yn datblygu tŷ diogel i fenywod sy’n ffoi o buteindra, gan gynnwys menywod yn Ne Cymru sydd wedi eu masnachu, ac rydym yn datblygu lloches newydd i ddioddefwyr sydd ag anghenion cymhleth ym Mlaenau Gwent. 
  • Rydym yn cynnal ymgyrchoedd rheolaidd i godi ymwybyddiaeth ynghylch cam-drin a thrais domestig yn erbyn menywod.  Cynhaliwyd ymgyrch gennym dros gyfnod y Nadolig, ac rydym wedi cymeradwyo’r ymgyrch sy’n cael ei chynnal ar hyn o bryd gan Undeb Rygbi Cymru a’r heddlu yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad.  

Mae rhannau o’r agenda trais yn erbyn menywod, (ac yn wir yr agenda cam-drin domestig), heb eu datganoli.  Byddwn felly’n parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU ar y materion hyn, a byddwn yn edrych yn ofalus ar y cynigion sy’n deillio o’i hymgynghoriad ac yn ystyried pa mor berthnasol ydynt ar gyfer ein cynllun gweithredu yng Nghymru.  Yn benodol, byddwn yn parhau i gydweithio â Whitehall ar faterion megis trais er anrhydedd, priodasau dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu menywod.  Bydd y Swyddfa Gartref felly’n mynychu gweithdy yr ydym yn ei threfnu yng Nghasnewydd ar 10 Mawrth i sicrhau bod safbwyntiau rhanddeiliaid Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn ei hymgynghoriad.  Rwy’n gobeithio ei bod yn glir o hyn nad yw Cymru, mewn unrhyw ffordd, yn eithrio o ymgynghoriad llywodraeth y DU ar ystyried yr angen am strategaeth ar gyfer trais yn erbyn menywod.  

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i unioni’r sefyllfa mewn perthynas â’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar Fapio’r Bylchau 2.  Mae’r adroddiad yn cydnabod y gwaith da sy’n cael ei wneud yng Nghymru, a cheir tystiolaeth o hyn trwy ddadansoddi’r data.  Mewn nifer o ffyrdd, mae’r gwasanaethau yng Nghymru wedi datblygu mwy na’r gwasanaethau yn yr Alban neu yn Lloegr.  Gan mai cyfeirio’n benodol at y “bylchau yn y gwasanaethau” y mae’r adroddiad, mae’n amlwg nad oedd yn canolbwyntio ar y cynnydd sydd wedi ei wneud yng Nghymru ar fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais yn erbyn menywod.  Hefyd, nid yw’r adroddiad wedi ei ddiweddaru’n llawn o ran Cymru mewn nifer o achosion, ac mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cael gwybod am yr anghysondebau hyn.