Skip to content

Llafar - Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynglŷn â’r Gymraeg

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, Gweinidog dros Dreftadaeth

Mae’n anrhydedd i gyflwyno’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig ynghylch yr iaith Gymraeg gerbron y Cynulliad heddiw. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn hanes yr iaith ac yr wyf yn siŵr eich bod yn cytuno mai’r lle priodol i ddeddfu ym maes yr iaith Gymraeg yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Heddiw yw’r cyfle cyntaf i Aelodau’r Cynulliad drafod a chraffu ar ein Gorchymyn arfaethedig ynghylch yr iaith Gymraeg, a hynny, wrth gwrs, yn y Gymraeg, os dyna’u dymuniad.

Ychydig wythnosau yn ôl cawsom drafodaeth galonogol ar yr iaith wrth ystyried cynnig David Melding am Orchymyn ynghylch yr iaith Gymraeg. Gobeithiaf ei fod yn cydnabod bod y Gorchymyn sydd gerbron y Cynulliad yn werth ei gefnogi a’i groesawu. Edrychaf ymlaen at gydweithio ag Aelodau, ac eraill sydd â diddordeb yn lles y Gymraeg, wrth graffu ar yr Gorchymyn arfaethedig ac wrth baratoi Mesur, maes o law, ar y Gymraeg. Mae rôl Gweinidogion Swyddfa Cymru wrth ddatblygu’r Gorchymyn arfaethedig wedi bod yn un allweddol, ac yr ydym yn barod i wynebu’r broses graffu ynghyd. Edrychaf ymlaen at gydweithio â’r swyddfa ac Aelodau Seneddol dros y misoedd nesaf, yn enwedig Cadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor ar Faterion Cymreig.

Rhaid cofio mai cychwyn y broses yw’r cyhoeddi. Mae gwaith o’n blaen cyn bod cymhwysedd gan y Cynulliad i ddeddfu. Bydd digon o amser i drafod manylion sut mae hybu a hyrwyddo’r iaith, gan sicrhau nad yw hynny’n amharu ar hawliau siaradwyr Saesneg.

Y Gorchymyn yw’r mecanwaith i drosglwyddo’r pŵer i ddeddfu i’r Cynulliad. Mater i Fesur sy’n deillio o’r Gorchymyn, os y caiff ei gymeradwyo, bydd creu’r strwythurau i gryfhau’r iaith drwy gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg, drwy hawliau ieithyddol o safbwynt darparu gwasanaethau, a thrwy sefydlu comisiynydd iaith. Mae’n bwysig cofio y bydd y pŵer sy’n cael ei drosglwyddo yn un parhaol ac y bydd cyfleoedd i gyflwyno cyfres o Fesurau ar yr iaith yn sgîl y cymhwysedd—gan Lywodraeth y Cynulliad neu gan Aelodau’r Cynulliad. Fodd bynnag, ni all y Cynulliad ddeddfu i newid na gwella’r system bresennol heb gael y Gorchymyn hwn er mwyn cael yr hawl i greu Mesur neu Fesurau.

Gosododd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 sail i ddechrau atgyfnerthu’r iaith, ond rhaid ystyried yn awr a yw’r fframwaith yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Dyma ein cyfle i ystyried pa wersi sydd wedi eu dysgu ers 1993 o ran prosesau a phwerau statudol y bwrdd a Gweinidogion. Mae’r Gorchymyn arfaethedig yn cynnig strwythur i ni ymateb i newidiadau ers 1993, a’r hyblygrwydd i ymateb i newidiadau yn y dyfodol. Mae’n bwysig ein bod yn ystyried gwersi’r 16 mlynedd diwethaf wrth graffu ar y Gorchymyn arfaethedig a datblygu unrhyw Fesur sy’n deillio ohono. Ein hamcan yw moderneiddio a gwella’r fframwaith deddfwriaethol ar yr iaith Gymraeg. Bydd cyfle, maes o law, i bawb gymryd rhan yn y drafodaeth honno a dylanwadu ar ein cynigion.

Mae mwy o bobl bellach yn siarad neu’n dysgu Cymraeg, ond mae’n dal i fod yn fregus fel iaith bob dydd yn ein cymunedau. Mae nifer y siaradwyr yn cynyddu, yn enwedig ymhlith yr ifanc, ond mae’n holl bwysig bod gan siaradwyr y Gymraeg fwy o gyfleoedd i’w defnyddio y tu allan i giatiau’r ysgol. Ein bwriad wrth gyflwyno Mesur maes o law fydd i greu’r strwythur i atgyfnerthu’r iaith.

Mae’r Gorchymyn arfaethedig yn adlewyrchu ac yn adeiladu ar egwyddorion craidd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Fel Deddf 1993, mae mater 20.1 yn y Gorchymyn arfaethedig yn cyfeirio at hybu a hwyluso’r iaith, a thrin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb. Byddai’r mater hwn yn rhoi’r hyblygrwydd i’r Cynulliad i ddeddfu i gryfhau’r ystod eang o weithgareddau sydd eisoes yn bodoli i hybu’r iaith, er enghraifft, cynllunio ieithyddol, cynnig grantiau, buddsoddi mewn technoleg gwybodaeth a gweithio yn ein cymunedau. Nid yw mater 20.1 yn cyfeirio yn benodol at hawliau, statws na chomisiynydd iaith, ond mae’n cynnig mecanwaith fydd yn galluogi’r Cynulliad i ddeddfu, maes o law, i gyflawni’r ymrwymiadau hyn yn 'Cymru’n Un’. Byddai’r Gorchymyn yn galluogi’r Cynulliad yn y dyfodol i osod dyletswyddau ar ystod o bersonau sy’n darparu gwasanaethau allweddol i’r cyhoedd yng Nghymru.

Mater i’r Cynulliad, drwy Fesur, fydd penderfynu ar natur y dyletswyddau a phwy fydd yn cael eu rhoi o dan ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o natur gyhoeddus. Wrth gwrs, mae hyn oll yn dibynnu ar gael cymhwysedd, a chymhwysedd addas, i ddeddfu yn y maes. Nid yw cynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn beth newydd i’r rhan fwyaf o’r sectorau y byddai’r Cynulliad, pe bai’n dymuno, yn gallu gosod dyletswyddau arnynt yn y dyfodol, pe byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn cael ei gymeradwyo.

Mae’r Gorchymyn arfaethedig yn cynnig yr hyblygrwydd i’r Cynulliad i ddeddfu i ymateb i newidiadau i’r mecanweithiau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau i’r cyhoedd mewn llawer o feysydd, a’r disgresiwn i ymateb i gyrff newydd sydd yn gallu hybu’r iaith, fel y maent yn ymddangos.

Mae darpariaeth bwysig hefyd yn galluogi’r Cynulliad i ddeddfu ar gyfer cyrff sy’n gwirfoddoli neu’n cytuno i dderbyn dyletswyddau o dan unrhyw Fesur, maes o law. Mae’n galonogol gweld cymaint o gyrff, yn enwedig yn y sector preifat, yn gwirfoddoli i wella gwasanaethau yn y Gymraeg. Yr wyf am i hyn barhau.

Byddai mater 20.2 yn y Gorchymyn arfaethedig hefyd yn galluogi’r Cynulliad i ddeddfu i sicrhau’r rhyddid, drwy Fesur maes o law, i unigolion siarad Cymraeg â’i gilydd. Mae hwn yn rhyddid sydd yn bodoli, ond bu’n fater o ansicrwydd. Mae’r Gorchymyn arfaethedig yn caniatáu i’r Cynulliad sefydlu sail statudol i Weinidogion y Goron gydymffurfio â dyletswyddau ieithyddol. Dyma sail statudol i’r dyletswyddau y maent yn eu hymarfer o’u gwirfodd ar hyn o bryd.

Sylwch hefyd fod y Gorchymyn arfaethedig yn galluogi’r Cynulliad i ddeddfu o safbwynt Comisiwn y Cynulliad, y Cynulliad a Gweinidogion, a dyma’r lle priodol i wneud hynny.

Yr wyf yn edrych ymlaen at gydweithio â chi er mwyn trosglwyddo’r pŵer i ddeddfu ar y Gymraeg o San Steffan i Gymru. Mae’r trafodaethau hyn yn dangos bod cefnogaeth amlwg yma a ledled y wlad i barhau i hybu a chryfhau’r iaith. Yr wyf yn benderfynol ein bod yn datblygu ac yn adeiladu ar y consensws hwn.

Mae’r iaith Gymraeg yn rhan o’n hetifeddiaeth gymdeithasol a diwylliannol ni yng Nghymru. Mae’n destun balchder i ddinasyddion ein gwlad, pa un ai ydynt yn siaradwyr yr iaith ai peidio. Mae’n rhaid i ni ei thrysori hi, ei rhannu hi a hyrwyddo’i defnydd at y dyfodol. Ein cyfrifoldeb ni yn y Cynulliad yw gwneud hynny. Mae’r Gorchymyn arfaethedig yn gam pwysig ar daith gyfansoddiadol a ieithyddol y Cynulliad ac yr wyf yn gobeithio y bydd y pleidiau i gyd yn ei groesawu.