Skip to content

Ysgrifenedig - Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynglŷn â’r Gymraeg

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, Gweinidog dros Dreftadaeth

Yr wyf yn falch o gyhoeddi y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynglŷn â’r Gymraeg heddiw ac i roi cyfle i Aelodau’r Cynulliad drafod a chraffu ein cynlluniau ar y Gymraeg.  Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno ei bod hi’n briodol i drosglwyddo’r pŵer i deddfu ym maes y Gymraeg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ar hyn o bryd mae Maes 20 (Y Gymraeg) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn wag ac y mae’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig hwn yn cynnig ffordd i ddechrau llenwi’r bwlch.

Bydd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, os cytunir arno, yn rhoi pŵer i’r Cynulliad, trwy Fesur, i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.   Y Mesur fydd yn creu’r strwythurau ar gyfer cryfhau’r iaith a chyfiawnhau ymrwymiadau Cymru’n Un i:

  • gadarnhau statws Swyddogol ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg;
  • hawliau ieithyddol o safbwynt darparu gwasanaethau; a
  • sefydlu swydd Comisiynydd Iaith.

Rwy’n edrych ymlaen at gyd-weithio gydag aelodau, ac eraill sydd â diddordeb yn lles y Gymraeg, wrth graffu ar yr Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ac wrth baratoi Mesur, maes o law, ar y Gymraeg.

Byddaf yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 3 Chwefror 2009.