Skip to content

Ysgrifenedig - Ymgynghoriad ar Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

Dolenni perthnasol

Datblygwyd y Strategaeth ddrafft hon mewn ymateb i ymrwymiad yn nogfen Cymru'n Un i greu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant,Addysg , Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Bydd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael ei rhyddhau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar 13 Mai 2009.  Bydd y cyfnod ymgynghori am gyfnod o 12 wythnos ac yn gorffen ar 5 Awst 2009.

Mae’r Strategaeth hon yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y ddogfen ’Cymru’n Un’ i ‘greu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg genedlaethol i ddatblygu darpariaeth effeithiol o addysg feithrin hyd at addysg bellach ac uwch, ac mae hi wedi ei hategu gan raglen weithredu.’

Mae’r Strategaeth yn adeiladu ar y ddogfen Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog a oedd yn cyflwyno gorolwg dros yr holl ddatblygiadau polisi a oedd yn cyfrannu at ailfywiogi’r Gymraeg.  Mae’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg hon yn canolbwyntio ar ddatblygu isadeiledd ar gyfer addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig cyfle i randdeiliaid ymateb ac i helpu ffurfio’r agenda ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf.

Y prif elfennau sydd wedi eu nodi ar gyfer datblygiad o fewn y Strategaeth yw : 

  • Gwella’r broses o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob cyfnod o addysg a hyfforddiant, ar sail ymateb yn bositif i’r galw ymhlith rhieni am addysg cyfrwng Cymraeg.
  • Sicrhau gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg cymwys, ac wedi ei gynllunio, i ymateb i’r galw am ddarpariaeth. 
  • Mae rhaid sicrhau bod cyfleoedd ar gael mewn ymateb i ofynion y Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) ar gyfer Llwybrau Dysgu 14-19.
  • Mae rhaid inni anelu at ddarparu dilyniant effeithiol ar gyfer sgiliau iaith Gymraeg wrth i bobl ifanc fynd trwy’r system addysg ac aeddfedu.
  • Mae angen inni ddarparu rhagor o gyfleoedd yn y cyfnodau ôl-16 ac ôl-18 trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Bydd yr adroddiad ar y Coleg Ffederal ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch, sydd i’w gyhoeddi ddiwedd mis Mai, yn cael ei adlewyrchu yn y Strategaeth derfynol.
  • Mae’r Strategaeth yn anelu at gyfrannu at wneud gweithle dwyieithog drwy sicrhau bod modd cael gwell mynediad i gyfleoedd dysgu Cymraeg.  Mae sgiliau dwyieithog yn rhan hanfodol ar gyfer ehangu’r agenda sgiliau yng Nghymru.  Mae mwy a mwy o weithleoedd yn edrych am sgiliau dwyieithog, nid yn unig yn y sector cyhoeddus ond yn fwyfwy yn y sector preifat hefyd gan eu bod eisiau ehangu eu gwasanaeth cwsmer.    Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’r gallu i gynnig sgiliau dwyieithog yn gallu bod o fantais.  Bydd cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn cael eu targedu ymhellach er mwyn sicrhau cefnogaeth yn y gweithle. 
  • Mae’r Strategaeth hefyd yn anelu at sicrhau bod pob dysgwr a myfyriwr (nid cyfrwng Cymraeg yn unig) yn derbyn y cyfle i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg i’w potensial llawn.  Mae hyn yn cynnwys gweithredu’r Maes Dysgu newydd yn y Cyfnod Sylfaen, sef ‘ Datblygu’r Gymraeg’ mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a fydd yn rhoi rhagor o gyfleoedd i annog plant ifainc i gaffael sgiliau iaith yn Gymraeg. 
  • Bydd yn cyfrannu at ddatblygiad rhagor o gyfleoedd pobl ifainc a theuluoedd i gryfhau eu sgiliau iaith Gymraeg y tu allan i amgylchedd yr ysgol drwy ddysgu anffurfiol a phartneriaethau gyda chyrff eraill. 
  • Mae’n ceisio mynd i’r afael ag anghenion penodol y sector cyfrwng Cymraeg yn arbennig mewn perthynas â chymwysterau ac adnoddau dysgu ac addysgu cyfrwng Cymraeg.