Skip to content

Ysgrifenedig - Cynllun Adsefydlu ar gyfer yr Henoed a Phobl Agored i Niwed o Brydain sy’n Preswylio yn Zimbabwe

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, y Brif Weinidog

Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud datganiad ynglŷn â chynllun i gefnogi adsefydlu’r henoed a phobl agored i niwed o Brydain sy’n preswylio yn Zimbabwe.  Mae’n bosibl y bydd rhai ohonynt yn dewis byw yng Nghymru.  Yn hyn o beth, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cynnig yr amrywiaeth o wasanaethau angenrheidiol.

Ar hyn o bryd, mae tua 3,000 o ddinasyddion a gwladolion Prydain yn byw yn Zimbabwe sydd â’r hawl i breswylio yn y DU.  Maent yn cwympo i’r ddau gategori hwn naill ai am eu bod yn 70 oed neu’n hŷn, neu am eu bod yn agored i niwed oherwydd anghenion gofal neu gyflyrau meddygol.  Ers 2007, mae Llywodraeth y DU wedi cynghori bod yr henoed a phobl agored i niwed o Brydain, yn ogystal â’u teuluoedd, yn ystyried a oes angen iddynt aros yn Zimbabwe os ydyn nhw’n pryderu am y sefyllfa yn y wlad honno.  Nid yw’r cyngor hwn wedi newid, er gwaethaf y newidiadau diweddar yn y sefyllfa wleidyddol.  

Mae Llywodraeth y DU yn pryderu am yr henoed a phobl agored i niwed o Brydain nad oes modd iddynt, efallai, barhau i’w cynnal eu hunain yn Zimbabwe, ond nad oes modd iddynt symud i’r DU heb gymorth.  Yn hynny o beth, mae Llywodraeth y DU yn barod i roi cymorth i ddinasyddion a gwladolion Prydain adsefydlu yn y DU. Mae’n rhoi trefniadau ar waith i dderbyn y bobl hynny o Brydain sy’n dymuno adsefydlu yma, i asesu eu hanghenion o ran tai a gofal, ac i ddarparu cymorth parhaus iddynt.  Mae trafodaethau ar y gweill gyda’r asiantaethau priodol yng Nghymru ynglŷn â’r trefniadau ymarferol ar gyfer derbyn y rhai a fydd, o bosibl, yn dewis dychwelyd i fyw yng Nghymru.  

Ar hyn o bryd, mae’r henoed a phobl agored i niwed o Brydain sy’n preswylio yn Zimbabwe yn cael gwybod am y cymorth sydd ar gael.  Mae’n anodd rhagweld faint o ddiddordeb fydd yn y cynnig hwn, ond amcangyfrifir y bydd hyd at 750 o aelwydydd yn dymuno symud i’r DU yn ystod y 18 mis nesaf.  Nid yw’n glir sut byddai’r bobl hyn yn cael eu dosbarthu ledled y DU, a faint ohonynt fyddai’n dymuno setlo yng Nghymru.  Daw hynny i’r amlwg wrth i’r ceisiadau ddod i law.

Nid yw Llysgenhadaeth Prydain yn cynghori pobl i adael Zimbabwe, ac mae’n parhau i ddarparu gwasanaeth consylaidd llawn i bawb sy’n parhau i breswylio yno.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cynnig y cymorth sy’n ofynnol i’r henoed a’r bobl agored i niwed sy’n dewis setlo yma, ac mae’n hyderus y bydd modd inni fodloni anghenion unrhyw un o’r categorïau hyn sy’n dewis adsefydlu yng Nghymru.  Nid oes amcangyfrif ar gael o nifer y bobl sy’n debygol o ddewis Cymru, ond ar sail pro rata, ac ar ôl cymryd i ystyriaeth poblogrwydd Cymru fel lle i ymddeol, mae’n anodd dychmygu y byddai nifer yr aelwydydd hyn yn fwy na 50.