Skip to content

Ysgrifenedig - Effaith y tywydd garw ar arholiadau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Mae'r trefniadau ar gyfer arholiadau yn gweithio i safonau cytûn ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.  Prin y bydd y tywydd yn effeithio ar arholiadau ond gall hyn ddigwydd weithiau, er enghraifft y llifogydd yn Hull ym Mehefin 2007.  Bydd y gwersi a ddysgwyd gan gyrff dyfarnu o'r profiad hwnnw yn cael eu cymhwyso i'r sefyllfa gyfredol.  Dylai myfyrwyr wneud pob ymdrech rhesymol i gyrraedd eu harholiadau oherwydd, am resymau diogelwch a thegwch, nid yw'r rheoliadau yn caniatáu i ymgeiswyr sefyll papur ar ddyddiad diweddarach os yw ymgeiswyr eraill eisoes wedi sefyll y papur hwnnw.

 

Cydnabyddaf y straen a'r gofid y gall y tywydd garw ei achosi i ymgeiswyr sydd wedi bod yn paratoi'n galed ar gyfer arholiadau wythnos nesaf.  Mae cynlluniau wrth gefn cadarn yn eu lle i ddelio ag unrhyw amharu ar arholiadau.

 

Yn ystod y cyfnod hwn o dywydd garw bu APADGOS, a'i chyd-reolyddion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn gweithio gyda'r cyrff dyfarnu i sicrhau bod yr ymateb ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn deg ac yn gyson.  Yn ystod cyfnod yr arholiadau bydd swyddogion APADGOS yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd diweddaru dyddiol gyda chydweithwyr rheoleiddio a chyrff dyfarnu allweddol i ystyried effaith y tywydd ar yr arholiadau.

 

Nid yw'r cynlluniau wrth gefn cyhoeddedig ar gyfer arholiadau mis Ionawr yn gymwys yn yr Alban oherwydd nid oes arholiadau cenedlaethol yn yr Alban y mis hwn.

 

Trafododd y rheolyddion y posibilrwydd o aildrefnu unrhyw arholiadau a gafodd eu canslo.  Fodd bynnag, ni theimlwyd bod hyn yn briodol am y rhesymau canlynol:

  • mae'r amserlenni yn rhy fyr i fod yn sicr y gellid gwneud hyn mewn ffordd a fyddai'n cadw'r risgiau i'r lleiaf posibl
  • y risg i ddiogelwch oherwydd bydd rhaid defnyddio papurau newydd a'u cludo'n gyflym
  • y risg i safonau oherwydd byddai'n anos sicrhau cymaroldeb os defnyddir papurau gwahanol
  • efallai na fydd arholwyr ar gael oherwydd eu bod wedi ymrwymo i farcio cyfres mis Ionaw
  • yr effaith ar amser addysgu os oes rhaid i ysgolion a cholegau dreulio amser ym mis Chwefror yn trefnu arholiadau yn hytrach na pharatoi'r myfyrwyr ar gyfer yr haf.

Ym mhob achos dylai ymgeiswyr sy'n pryderu am y trefniadau ar gyfer eu harholiadau gysylltu â'u canolfan - ysgol, coleg, darparwr hyfforddiant - i gadarnhau'r trefniadau.  Os yw canolfan ar gau yn ystod y gyfres arholiadau neu wedi'i heffeithio'n wael gan y tywydd garw ac o ganlyniad mae myfyrwyr yn absennol o arholiad, dylai canolfannau gysylltu â'r cyrff dyfarnu perthnasol neu edrych ar eu gwefannau am ganllawiau.

Ystyriwyd amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer sefyllfaoedd lle na all canolfannau gynnal yr arholiadau a drefnwyd.  Fe'u nodir yng nghanllawiau'r Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) ac fe'u crynhoir isod.

 

Canllawiau JCQ

Mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion a cholegau eu dilyn mewn amgylchiadau o'r fath.  Mae JCQ yn cynnwys y saith Corff Dyfarnu mwyaf ar gyfer cymwysterau yn y DU.  Fe'i sefydlwyd yn 2004 i alluogi cyrff dyfarnu sy'n aelodau i gydweithio a darparu, lle bynnag y bo'n bosibl, drefniadau gweinyddu cyffredin i'r ysgolion, colegau a darparwyr eraill sy'n cynnig eu cymwysterau.  Mae JCQ yn delio â'r cyfryngau ar faterion sy'n effeithio ar bob Corff sy'n aelod ac yn cydgysylltu'n uniongyrchol â'r Rheolyddion ar gyfer cymwysterau ym mhedair gwlad y DU ar faterion sy'n ymwneud â pholisi cymwysterau - er enghraifft, datblygu'r cynllun rheoli argyfyngau.

 

Mae JCQ yn cynghori lle bynnag y bo'n bosibl y dylai'r arholiadau fynd rhagddynt yn unol ag amserlen arholiadau gyhoeddedig y ganolfan.  Fodd bynnag, os yw'r tywydd mor wael fel bod yr awdurdod lleol neu'r uwch dîm rheoli yn penderfynu cau'r ysgol, bydd y dewisiadau canlynol yn gymwys:

  • Os yw ymgeiswyr yn sefyll un neu ddwy uned ac nid eu cyfres arholiadau derfynol yw hon, dylid cysylltu â'r corff dyfarnu unigol dan sylw i wneud cofrestriad ar gyfer Mehefin 2010.
  • Os yw ymgeiswyr yn sefyll unedau o fewn manyleb 'UG newydd' ac yn disgwyl gradd ar gyfer y cymhwyster ym Mawrth 2010, ond mae'r unedau ar gael eto ym Mehefin, dylid cysylltu â'r corff dyfarnu unigol dan sylw i wneud cofrestriad ar gyfer Mehefin 2010
  • Os yw ymgeiswyr yn sefyll unedau fel rhan o'u cyfres arholiadau terfynol ac nid oes cyfle arall i ailsefyll, megis ymgeiswyr sy'n sefyll unedau U2 TAG etifeddiaeth, sydd ar gael am y tro olaf yn Ionawr 2010, gellir gwneud cais am Ystyriaeth Arbennig.  Rhaid i'r ymgeisydd fodloni'r meini prawf cyhoeddedig ar gyfer Ystyriaeth Arbennig fel y nodwyd yng nghyhoeddiad JCQ, Trefniadau Mynediad, Addasiadau Rhesymol ac Ystyriaeth Arbennig.
  • Os yw ysgol neu ganolfan yn parhau ar agor ond ni all rhai ymgeiswyr unigol gyrraedd oherwydd y tywydd eithafol, gall canolfannau wneud cais am Ystyriaeth Arbennig ar ran yr ymgeiswyr hynny.  Dylai canolfannau gysylltu â'r corff dyfarnu perthnasol am ganllawiau pellach.