Cynhaliwyd Pymthegfed Confensiwn Fframwaith Partïon y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd yn Copenhagen rhwng 7 ac 18 Rhagfyr 2009. Er na chafwyd y cytundeb teg, uchelgeisiol a chyfreithiol rwymol y mae ei angen ar y byd yn y datganiad terfynol, rhaid inni ei ystyried yn fan cychwyn a chanolbwyntio’n gadarnhaol ar y camau nesaf tuag at sicrhau cytundeb cryf, gan barhau i gymryd camau uchelgeisiol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Seilir ein hymrwymiad i weithredu ar newid yn yr hinsawdd yma yng Nghymru ar reidrwydd gwyddonol i weithredu ac i weithredu ar frys i leihau allyriadau. Erys y rheidrwydd gwyddonol hwnnw ac ni ddylai diffyg cytundeb llawn rhyngwladol ein rhwystro rhag bod mor uchelgeisiol ag sy’n bosibl. Yn wir, efallai ei bod yn bwysicach nag erioed inni barhau i arwain y ffordd o ran newid yn yr hinsawdd. Gyda hyn mewn golwg, yr oeddwn yn falch iawn bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio o blaid lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 40 y cant fan leiaf erbyn 2020 ar sail llinell sylfaen 1990 yng Nghymru. Mae hyn yn unol ag ymrwymiadau presennol Llywodraeth y Cynulliad, ond mae’r gefnogaeth drawsbleidiol barhaus i lefel ein huchelgais yn hollbwysig ac i’w chroesawu’n fawr.
Gan adlewyrchu’r drafodaeth yng Nghomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ar 5 Ionawr, yr wyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd i ddweud ein bod o blaid gweld y Deyrnas Unedig yn mabwysiadu yn awr y cyllidebau a fwriedir gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd. Byddai gwneud hynny cyn cael cytundeb rhyngwladol rhwymol yn anfon neges gref iawn cyn y trafodaethau ym Mecsico fis Rhagfyr. Yr wyf yn gobeithio y bydd pob Aelod o’r Cynulliad wedi cael copi o’r llythyr hwnnw erbyn hyn.
Bwriad Llywodraeth y Cynulliad wrth gymryd rhan yng nghynhadledd Copenhagen oedd hybu tri amcan. Y cyntaf oedd hyrwyddo rôl Llywodraethau is-genedlaethol a rhanbarthol o ran mynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd. A minnau’n gyd-gadeirydd Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy, NRG4SD, a chan fod gan ddirprwyaeth Llywodraeth y Cynulliad statws sylwedydd yn y trafodaethau, buom yn gweithio gyda phartneriaid, yn NRG4SD ac mewn rhwydweithiau eraill, i ddylanwadu ar ddatblygu’r testun ar gyfer y trafodaethau neu’r datganiad a ddeilliai o hynny.
Yr ail amcan oedd hybu ymagwedd strategol a chynllun gweithredu Cymru ar gyfer mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, rhannu arferion da gyda Llywodraethau rhanbarthol eraill a dysgu gan eraill, cyflwyno adroddiadau ynglŷn â’r cynnydd yn y trafodaethau, a chyfleu i bobl yng Nghymru pa mor bwysig yw gweithredu ar newid yn yr hinsawdd.
Y trydydd amcan oedd gwella cysylltiadau Llywodraeth y Cynulliad â rhwydweithiau allweddol, â Llywodraethau rhanbarthol ac ag asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig er mwyn cryfhau ein dylanwad ar newid yn yr hinsawdd. Drwy’r ystod eang o ddigwyddiadau y bûm i a’r Prif Weinidog yn cyfrannu ynddynt, llwyddwyd i hyrwyddo’r amcanion hyn.
Bûm yn cadeirio cyfarfod grŵp llywio a chyfarfod agored NRG4SD, a chyfarfûm â nifer o brif arweinwyr, gan gynnwys y Llywodraethwr Schwarzenegger ac Ysgrifennydd Ynni’r Unol Daleithiau, Stephen Chu, Y Prif Weinidog Mike Rann o Dde Awstralia, y Prif Weinidog Charest o Quebec, Francesc Balthasar, y Gweinidog dros yr amgylchedd yng Nghatalunya, y Gweinidog a’r dirprwy o Wlad y Basg, a Tanja Gönner, Gweinidog dros yr Amgylchedd Baden-Württemberg. Cyfarfûm hefyd â nifer o’n partneriaid o Lywodraethau rhanbarthol Affrica, o Zambia, o ogledd Burkina Faso, o Uganda ac o Senegal, ac mae eu profiad hwy’n dangos bod a wnelo newid yn yr hinsawdd gymaint â chyfiawnder cymdeithasol ag y mae’n her amgylcheddol.
Cyfarfûm â’r Ysgrifennydd Gwladol, Ed Miliband, â Joan Ruddock, y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, Stewart Stevenson, Gweinidog Llywodraeth yr Alban dros Drafnidiaeth, Seilwaith a Newid Hinsawdd ac Edwin Poots, Gweinidog Cynulliad Gogledd Iwerddon dros yr Amgylchedd i drafod safbwynt ar y cyd yn y Deyrnas Unedig, a threfnais ginio lle’r oedd Nick Archer, llysgennad Prydain yn Nenmarc, yn bresennol, ynghyd â phartneriaid o NRG4SD, Rhaglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig a’r grŵp hinsawdd i drafod dylanwad Llywodraethau rhanbarthol ar y broses negodi.
Yn uwchgynhadledd arweinyddion hinsawdd y grŵp hinsawdd, cyhoeddodd y Prif Weinidog wrth ein 60 o brif weinidogion a gweinidogion rhanbarthol bartneriaeth newydd ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Partneriaeth â rhanbarth Mbale yn Uganda yw honno, ar y cyd â Rhaglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel rhan o raglen Cymru o blaid Affrica. Bydd y bartneriaeth yn gymorth i Mbale ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a bydd yn cynnig cyfleoedd newydd i fusnesau Cymru.
Wrth drafod gyda Jacqueline McGlade, prif weithredwr Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop, cytunais mewn egwyddor y byddwn yn ystyried cynllun peilot yng Nghymru i brofi technegau newydd ar gyfer datblygu dangosyddion datblygu cynaliadwy.
Daeth un o hyrwyddwyr newid hinsawdd Llywodraeth y Cynulliad i’r uwchgynhadledd hefyd, sef Cerith Jones. Cyflwynodd safbwynt pobl ifanc Cymru i’r cynadleddwyr eraill, a thrwy ei flog, a digwyddiadau i’r wasg a’r cyfryngau, rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r digwyddiadau i bobl yng Nghymru.
Gyda’n partneriaid rhanbarthol ac is-genedlaethol, parhawyd i dynnu sylw at y ffaith bod angen cydnabod rôl Llywodraethau is-genedlaethol o ran gwireddu’r testun y cytunid arno. Er bod y datganiad gwleidyddol terfynol yn gyfyngedig, yr oedd yn cytuno i ymestyn mandad y gweithgor ar hoc ar weithredu cydweithredol tymor hir, gyda golwg ar dderbyn ei drafodaethau yn COP 16 ym Mecsico. Mae testun trafodaethau’r gweithgor y cytunwyd arno’n cydnabod bod angen meithrin cysylltiad ag ystod eang o randdeiliaid ar lefel fyd-eang, ranbarthol, genedlaethol a lleol, gan gynnwys llywodraethau is-genedlaethol a lleol. Yng ngoleuni hyn, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol i sicrhau cytundeb rhwymol, yn anad dim drwy ddangos beth sy’n bosibl drwy’r hyn a gyflawnir yng Nghymru.
Cyfarfu Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ar 5 Ionawr. Wrth gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf, yr oedd aelodau’r comisiwn yn canolbwyntio ar y gwaith yr oeddent hwy neu eu sefydliad wedi’i wneud hyd at uwchgynhadledd Copenhagen ac yn ystod yr uwchgynhadledd honno. Yr oedd hynny’n cynnwys diweddariad gan Cerith am ei brofiadau yn yr uwchgynhadledd. Yr oedd y comisiynwyr yn unfryd o blaid y farn y dylem barhau i fod yn uchelgeisiol wrth bennu targedau gwleidyddol sy’n cyd-fynd â’r wyddoniaeth. Yn y cyfarfod hefyd, cafodd y comisiynwyr gyfle i gyfrannu at y strategaeth newid yn yr hinsawdd a’r cynllun gwireddu, a bydd y comisiwn yn trafod y strategaeth a’r cynllun gwireddu eto yn ei gyfarfod nesaf ym mis Chwefror.