Skip to content

Ysgrifenedig - Bioamrywiaeth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dynodi 2010 yn Flwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth. Drwy gydol y flwyddyn, bydd mentrau di-rif yn cael eu trefnu i ledaenu gwybodaeth, hybu camau i ddiogelu bioamrywiaeth ac annog cyrff, sefydliadau,  cwmnïau ac unigolion i gymryd camau uniongyrchol i leihau colli amrywiaeth biolegol yn gyson ledled y byd. Gellir cael manylion yn: http://www.countdown2010.net/year-biodiversity.

 

Mae’r Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru yn cynnwys tri chanlyniad allweddol ar gyfer bioamrywiaeth:

Canlyniad 19 Rhoddwyd terfyn ar golli bioamrywiaeth a gallwn weld adferiad pendant yn nifer, ystod ac amrywiaeth genetig rhywogaethau, gan gynnwys y rhywogaethau hynny sydd angen amodau penodol iawn er mwyn gallu byw.

 

Canlyniad 20 Y mae’r amgylchedd ehangach yn fwy ffafriol i fioamrywiaeth trwy reolaeth briodol, llai o ddarnio cynefinoedd a chynnydd yn y cynefinoedd a’r cyswllt rhyngddynt.

 

Canlyniad 21 Y mae safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, ar raddfa Cymru ac yn lleol, mewn cyflwr ffafriol i gefnogi rhywogaethau a chynefinoedd y cawsant eu dynodi ar eu cyfer.

Ochr yn ochr â’r canlyniadau hyn, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i ddau darged rhyngwladol ac un targed cenedlaethol mewn perthynas â 2010:

  •  Ymrwymiad y Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) i leihau’r gyfradd gyfredol o golli bioamrywiaeth yn sylweddol erbyn 2010
  •  Ymrwymiad yr UE i roi terfyn ar golli bioamrywiaeth erbyn 2010
  • Targed 32 y Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru: Dylai safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, cenedlaethol a lleol yng Nghymru fod mewn cyflwr ffafriol i gefnogi’r rhywogaethau a chynefinoedd y cawsant eu dynodi ar eu cyfer. Erbyn 2010, bydd 95 y cant o safleoedd rhyngwladol mewn cyflwr ffafriol; erbyn 2015, bydd 95 y cant o SoDdGA Cymru mewn cyflwr ffafriol, ac erbyn 2026, bydd pob safle mewn cyflwr ffafriol.

Mae gwella a gwarchod bioamrywiaeth yn rhan allweddol o’n hymrwymiad fel Llywodraeth i ddatblygu cynaliadwy.

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymryd safiad cadarnhaol i hybu gweithredu ar fioamrywiaeth, gan gydweithio â phob partner sydd â rôl i’w chwarae. Yn benodol, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ein Proses Gynllunio Gweithredu ar Fioamrywiaeth ac mae gennym bwerau deddfwriaethol newydd drwy Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (sy’n gosod Dyletswydd Bioamrywiaeth ar bob corff cyhoeddus) a Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Gwnaed cynnydd gwirioneddol  ar y ddaear ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau pwysig megis Ymylon Caeau Âr, Cyrff Dŵr Anwadal sy’n Tarddu o Ddyfrhaen, Pinc Deptford, Madfall y Tywod a’r Ystlum Pedol Lleiaf.

 

Mae camau cadarnhaol eisoes wedi’u cymryd, gan gynnwys:

 

  • Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru                                                                                    Gweithio tuag at darged y Strategaeth Amgylcheddol i sicrhau bod safleoedd dynodedig yn cyrraedd cyflwr ffafriol drwy sefydlu Cronfa Ddata Camau Gweithredu ar gyfer safleoedd rhyngwladol, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a safleoedd gwarchodedig eraill. Yn ystod 2008/09, cafodd data camau gweithredu ei fewnbynnu ar gyfer safleoedd pellach, gan gynnwys yr holl safleoedd/unedau hynny y dynodwyd eu bod yn eiddo i’r sector cyhoeddus neu wirfoddol. Mae meddalwedd a seilwaith yr allrwyd wedi’u datblygu i alluogi partneriaid allweddol i weld data ‘gweithredu’ safle ac ymateb er mwyn datblygu a chytuno ar raglenni gwaith. Hefyd, mae taenlenni wedi’u rhannu â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Asiantaeth yr Amgylchedd, y Comisiwn Coedwigaeth, Parciau Cenedlaethol, RSPB, Ymddiriedolaethau Natur a nifer o adrannau LlCC. Mae camau gweithredu allweddol wedi dechrau cael eu rhoi ar waith ar gyfer amrywiaeth eang o weithredoedd.
  • Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Cymru
    Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru wedi datblygu a gweithredu strwythurau a phrosesau i glustnodi camau gweithredu er mwyn cyrraedd ei dargedau Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth newydd ar gyfer Cymru (adolygiad Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth yn dilyn y DU). Mae’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu drwy’r System Adrodd ar Weithredu Bioamrywiaeth. Sefydlwyd naw grŵp ecosystem newydd, gyda chyfranogiad amrediad eang o randdeiliaid, a chyda chefnogaeth grwpiau arbenigol ar gyfer Rhywogaethau, Polisi a Rhywogaethau Goresgynnol Tramor. Mae nifer o sefydliadau’n gwella’u defnydd o wasanaethau’r System Adrodd ar Weithredu Bioamrywiaetha Chanolfannau Cofnodion Lleol, gan gynnwys Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
  • Rhwydwaith Bioamrywiaeth Ardal Leol
    Mae Cymru’n cael ei chwmpasu’n gyfan gwbl gan Bartneriaethau Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol, sy’n gweithredu’r camau uchod, a Chanolfannau Cofnodion Lleol, sy’n dal, yn prosesu ac yn lledaenu’r data ar fioamrywiaeth sydd ei angen i gefnogi’r gwaith hwn
    . Caiff pob Partneriaeth Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth eu cefnogi gan Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac mae gan Gymru hefyd Hyrwyddwyr Bioamrywiaeth ar lefel y Cabinet ym mhob Awdurdod Lleol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol, sy’n arwain ac yn hyrwyddo amrywiaeth o gamau gweithredu ar fioamrywiaeth.  
  • Cynlluniau amaeth-amgylcheddol presennol
    Yn 2010 bydd gan Tir Gofal, sef y cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gyfanswm o 417,725 hectar o arwynebedd dan reolaeth gadarnhaol, a chlustnodir 198,480 hectar ohono’n gynefin Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, dan adferiad, rheolaeth neu reolaeth creu. Yn ogystal, mae 435km o berthi dan reolaeth gadarnhaol. Gwelwyd cynnydd yn yr arwynebedd tir a ffermir yn organig yng Nghymru i bron 10% yn 2008, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae nifer o fanteision i wahardd/defnyddio llai ar blaladdwyr cemegol a gwrtaith heb fod yn organig, rheoli cynefinoedd di-gnwd yn sympathetig a gwarchod ffermio cymysg, gan gynnwys cyfrannu at boblogaethau o chwyn prin, cynefin ar gyfer adar gwyllt a gysylltir â pherthi ac ymylon caeau a mwy o amrywiaeth fflurol a chynefin llochesu.
  • Prosiect ‘Y Gweithfeydd’ yng Nglyn Ebwy
    Yn dilyn cau Gwaith Dur Glyn Ebwy, bu i gyn Awdurdod Datblygu Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent gomisiynu uwchgynllun. Nododd hwn sut y gallai’r safle 75 hectar ddod yn ardal drefol newydd fywiog ar gyfer Glyn Ebwy, gan greu cyfleoedd newydd, codi dyheadau a chreu newid sylweddol yn rhagolygon cymdeithasol ac economaidd Blaenau Gwent. Ar gychwyn y broses uwchgynllunio, sefydlwyd datblygu cynaliadwy yn egwyddor gyffredinol ar gyfer y prosiect. Roedd hyn yn cynnwys y dyluniad adfer, sydd wedi dod yn brosiect diwastraff ac a fydd yn creu parc gwlyptir newydd drwy ganol y safle, gan dderbyn dŵr o’r ardaloedd datblygu. Mae adferiad y safle hwn eisoes wedi troi safle gwaith dur diffrwyth yn gyfres o wlyptiroedd, glaswelltiroedd llawn rhywogaethau ac ardaloedd o goetiroedd newydd. Dyluniwyd a gweithredwyd hyn mewn cydweithrediad â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gwent a rhanddeiliaid lleol eraill.
  • Parc Rhanbarthol y Cymoedd
    Mae’r weledigaeth hon yn darparu dull integredig o gynllunio a chyflenwi gweithgarwch sy’n ymwneud â’r amgylchedd, treftadaeth a thwristiaeth ledled Cymoedd De Cymru. Mae gwarchod a gwella bioamrywiaeth yn elfen sylfaenol o’r rhaglen o fewn yr ymagwedd gynaliadwy ehangach. Mae enghreifftiau penodol o’r gwaith yn cynnwys: cynllun gweithredu cydweithredol cytûn sydd wedi’i ddatblygu gan, ac sy’n ‘eiddo’ i, dros 30 o wahanol sefydliadau (gan gynnwys 14 awdurdod lleol) sydd wedi cytuno i gydweithio ledled y Cymoedd, gan gynnwys amrywiaeth o amcanion bioamrywiaeth; £42m wedi’i sicrhau er gwella twristiaeth sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd naturiol, gan gynnwys arian cyfatebol sylweddol gan Raglen Blaenau’r Cymoedd a Rhaglen Ardal Adfywio Strategol y Cymoedd Gorllewinol. Mae gofyn i bob prosiect a gymeradwyir fel rhan o’r rhaglen gyflwyno gwerthusiad o ddatblygiad cynaliadwy, ac mae’n rhaid i hwnnw glustnodi darpar beryglon i fioamrywiaeth a chamau i leihau’r peryglon hyn, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth.

 

 

Ond er gwaethaf yr holl gamau gweithredu cadarnhaol hyn, mae’n amlwg nad yw’r gwaith a wnaed hyd yma wedi bod yn ddigon i’n galluogi i gyrraedd y targedau pwysig a heriol a osodwyd ar gyfer bioamrywiaeth. Nid ydym yn brwydro gyda her bioamrywiaeth ar ein pennau ein hunain. Ni fydd unrhyw wlad arall yn cyrraedd y targedau a osodwyd gan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer 2010.

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru felly’n cymryd y cyfle dros y flwyddyn sydd i ddod i adfywio sylfaen ein hymagwedd tuag at Fioamrywiaeth a Chadwraeth Natur drwy adolygu ein ffyrdd o fynd i’r afael â’r nodau a’r amcanion hyn ar hyn o bryd. 

 

Mae ein cynefinoedd yn wynebu heriau arbennig wrth ddatblygu, yn rhannol oherwydd y newid yn yr hinsawdd. Bydd angen i ni ddatblygu ein ffocws traddodiadol ar warchod safleoedd a rhywogaethau bychain i edrych ar y cynefin ehangach fel cyfanwaith a chreu lleoedd sy’n hydwyth i newid neu sy’n galluogi rhywogaethau i symud neu addasu. Dull gwir gynaliadwy o fynd i’r afael â hyn fyddai delio â newid yn yr hinsawdd a chynefinoedd gyda’i gilydd, gan reoli tir ar gyfer y gwasanaethau y mae’n ei ddarparu. Er enghraifft, bydd bron bob cam gweithredu y mae angen ei gymryd i gadw carbon yn y pridd neu i rwystro pwysau llifogydd hefyd o fudd i fioamrywiaeth. Hefyd, mae gan ecosystemau iach fwy o botensial i addasu i newid yn yr hinsawdd a sicrhau parhad yn narpariaeth gwasanaethau ecosystemau hanfodol megis peillio cnydau. Yr ymagwedd gyfannol hon yw sail llawer o’r gwaith yr ydym wedi’i ddatblygu dros y flwyddyn ddiwethaf, yn fwyaf nodedig, y cynigion a gynhwysir yn y cynllun Glastir.

 

Hoffwn gydweithio â’n holl bartneriaid i ddatblygu Fframwaith Amgylchedd Naturiol newydd. Er mwyn cyflawni’r gwaith hwn, byddwn yn datblygu ar bartneriaethau cydweithredol cryf a chadarnhaol sydd eisoes yn bodoli drwy gydweithio’n agos â’r cyhoedd, busnesau a’r sector gwirfoddol. Ym mis Medi 2009, bu i mi, ar y cyd â Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, lansio adolygiad o’r targedau a’n llwyddiannau a’n methiannau hyd yma, ynghyd â rhesymau drostynt. Byddaf yn cynnal cynhadledd bwysig ar fioamrywiaeth ym mis Medi 2010, fydd yn casglu ynghyd syniadau ac arferion gorau ac yn ystyried y camau cadarnhaol a gyflawnwyd hyd yma a’r hyn y mae angen i ni ei wneud yn wahanol.

 

Erbyn hynny byddwn hefyd wedi gweld cynnydd yn y camau gweithredu canlynol ddylai gael eu rhoi ar waith yn 2010:

  • Ardaloedd Morol Gwarchodedig
    Yn ystod 2010 byddwn yn datblygu meini prawf a methodoleg dethol safleoedd, gan ymgorffori gwybodaeth ecolegol, gymdeithasol ac economaidd i sicrhau y dewisir safleoedd er mwyn hybu manteision ecolegol ac economaidd-gymdeithasol i’r eithaf, gan leihau gwrthdaro â gwahanol ddefnyddwyr y môr cymaint ag sy’n bosibl. Mae’r gwaith o gasglu a choladu data eisoes wedi cychwyn.
  •  Pysgodfeydd
    Bydd gweledigaeth Strategaeth Pysgodfeydd Cymru yn cefnogi datblygu pysgodfeydd hyfyw a chynaliadwy yng Nghymru fel rhan annatod o bolisïau cydlynol er diogelu’r amgylchedd. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r sectorau Pysgodfeydd Masnachol, Dyframaethu, Pysgota Môr Hamdden a Physgodfeydd Mewndirol, mewn partneriaeth â chynrychiolwyr rheoli pysgodfeydd a chadwraeth natur, wedi datblygu Cynllun Cyflawni i gyrraedd nodau’r Strategaeth. Mae’r Strategaeth a’r Cynllun Cyflawni’n cefnogi dull wedi’i seilio ar ecosystemau o reoli pysgodfeydd Cymru, er mwyn sicrhau y ceir manteision mawr o bysgota, gan sicrhau hefyd bod ei effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar ecosystemau dyfrol yn isel ac nad ydynt yn niweidiol i swyddogaethau ecosystemau na bioamrywiaeth. Mae’r Cynllun Cyflawni’n ymrwymo rhanddeiliaid i gynnal ymchwil ar lefelau stoc, symudiadau a chylchoedd oes prif rywogaethau targed diwydiant Cymru, yn ogystal ag ar lefel ac effaith yr ymdrech bysgota gyfredol. Bydd canlyniadau’r ymchwil hwn yn hanfodol wrth weithredu rheolaeth pysgodfeydd effeithiol sydd wedi’i seilio ar ecosystemau. Mae gwaith wedi cychwyn ar yr ymchwil hwn a bydd yn parhau dros y blynyddoedd sydd i ddod.
  • Glastir
    Bydd gan y cynllun newydd ddwy elfen, sef elfen Cymru-gyfan ac elfen lefel uwch, gyda ffocws pendant. Bydd yr elfen Cymru-gyfan ar agor i bob ffermwr sydd wedi cofrestru ei dir ag IACS (3 hectar yw’r arwynebedd cymwys lleiaf) ac sydd â rheolaeth dros y tir ar gyfer cyfnod y cynllun (5 mlynedd). Caiff ffermwyr sy’n defnyddio tir comin fel rhan o fenter eu fferm gofrestru’r tir hwn ar gyfer elfen Cymru-gyfan Glastir. Bydd y cynllun newydd yn darparu cyfleoedd i reolwyr tir newid eu harferion cyfredol mewn ffordd fydd yn gwella cyflawniad canlyniadau gwasanaethau ecosystemau yn ogystal â sicrhau eu bod yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth a gwerth gweledol y tir y maent yn ei reoli. Amcan cyffredinol y cynllun sylfaenol yw cynnal a gwella gwerth amgylcheddol 80% o dir fferm Cymru.
    Bwriad y cynllun mynediad yw darparu cynllun amaeth-amgylcheddol lefel mynediad, gyda fframwaith gweinyddol syml ac amodau wedi’u seilio ar gynnyrch neu ganlyniad, fydd yn caniatáu i lawer mwy o ffermwyr a llawer mwy o dir fferm ddod o dan reolaeth amaeth-amgylcheddol. Mae’n darparu cefnogaeth i ffermwyr warchod cynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion y dirwedd.
    Bydd targedau gofodol neu thematig i’r elfen a dargedir. Bydd yn gynllun fferm rhannol, sy’n darparu taliadau cyfalaf a chynnal. Bydd yn ceisio cyflawni camau gweithredu megis diogelu’r carbon sydd yn y pridd a dal a storio carbon, gwella ansawdd dŵr, rheoli perygl llifogydd a chyflawniad mynediad strategol sy’n cael ei gyflawni’n well ac yn cynhyrchu’r canlyniadau gorau posibl ar raddfa tirwedd neu ddalgylch yn hytrach na ffermydd unigol. Yn fras, byddwn yn tueddu i ddelio â materion sy’n gofyn am ymateb rheoli cymhleth trwy’r cynllun uwch. Yn ogystal, bydd camau i gynyddu gwerth bioamrywiaeth a chynnal yr amgylchedd hanesyddol, naill ai ar y cyd neu ar ffermydd unigol, hefyd yn cael eu cefnogi.
      
  • Yr Economi a Thrafnidiaeth
    Mae Adran yr Economi a Thrafnidiaeth yn cydnabod Datblygu Cynaliadwy fel prif egwyddor drefniadol o fewn ei pholisïau a’i gweithgareddau. Er mwyn ymwreiddio’r newid a’r berchenogaeth ddiwylliannol angenrheidiol ar bob un o lefelau’r Adran, rydym yn sefydlu Grŵp Rheoli Datblygu Cynaliadwy. Bydd y Grŵp Rheoli Datblygu Cynaliadwy’n arwain ar ddatblygu a phrif ffrydio datblygu cynaliadwy ar draws eu meysydd busnes. Caiff y grŵp hwn gefnogaeth gan dîm o ymarferwyr Amgylcheddol a Datblygu Cynaliadwy. Mae Adran yr Economi a Thrafnidiaeth yn ymwybodol iawn o’i dyletswyddau dan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006. Bydd canllawiau manwl wedi’u hadolygu a’u hailgyhoeddi ar gael ar fioamrywiaeth i sicrhau bod ein holl weithgareddau’n gweithio tuag at warchod a gwella rhywogaethau a chynefinoedd. Cefnogir y Canllawiau gan y tîm Cyflawni Datblygu Cynaliadwy. Y mae dau aelod o’r tîm hwn yn ecolegwyr proffesiynol sydd ar gael i ddarparu cyngor i reolwyr prosiect ar sut orau i integreiddio Datblygu Cynaliadwy a materion amgylcheddol a bioamrywiaeth yn eu prosiectau.
  • Y Cynllun Gofodol
    Mae Adran yr Economi a Thrafnidiaeth, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac adrannau eraill LlCC wrthi ar hyn o bryd yn datblygu gwaith ar seilwaith gwyrdd o dan gydweithwyr Cynllun Gofodol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r ymagwedd hon yn ceisio edrych ar swyddogaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yr amgylchedd naturiol ar raddfa’r dirwedd, gan edrych ar wasanaethau ecosystemau gan gynnwys: dal a storio carbon, rheoli perygl llifogydd a chysylltedd ecolegol i helpu bioamrywiaeth i addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am gyfleoedd i arddangos yr ymagwedd hon o fewn ein gweithgarwch Seilwaith, Eiddo ac Adfywio.
  • Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd
    Heddiw, lansiais y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd sydd â’r brif nod o sicrhau ansawdd dŵr da i gynnal bioamrywiaeth ac ecosystemau iach. Yng Nghymru, rydym wedi’n hamgylchynu gan oddeutu 1600km o forlin gyda 70% ohono eisoes o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig! Yn ogystal, mae gennym rwydwaith o tua 7700km o afonydd, ynghyd â’n llynnoedd a’n dŵr daear. Mae camau allweddol wedi’u cynnwys yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd i helpu sicrhau bod safleoedd cadwraeth natur a warchodir yn rhyngwladol yn cyrraedd cyflwr ffafriol.
  • Cynlluniau Rheoli Traethlinau/Rheoli Perygl Llifogydd                                                                        Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau anelu at gyrraedd statws da ar gyfer pob corff dŵr erbyn 2015. Gan mai Cyfarwyddeb fframwaith yw’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, mae’n ymgorffori mesurau a safonau o Gyfarwyddebau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys safonau ac amcanion ar gyfer “Ardaloedd Gwarchodedig”. Mae yna ddau fater allweddol sy’n ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig N2K sy’n ddibynnol ar ddŵr nad ydynt yn cyrraedd statws cadwraeth ffafriol neu eu hamcanion Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, sydd â goblygiadau ar gyfer gweithrediadau Rheoli Perygl Llifogydd a’r Arfordir. Mae’r materion hyn yn ymwneud â cholli cynefinoedd rhynglanw ar rannau o’r arfordir ble mae symudiad y draethlin yn gyfyngedig (Gwasgfa Arfordirol) a materion lefel y dŵr ar afonydd a gwlyptiroedd (Lefelau Dŵr). Cyn y Nadolig, cymeradwyais y camau gweithredu canlynol oedd â’r nod o fynd i’r afael â’r uchod: creu Rhaglen Greu/Adfer Cynefinoedd Cenedlaethol i Gymru, i’w harwain gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru er mwyn datblygu cynigion i wneud iawn am effeithiau gweithredu polisïau Rheoli Perygl Llifogydd a’r Arfordir ar safleoedd N2K; ariannu camau cydbwyso i adfer cynefinoedd a safleoedd a glustnodwyd yn y Rhaglen o gyllideb rheoli risg llifogydd a’r arfordir Llywodraeth y Cynulliad; a chyfarwyddo Asiantaeth yr Amgylchedd, yn ei rôl fel awdurdod draenio cyfrifol, i weithredu camau i gyrraedd cyflwr ffafriol ar gyfer 10 safle.

 

Erbyn diwedd 2010, byddaf, mewn cydweithrediad â Gweinidogion eraill, yn cyhoeddi Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol, fydd yn amlinellu ein ffyrdd newydd o fynd i’r afael â’r heriau hyn, yn arbennig yng ngoleuni’r newid yn yr hinsawdd.