Fel rhan o'm rôl fel cyd-gadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Cenedlaethol, rwyf wedi cytuno ar adolygiad o'r system cyfiawnder teuluol yng Nghymru a Lloegr gyda'r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (Jack Straw AS) a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd (Ed Balls AS).
Mae'r system cyfiawnder teuluol yn delio â phenderfyniadau hollbwysig i fywydau miloedd o blant a'u teuluoedd bob blwyddyn, gan gostio dros £800m i'r trethdalwr. Mae rhai elfennau pwysig wedi cael eu diwygio dros y blynyddoedd diwethaf. Ond mae angen i ni fod yn sicr bod y system, yn ei diwyg bresennol, yn cefnogi rhieni i'r eithaf o ran sefydlu a chynnal dull gweithredu cydweithredol i gytuno ar drefniadau ar gyfer y dyfodol pan fydd perthynas yn dod i ben, heb achosi straen ychwanegol yn ddiarwybod mewn cyfnod sydd eisoes yn anodd iddynt. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod amser gwerthfawr yn y llys yn canolbwyntio ar ddiogelu'r rheini sy'n agored i niwed rhag camdrin, erledigaeth ac ecsbloetiaeth.
Panel fydd yn cynnal yr adolygiad, gyda phedwar cynrychiolydd yn annibynnol ar lywodraeth y DU a'r llywodraeth ddatganoledig ac uwch gynrychiolwyr o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd gofyn i'r adolygiad wneud argymhellion mewn dau faes craidd: (1) pa gamau y gellir eu cymryd i hyrwyddo setliad a chytundeb deallus; (2) p'un a oes angen gwella'r ffordd y caiff y system cyfiawnder teuluol ei rheoli.
Bydd yr egwyddorion canlynol yn llywio'r adolygiad:
- Buddiannau’r plentyn ddylai fod bwysicaf mewn unrhyw benderfyniad sy'n effeithio arno/arni (ac ynghyd â hyn, dylid osgoi oedi wrth benderfynu ar ganlyniad unrhyw gais i'r llys);
- dylai rôl y llys ganolbwyntio ar ar ddiogelu'r rheini sy'n agored i niwed rhag camdrin, erledigaeth ac ecsbloetiaeth a dylai osgoi ymyrryd mewn bywyd teuluol, heblaw lle mae budd amlwg i oedolion sy'n agored i niwed a phlant o wneud hynny;
- dylai unigolion gael yr wybodaeth a'r cymorth cywir i'w galluogi i gymryd cyfrifoldeb am y sgil-effeithiau pan fydd eu perthynas yn methu;
- dylid defnyddio cyfryngu a chymorth tebyg cyn belled ag sy'n bosibl i gefnogi unigolion i ddod i gytundeb ynghylch trefniadau, yn hytrach na bod y llysoedd yn gosod trefniadau;
- dylai'r prosesau ar gyfer datrys anghydfod teuluol a chytuno ar drefniadau yn y dyfodol fod yn hawdd eu deall, yn syml ac yn effeithlon;
- dylid osgoi gwrthdaro rhwng unigolion gymaint â phosibl.
Mae copïau o'r cylch gorchwyl llawn ynghlwm yn Atodiad A.
Bydd yr adolygiad yn cael effaith ar deuluoedd yng Nghymru ac ar CAFCASS CYMRU, sydd â'r prif swyddogaethau o ddiogelu a hyrwyddo lles plant mewn achosion teulu a rhoi cyngor i unrhyw lys am geisiadau a wneir iddo.
Bydd yr Aelodau'n cofio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar 9 Rhagfyr 2009, ystyried argymhellion Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru.
Rydym wedi gofyn i banel yr adolygiad lunio adroddiad terfynol i'r arweinwyr priodol yn y llywodraethau yn 2011.
Atodiad A
Yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol – Cylch Gorchwyl
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, yr Ysgifennydd Gwladol dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd a'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu adolygiad o'r system cyfiawnder teuluol yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r egwyddorion canlynol wedi cael eu nodi fel fframwaith i dywys gwaith yr adolygiad:
- buddiannau’r plentyn ddylai fod bwysicaf mewn unrhyw benderfyniad sy'n effeithio arno/arni (ac ynghyd â hyn, dylid osgoi oedi wrth benderfynu ar ganlyniad unrhyw gais i'r llys);
- dylai rôl y llys ganolbwyntio ar ar ddiogelu'r rheini sy'n agored i niwed rhag camdrin, erledigaeth ac ecsbloetiaeth, a dylai osgoi ymyrryd mewn bywyd teuluol, heblaw lle mae budd amlwg i oedolion sy'n agored i niwed a phlant o wneud hynny;
- dylai unigolion gael yr wybodaeth a'r cymorth cywir i'w galluogi i gymryd cyfrifoldeb am y sgil-effeithiau pan fydd eu perthynas yn methu;
- dylid defnyddio cyfryngu a chymorth tebyg cyn belled ag sy'n bosibl i gefnogi unigolion i ddod i gytundeb ynghylch trefniadau, yn hytrach na bod y llysoedd yn gosod trefniadau;
- dylai'r prosesau ar gyfer datrys anghydfod teuluol a chytuno ar drefniadau yn y dyfodol fod yn hawdd eu deall, yn syml ac yn effeithlon;
- dylid osgoi gwrthdaro rhwng unigolion gymaint â phosibl.
Dylai'r adolygiad asesu sut mae'r system gyfredol yn gweithredu yn erbyn yr egwyddorion hyn a gwneud argymhellion ar gyfer diwygio mewn dau faes craidd: hyrwyddo setliad a chytundeb deallus; rheoli'r system cyfiawnder teuluol.
Yn benodol, bydd hyn yn cynnwys ymchwilio i'r materion canlynol:
- i ba raddau y gall natur wrthwynebus system y llysoedd hyrwyddo atebion a pherthnasau teuluol da mewn achosion teuluol cyfraith breifat, a pha drefniadau amgen fyddai'n fwy effeithiol o ran meithrin atebion cadarnhaol hirdymor;
- edrych ar yr opsiynau ar gyfer cyflwyno elfennau mwy ymchwiliol i'r system cyfiawnder teuluol ar gyfer achosion cyfraith gyhoeddus a chyfraith breifat;
- a oes meysydd gwaith teuluol y gallai proses weinyddol, yn hytrach na phroses lys, ddelio â nhw'n symlach ac yn fwy effeithiol, ac ymchwilio i ddiwyg y broses weinyddol honno;
- ymchwilio i rolau'r holl asiantaethau a gweithwyr proffesiynol gwahanol yn y system cyfiawnder teuluol, gan gynnwys ystyried i ba raddau y mae'r trefniadau, cysylltiadau ac atebolrwydd o ran llywodraethu yn glir ac yn hyrwyddo cydweithredol effeithiol ac effeithlonrwydd gweithredol.
Bydd panel yn cynnal yr adolygiad, gyda phedwar cynrychiolydd annibynnol ac uwch gynrychiolwyr o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd a Llywodraeth Cynulliad Cymru (fel sy'n berthnasol yn achos materion datganoledig). Bydd grŵp defnyddwyr a rhanddeiliaid, a fydd yn cynnwys arbenigwyr o'r system cyfiawnder teuluol, ysgolheigion ac arbenigwyr defnyddwyr, yn cynorthwyo'r panel yn ei waith. Bydd y Gweinidogion yn cymeradwyo aelodau'r panel a'r grŵp cynghori.
Wrth ymchwilio i'r materion hyn, bydd gofyn i'r panel gasglu ac ystyried safbwyntiau rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys plant a theuluoedd, y farnwriaeth, cyfreithwyr teulu, ymarferwyr Cafcass a gweithwyr cymdeithasol. Bydd disgwyl hefyd i'r adolygiad gynnal ymgynghoriad eang, gan dynnu ar astudiaethau ymchwil a deunydd darllen perthnasol am gyfiawnder teuluol, ystyried y data ansoddol a meintiol sydd ar gael ac ystyried cymariaethau rhyngwladol.
Dylai'r adolygiad ystyried materion gwerth am arian ac adnoddau cyn gwneud unrhyw argymhellion. Dylid cyfrif costau'r argymhellion, ac ystyried a ydynt yn fforddiadwy.
Ar ôl bwrw golwg ar yr ymchwil a'r dystiolaeth sydd ar gael, mae disgwyl i banel yr adolygiad nodi'r amserlenni tebygol ar gyfer bwrw ymlaen â'r adolygiad o fewn tri mis i gyhoeddi'r adolygiad. Disgwylir i adroddiad yn nodi canfyddiadau'r adolygiad gael ei gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd a Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2011.