Skip to content

Ysgrifenedig - Haiti

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, y Brif Weinidog

Mae’r ddaeargryn erchyll drawodd Haiti wedi creu chwalfa mewn gwlad oedd eisoes yn dlawd iawn.  Mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu bod hyd at 50,000 o bobl wedi’u lladd a bod 3 miliwn o bobl yn dioddef canlyniadau difrifol o ganlyniad i’r difrod enfawr gafodd ei wneud gan y ddaeargryn. Mae cymorth o bob cwr o’r byd eisoes ar ei ffordd gan y prif sefydliadau rhyngwladol, llywodraethau cenedlaethol a mudiadau elusenmol ond mae problemau mawr yn eu hwynebu o ran trefnu cludiant a diogelwch yn Haiti.

 

Rwy’n siwr bod pob un ohonom yn teimlo dros holl bobl Haiti ar yr adeg dreng hon, yn enwedig y rheini sydd wedi colli ffrindiau a pherthnasau.

 

Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol sy’n arwain ymdrechion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu’r wlad, gan neilltuo £20 miliwn o arian cymorth iddi ac anfon tîm o weithwyr argyfwng.  Mae’r tîm achub yn cynnwys diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Maen nhw’n chwilio am bobl yn yr adfeilion, yn gwneud adeiladau peryglus yn ddiogel ac yn codi llochesi dros dro i bobl sydd wedi colli’u cartrefi ac sydd yn awr yn byw yn yr awyr agored.  Testun balchder i mi yw gwybod bod Cymry’n chwarae rhan bwysig yn yr ymdrech ddyngarol anferthol hon i helpu pobl Haiti.

 

Gallwn ninnau adre roi cymorth gwerthfawr hefyd a gwn fod llawer o bobl a mudiadau’n gweithio’n galed i godi arian.  Ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, rwy’n galw ar bawb i gyfrannu at apêl y Pwyllgor Trychinebau ac Argyfyngau.  Mae’r Pwyllgor yn cynrychioli 13 o’r prif elusennau ac yn eu cydgysylltu er mwyn iddyn nhw allu cynnal gwaith brys a gwaith mwy tymor hir yn yr ardaloedd sy’n dioddef. Mae cyfrannu ato yn gwneud yn siwr bod yr arian yn cael ei wario gan y mudiadau a’r sefydliadau sydd eisoes wedi cyrraedd Haiti yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl. 

 

Er eich gwybodaeth, y mudiadau sy’n perthyn i’r Pwyllgor Trychinebau ac Argyfyngau yw:

  • Achub y Plant
  • Action Aid
  • CAFOD
  • Care International UK
  • Concern Worldwide
  • Cymorth Cristnogol
  • Y Groes Goch Brydeinig
  • Help the Aged
  • Islamic Relief
  • Merlin
  • Oxfam
  • Tearfund
  • World Vision

Dylai pobl ymwrthod â’r awydd naturiol i gasglu nwyddau i’w hanfon i Haiti.  Mae profiad o’r gorffennol yn dweud wrthym bod pecynnau o ffynonellau annibynnol yn tagu meysydd awyr a phorthladdoedd.  Mae’n fwy na phosibl na fyddant yn cael eu defnyddio ac maen nhw’n rhwystro cyflenwadau angenrheidiol rhag cyrraedd pen y daith.  Mae’r mudiadau mwy hyn yn gallu archebu’r cyflenwadau mwyaf addas ar raddfa fawr ac mae cynnig arian iddyn nhw yn eu helpu i brynu yr hyn sydd ei angen – a hynny’n aml yn yr ardal ei hun.  Os ydy pobl am wneud cyfraniad i apelau gan fudiadau o’r tu allan i’r Pwyllgor, dylen nhw ofyn sut y bydd yr arian yn cael ei wario a holi a yw’r ffyrdd yn glir i gael y cymorth i Haiti.

 

Mae llyfryn o’r enw “Trychinebau ac Argyfyngau Dramor - Sut Gallwch Chi Helpu” sy’n trafod y materion hyn ac a gafodd ei gyhoeddi ar y cyd gan y DfID / Cynulliad Cymru, ar gael ichi ei ddarllen ar dudalen flaen ein gwefan.