Skip to content

Ysgrifenedig - Adolygiad o Wasanaethau Gyrfaoedd yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Heddiw, byddaf yn cyhoeddi adolygiad o Gylch Gorchwyl ail gam yr Adolygiad o Wasanaethau Gyrfaoedd yng Nghymru. Roedd y Cylch Gorchwyl gwreiddiol yn gofyn i'r Grŵp Adolygu ystyried cwtogi ar nifer y cwmnïau sy'n perthyn i Gyrfa Cymru. Rwyf wedi penderfynu adolygu hynny, a gofyn i'r Grŵp Adolygu weithio ar yr egwyddor y bydd strwythur unedol yn cael ei sefydlu ar gyfer Gyrfa Cymru. Rwyf i o'r farn y bydd hynny yn crisialu tasg y Grŵp Adolygu wrth iddo ystyried y berthynas rhwng Gyrfa Cymru a darparwyr gwasanaethau eraill yn y dyfodol. Bydd hefyd yn rhoi terfyn ar yr ansicrwydd sy’n wynebu’r cwmnïau gyrfaoedd am strwythur y sefydliad yn y dyfodol. Mae adroddiadau olynol gan Moulson a Prail yn 2004, Webb yn 2007, a Watts y llynedd, oll wedi nodi bod angen ad-drefnu. Roedd adroddiadau diweddaraf Webb a Watts yn tynnu sylw at fanteision strwythur unedol. Daeth Watts i'r casgliad bod ‘...[y] strwythur presennol o chwe chwmni Gyrfa Cymru ar wahân, gyda seithfed cwmni dan gydberchnogaeth sy’n gwasanaethu’r chwech arall, yn achosi problemau.’ Rwy'n argyhoeddedig, erbyn hyn, mai strwythur unedol yw'r ffordd ymlaen i ddarparu'r 'arweinyddiaeth gadarn' y nododd yr Athro Watts sydd ei hangen.

 

Rwy'n gofyn, felly, i fy swyddogion ymchwilio i ad-drefniad o'r fath, ar y cyd â'r cwmnïau, ac i gynghori ar yr opsiynau ar gyfer strwythur unedol ochr yn ochr â’r materion eraill y bydd y Grŵp Adolygu yn eu hystyried. Byddaf yn cyhoeddi fy mhenderfyniad o ran yr opsiwn a fydd yn cael ei ddilyn maes o law, ar ôl i'r opsiwn hwnnw gael ei arfarnu.

 

Rwy'n disgwyl i'r Grŵp Adolygu adrodd am eu canfyddiadau a'u hargymhellion ddiwedd mis Mawrth.