Skip to content

Ysgrifenedig - Adroddiad Cynnydd Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau 2009-10

Dolenni perthnasol

'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' - Adroddiad Blynyddol Ar Gamddefnyddio Sylweddau 2009
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y strategaeth 10 mlynedd “Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed” ym mis Hydref 2008 gyda'r nod o fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. 

 

Yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, roeddwn yn ymroddedig i fynd i'r afael â'r problemau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae'n amlwg bod gan y GIG, gan weithio ochr yn ochr â'r sector gwirfoddol ac asiantaethau partner eraill, ran allweddol i'w chwarae yn yr agenda hon.   Rwyf felly, fel y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi bod yn awyddus i ategu'r gwaith pwysig wnaeth Dr Gibbons ar yr agenda hon yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.  Yn benodol, roeddwn am sicrhau y byddai'r trefniadau ar gyfer y Byrddau Iechyd Lleol newydd yn eu galluogi i fynd i'r afael â'r agenda hon yn llawn. 

 

Yn dilyn y newidiadau diweddar ym mhortffolios y Gweinidogion, mae'r cyfrifoldeb arweiniol am yr agenda camddefnyddio sylweddau bellach yn rhan o'm swydd i fel Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Fy amcan allweddol yn awr yw cryfhau rôl arweiniol cyrff y GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn yr agenda camddefnyddio sylweddau a'u cysylltiadau gydag Awdurdodau Cyfrifol eraill y Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, sy'n parhau i fod â chyfrifoldeb statudol dros fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau ar lefel leol.  Credaf fod hyn yn hynod bwysig wrth fynd i'r afael â phroblem ac effaith gynyddol camddefnyddio alcohol yng Nghymru 

 

Mae mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cynulliad Cymru a dangosir hynny'n glir gan y £5.9 miliwn ychwanegol o adnoddau a roddwyd i'r Gronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wneud y cysylltiadau angenrheidiol ar draws y Llywodraeth, bydd y swyddogion sydd â chyfrifoldeb arweiniol am yr agenda hon yn parhau i fod yn rhan o'r Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.  Byddant yn parhau i weithio'n agos â chydweithwyr yn fy Adran i ac yn yr Adran Plant a Dysgu Gydol Oes yn ogystal ag asiantaethau partner. 

 

Mae hon yn agenda ble na fydd byth yn bosibl rhoi tic yn y blwch "wedi'i gwblhau".  Mae nifer o heriau'n parhau.  Mae ymdrin â'r problemau cynyddol sy'n dod yn sgil camddefnydd alcohol yn benodol yn her arbennig, ond rwy'n benderfynol o barhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gryfhau'r fframwaith deddfwriaethol o ran pris ac argaeledd alcohol.  Bydd parhau i sicrhau bod rhai o'r bobl hynny yn ein cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed yn cael mynediad gwell i wasanathau trin, yn wyneb galw cynyddol, yn anodd.  Fodd bynnag, bydd yr adnoddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc, yn ogystal â'r cynnydd yn ein cyllideb cyfalaf yn ein galluogi i gymryd camau pellach.  Yn bwysicaf oll, mae gennym ymrwymiad sylweddol o hyd gan bartneriaid i weithio â ni i gyflawni ein strategaeth.

 

Mae'r adroddiad atodedig yn cynnwys y crynodeb cyntaf o'r cynnydd sydd wedi'i wneud i weithredu'r strategaeth newydd ac yn rhoi manylion am hynt Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth weithredu llawer o'r amcanion allweddol yn y cynllun gweithredu tair blynedd.