Skip to content

Llafar - Benodi Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, y Brif Weinidog

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi gallu penodi’r Athro John Harries o Goleg Imperial, Prifysgol Llundain, fel ein Prif Gynghorydd Gwyddonol cyntaf i Gymru.

 

Cydnabyddir yr Athro Harries, sy’n hanu o Aberafan, yn rhyngwladol am ei waith fel gwyddonydd atmosfferig. Bydd yn ymgymryd â’i swydd gyda ni o 1 Mai. Daw’r penodiad hwn yn sgîl adolygiad trwyadl i botensial a sgôp swydd prif gynghorydd gwyddonol a gomisiynwyd gan fy rhagflaenydd, Rhodri Morgan, ac a gyflawnwyd gan yr Athro Christopher Pollock—cyn-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd yn Aberystwyth—yn ystod 2008.

 

Ar hyn o bryd, yr Athro Harries yw’r athro arsylwi daearol yn Labordy Blackett Coleg Imperial Llundain. Mae hefyd yn aelod o Sefydliad Ymchwil Hinsawdd Grantham yn y coleg. Yn gyn-lywydd y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol, mae hefyd wedi gwasanaethu fel llywydd y Comisiwn Ymbelydredd Rhyngwladol. Yr oedd yn gyfarwyddwr adran gwyddor y gofod yn Labordy Rutherford Appleton, ac ef hefyd yw prif archwilydd offeryn monitro hinsawdd sy’n gweithredu ar hyn o bryd ar y gyfres loerennau Meteosat Ewropeaidd mewn cylchdro daearsefydlog. Bydd yn parhau i roi pumed ran o’i amser i’r Imperial yn ystod yr hyn sydd, i ddechrau, yn secondiad tair blynedd.

 

Mae’r Athro Harries eisoes wedi bod yn uwch gynghorydd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn sawl rôl. Yn awr daw atom ni i ddarparu cyngor gwyddonol i mi, fel Prif Weinidog, ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd yn darparu swyddogaeth atal-a-herio hanfodol i lunwyr polisïau, gan sicrhau bod eu gwaith a’r cyngor a roddir iddynt yn seiliedig ar wyddoniaeth gadarn, ddibynadwy ac ar gyngor gwyddonol. Bydd yn ymgymryd â rôl pennaeth y proffesiwn gwyddonol o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan arwain, annog a chefnogi ein gwyddonwyr i gyd yn eu gwaith. Mae gennym eisoes staff sylweddol o gynghorwyr gwyddonol arbenigol mewn meysydd fel iechyd a gwyddor amgylcheddol, a chydweithiwn â llawer o gyrff allanol i gasglu cyngor a thystiolaeth. Bydd yr Athro Harries yn arwain ac yn cydlynu’r gwaith hwnnw.

 

Bydd yn hyrwyddo gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, sef y pynciau STEM, fel y’u gelwir. Rhaid i Gymru gael cyflenwad digonol o bobl sy’n meddu ar y sgiliau a’r doniau gwyddonol a thechnegol i yrru’r economi wybodaeth yng Nghymru. Gallai hynny fod ar ffurf ymchwilwyr yn cynhyrchu gwybodaeth newydd, neu mewn busnes, gan droi canlyniadau ymchwil yn gynnyrch, prosesau a gwasanaethau arloesol. Maent i gyd yn cyfrannu at ein huchelgeisiau ar ran economi Cymru wrth inni ddod allan o’r dirywiad. Mae ennyn brwdfrydedd ein pobl ifanc am bynciau STEM yn bwysicach nag erioed—er ein budd economaidd neu’n syml er mwyn deall y byd cymhleth yr ydym yn byw ynddo.

 

Mae rhan sylweddol o’r agenda gwyddoniaeth heb ei datganoli i Gymru, er bod y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o’r meysydd sydd wedi’u datganoli inni’n defnyddio gwyddoniaeth i ryw raddau, fel cynghorau ymchwil y Deyrnas Unedig, er enghraifft. Mae’n hollbwysig inni gael gwybodaeth am ddatblygiadau ar lwyfan y Deyrnas Unedig, a bydd yr Athro Harries yn aelod o’r pwyllgor allweddol o gynghorwyr gwyddonol adrannol yn Whitehall a’r gweinyddiaethau datganoledig, dan arweiniad yr Athro John Beddington, prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chyd-academydd yng Ngholeg Imperial. Bydd hynny’n ei roi wrth galon syniadaeth wyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn ei alluogi i siarad dros fuddiannau Cymru ar ystod eang o faterion gwyddonol.

 

Mae’r Llywodraeth wedi datgan yn glir bwysigrwydd denu a defnyddio’r ymchwilwyr gorau, masnacholi ymchwil i adeiladu economi gryfach a chynaliadwy i Gymru wrth inni ddod allan o’r dirwasgiad, ynghyd â datblygu a chadw’r sgiliau gwyddonol a thechnegol i wneud hynny’n llwyddiannus. Bydd penodiad yr Athro Harries yn gymorth sylweddol inni gyflawni ein huchelgeisiau i Gymru.