Skip to content

Ysgrifenedig - Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Diben y datganiad hwn yw rhoi gwybod i’r Aelodau fy mod wedi gwneud Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2010. Mae’r Gorchymyn yn cael ei gyflwyno i wella’r broses o reoleiddio’r diwydiant treillio am gregyn bylchog yng Nghymru gyda’r nod o ddiogelu stociau cregyn bylchog a gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd pwysig y môr tra’n cynnal diwydiant hyfyw a chynaliadwy i bysgotwyr sy’n pysgota yn nyfroedd Cymru.

 

Mae’r datganiad hwn yn dilyn y cyhoeddiadau a wnaethum ar 9 Hydref a 12 Tachwedd 2009 pan eglurais y cefndir i’r cynnydd yn lefel y pysgota am gregyn bylchog yn ystod y blynyddoedd diwethaf a’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth y Cynulliad i gyflwyno mesurau newydd i reoleiddio’r bysgodfa. O dan Orchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2005, roedd disgwyl i’r bysgodfa agor ar 1 Tachwedd 2009.  Fodd bynnag, penderfynais ymestyn y cyfnod caeëdig tan 28 Chwefror 2010 tra bod y mesurau rheoleiddio’n cael eu llunio.  Disgwylir i’r bysgodfa ailagor ar 1 Mawrth 2010.

 

Mae’r rheoliadau newydd yn cynnwys cyfyngiadau gofodol a thechnegol sy’n ceisio lleihau lefel y pysgota am gregyn bylchog yn nyfroedd Cymru. Bydd hefyd yn gwahardd treillio am gregyn bylchog mewn sawl ardal sydd wedi’u diffinio’n glir o gwmpas arfordir Cymru ac sydd wedi’u nodi’n rhai pwysig i rywogaethau a chynefinoedd bregus y môr.  Mae’r cyfyngiadau gofodol yn seiliedig ar gyngor a gafwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a fydd i’w weld ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Mae’r cyfyngiadau technegol a geir yn y Gorchymyn yn pennu’r terfyn uchaf ar bŵer peiriant y llongau treillio am gregyn bylchog a all gael mynediad i’r bysgodfa ac maent hefyd yn ymwneud â  dyluniad yr offer pysgota am gregyn bylchod y gellir eu defnyddio a nifer y llusgrwydi y caniateir i longau eu defnyddio.  Ac eithrio rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, y ceir disgrifiad o’r trefniadau ar ei chyfer isod, bydd pob Ardal Cadwraeth Arbennig arall o fewn dyfroedd Cymru yn parhau i fod yn gaeëdig i dreillio am gregyn bylchog.

 

Mae’r adolygiad a gynhaliwyd yn ddiweddar yn ardal Bae Ceredigion gan Ysgol Gwyddorau’r Cefnforoedd Prifysgol Bangor, yn ogystal â’r cyngor a gafwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, wedi llywio fy mhenderfyniad i ganiatáu treillio am bysgod cregyn mewn un rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion.  Rydym yn ystyried cynnal asesiad tebyg i’r un a gynhaliwyd yn ddiweddar mewn un ardal o Fae Ceredigion a allai arwain at ailasesu’r ardaloedd lle y caiff treillio ei wahardd ar hyn o bryd.   

 

Mae copi o Orchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2010

Ynghlwm. Gellir gweld map sy’n dangos y cyfyngiadau gofodol ar wefan pysgodfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae swyddogion yn parhau i weithio gyda’r diwydiant i ddatblygu mesurau ar gyfer rheoli’r bysgodfa yn y dyfodol.