Skip to content

Ysgrifenedig - Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i`r Ymgynghoriad gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraen ar Leoli Cynnych ar Deledu

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Mae Gweinidogion Cymraeg wedi ymateb i adolygiad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon o leoli cynnyrch ym mis Ionawr 2010.

 

Rydym yn awyddus i gryfhau sefyllfa darlledwyr sy’n dibynnu’n rhannol neu’n llwyr ar incwm masnachol, fodd bynnag rydym yn credu, wedi pwyso a mesur, y byddai’n well gadael y trefniadau presennol fel y maent.

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn credu y gallai llacio’r rheolau presennol ynghylch lleoli cynnyrch gael effaith negyddol ar bolisïau iechyd y cyhoedd sydd wedi cael eu datblygu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.  Cyfrwng grymus yw’r teledu a gall ddylanwadu ar ymddygiad pobl ifanc yn arbennig.   Rydym yn credu ei bod yn bwysig iddo gael ei reoleiddio’n gaeth ac y dylai newidiadau i’r strwythur rheoleiddio gael eu hystyried yn ofalus iawn.  Mae’r rheolau cyfredol ynglŷn â lleoli cynnyrch yn helpu i gyfyngu ar unrhyw effaith negyddol y gallai’r teledu ei chael fel arall.

Rydym yn pryderu’n arbennig am yr effeithiau niweidiol a fyddai’n gysylltiedig â rhoi mwy o amlygrwydd i alcohol, tybaco, a rhai cynhyrchion bwyd a diod penodol.  Mae ein sylwadau manwl isod yn ychwanegu at sylwadau a wnaed yn ystod 2009 gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.   

 

Alcohol 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn credu fod angen i’r rheolaethau presennol ar hysbysebu alcohol fod yn llymach o lawer ac y dylid ystyried o ddifrif ei wahardd yn llwyr.  Rydym felly yn pryderu'n fawr am unrhyw gynigion a fyddai'n cynnig modd newydd ac arwyddocaol o bosibl i'r diwydiant alcohol hyrwyddo'u cynhyrchion. Nid ydym yn credu ychwaith y byddai cymhwyso’r  rheolau presennol ar hysbysebu alcohol i leoli cynnyrch yn dod yn agos at roi diogelwch digonol. 

 

Mae'r papur ymgynghori hefyd yn amlygu'r anawsterau ymarferol gyda'r fath ffordd o weithredu, yn arbennig wrth benderfynu'n gywir pa raglenni a fyddai'n cael eu cynnwys mewn categori o’r fath. Mae llawer o blant yn gwylio rhaglenni nad ydynt wedi'u hanelu atynt yn benodol, gan gynnwys, mewn rhai achosion, raglenni a ddangosir ar ôl y trobwynt am 9pm. Yn ogystal, mae’n dod yn rhwyddach i blant wylio rhaglenni nad ydynt wedi'u hanelu atynt yn benodol gan ei bod yn hawdd recordio rhaglenni i'w gwylio rywbryd eto, a gan fod rhaglenni 'ar gais' ar gael fwyfwy ar y rhyngrwyd, trwy raglenni megis 'i-player'.

 

Cwbl anymarferol felly yw dyfeisio unrhyw set o gyfyngiadau nad yw'n waharddiad llwyr a fyddai'n gallu diogelu plant yn ddigonol rhag dod i gysylltiad â lleoli cynnyrch alcohol, petai'n cael ei gyflwyno o gwbl.   

 

Ysmygu 

Mae ysmygu'n dal i fod yn un o brif achosion salwch y gellir ei atal a marwolaethau cyn pryd yng Nghymru.  Mae gan ysmygu oblygiadau enfawr i iechyd yr unigolyn, yn ogystal â chostau i'r GIG a'r economi ehangach. Mae gostwng lefelau ysmygu'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac adlewyrchwyd hyn yn ein fframwaith strategol newydd ar gyfer iechyd y cyhoedd, Ein Dyfodol Iach.

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru felly'n croesawu'r cadarnhad y bydd lleoli cynhyrchion tybaco'n cael ei wahardd yn benodol, gan fod hynny’n gyson â'r dull polisi sydd yng Nghymru.

 

Safbwynt clir Llywodraeth Cynulliad Cymru felly yw y dylai lleoli ategolion ysmygu gael ei wahardd yn llwyr hefyd.

 

Bwyd a Diod 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn pryderu'n fawr am ddeiet a gordewdra, ac rydym wedi datblygu strategaethau a rhaglenni i fynd i'r afael â'r materion hyn, sy'n rhan o Her Iechyd Cymru, y ffocws cenedlaethol ar gyfer ymdrechion i wella iechyd yng Nghymru.

 

Mae hysbysebu bwyd i blant a phobl ifanc wedi'i amlygu fel pwynt gweithredu yng nghynllun cyflawni 5-mlynedd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer maeth a gweithgarwch corfforol, Bwyd a Ffitrwydd - Hybu Bwyta'n Iach a Gweithgarwch Corfforol i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru.  Fel rhan o hyn rydym yn cymryd ymagwedd strategol at gyfyngu ar hysbysebu a hyrwyddo bwydydd a diodydd sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen, ac rydym wedi datblygu canllawiau ar gyfer nawdd gan gwmnïau bwyd.

 

Byddai'n groes i’r cyfeiriad polisi yng Nghymru pe na bai unrhyw lacio ar reolau lleoli cynnyrch bwyd yn eithrio lleoli bwydydd sy'n cynnwys llawer o siwgr, braster a halen.

 

Yn ein barn ni mae’r effaith economaidd hirdymor posibl ar y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill o ganiatáu i fwy o amlygrwydd gael ei roi i gynhyrchion sy’n niweidio iechyd y cyhoedd yn y tymor hir, yn drech nag unrhyw fuddion economaidd tymor byr sy’n gysylltiedig â llacio’r rheolau hyn.