Skip to content

Ysgrifenedig - Mesur Cydraddoldeb

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mae’r Mesur Cydraddoldeb bellach yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ôl mynd drwy Dŷ’r Cyffredin. Rhoddir croeso i ddiwygiad Llywodraeth y DU i ran un y Mesur o ran y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Mae’r diwygiad, yn amodol ar i’r Mesur gael Cydsyniad Brenhinol, yn golygu na fydd angen i Weinidogion Cymru gael cydsyniad Gweinidog y Goron cyn gosod y ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus strategol yng Nghymru. Bydd Gweinidogion Cymru bellach yn ymgynghori â Gweinidog y Goron cyn gosod y ddyletswydd yng Nghymru.

 

Daeth yr ymarfer gwrando i helpu i fframio dyletswyddau cydraddoldeb penodol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru a ddechreuodd ar 27 Gorffennaf 2009 i ben ar 16 Tachwedd 2009. Gofynnwyd am farn ynglŷn â’r hyn a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl Cymru ac fel rhan o’r broses ymgysylltu, daeth mynychwyr i nifer o ddigwyddiadau wedi’u rhedeg gan amryw o gyrff.

 

Anfonwyd dogfen yr ymarfer gwrando at dros 200 o grwpiau sy’n ymwneud â meysydd cydraddoldeb, a mynychodd swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru  gyfres o weithdai, fforymau a digwyddiadau eraill a drefnwyd i godi ymwybyddiaeth a thrafod y datblygiad a’r cyfleoedd a allai godi o’r dyletswyddau newydd hyn. Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys:

  • Cyfres o dri fforwm penodol wedi’u comisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gael barn uwch-gynrychiolwyr ac ymarferwyr cydraddoldeb wedi’u tynnu o’r sectorau cyhoeddus, academaidd a’r Trydydd Sector;
  • Cyfres o grwpiau trafod wedi’u trefnu gan Women Making a Difference i gael syniadau menywod sy’n gweithio ac yn byw yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig;
  • Digwyddiad wedi’i noddi gan Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth yng Nghaerdydd ar 1 Medi a fynychwyd gan dros 80 ymarferydd cydraddoldeb i drafod y dyletswyddau newydd yn ogystal ag elfennau gwahaniaethu ar sail oedran y Mesur;
  • Cyfres o gyfarfodydd rhwydwaith a drefnwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan gynnwys cyfarfod o gynghorwyr wedi’u hethol sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol Llywodraeth Leol a chydbwyllgor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
  • Digwyddiad Hawl i Reoli gan Anabledd Cymru yn Wrecsam a fynychwyd gan dros 50 cynrychiolydd grwpiau a chyrff anabledd;
  • Fforwm Cydraddoldeb Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru;
  • Digwyddiadau Anabledd Dysgu Cymru yng Nghaerdydd a Llandudno;
  • Rhoddwyd gwybodaeth yn ystod y digwyddiadau ymgynghori i gymunedau Sipsiwn-Teithwyr;
  • Cyfres o grwpiau trafod wedi’u trefnu gan AWEMA.

Yn ogystal, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru wedi cynnal cyfres o naw grŵp ffocws o’r sector gwirfoddol. Roedd y rhain yn cynnwys grwpiau sy’n cynrychioli oedran, anabledd, rhywedd, hil, crefydd a chred, cyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd. Yn ogystal cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau gyda chyflogwyr sector cyhoeddus i ysgogi trafodaeth am yr ymarfer gwrando. Rydym yn croesawu’r farn a’r sylwadau a fynegwyd yn ystod yr ymarfer a byddant yn cael eu cyhoeddi cyn hir. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cydnabod bod angen mynd ati o’r newydd i gydbwyso cynlluniau cydraddoldeb ag amcanion cydraddoldeb. Mae angen cadw cynlluniau i gynnal tryloywder a dylid eu cysylltu â phrosesau cynllunio corfforaethol a busnes.
  • Dylid cadw Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb gan eu bod yn cynnig dull systematig o fynd ati i ystyried effaith polisïau ac ymarfer, ond mae angen iddynt gael eu symleiddio a dylent ganolbwyntio ar ganlyniadau.
  • Dylid cynnal yr agweddau cadarnhaol tuag at gynnwys pobl o fewn y ddyletswydd benodol gyfredol tuag at anabledd a lle y bo’n briodol, dylid ei hehangu i gynnwys pob llinyn cydraddoldeb.
  • Dylid bod rhaid casglu data ar draws pob llinyn cydraddoldeb i wella’r dystiolaeth sydd ar gael, ond dylai’r casglu fod yn briodol i fath a maint gwahanol yr awdurdodau cyhoeddus ac yn gymesur â nhw.
  • Dylid ystyried datblygu dyletswydd sector cyhoeddus cadarn a fyddai’n ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a’i achosion.
  • Mae caffael cyhoeddus yn ddull gwerthfawr o achosi newid a dylid ei gynnwys yn y dyletswyddau penodol yng Nghymru.
  • Mae gan arolygiaethau yng Nghymru ran bwysig i’w chwarae wrth hyrwyddo cydraddoldeb, fel cyflogwr ac fel rheolyddion/arolygwyr. Dylid ystyried eu rhan nhw yn y ddyletswydd newydd hon yn fanwl.

Bydd ein cynigion polisi yn cael eu drafftio a’u cyhoeddi gogyfer ag ymgynghoriad cyhoeddus ddiwedd gwanwyn 2010. Ar ôl yr ymgynghori, bydd y rheoliadau’n cael eu llunio a’u cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddechrau 2011. Yn amodol ar farn y Cynulliad, disgwylir y bydd y dyletswyddau cydraddoldeb newydd penodol i’r sector cyhoeddus yn dod i rym yn ystod gwanwyn neu haf 2011.