Skip to content

Ysgrifenedig - Hybu cymhellion ariannol ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Bydd cam cyntaf cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ‘arian am ynni glân’ i gartrefi, diwydiannau, busnesau a chymunedau sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy’n dod i rym o fis Ebrill 2010 ymlaen. O dan y Tariffau Bwydo-i-mewn, bydd gan gartrefi, cymunedau a busnesau sy’n gosod technolegau cynhyrchu megis tyrbinau gwynt bach a phaneli solar hawl i wneud cais am daliadau am y trydan carbon isel maent yn ei gynhyrchu. Bydd prosiectau ar raddfa fwy’n dal i gael eu cynorthwyo gan Dystysgrifau Ymrwymo i Ynni Adnewyddadwy.

 

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn ymgynghori ar y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy a fyddai’n dod i rym ym mis Ebrill 2011 ac yn darparu taliad tebyg am gynhyrchu ac allforio gwres adnewyddadwy. 

 

Bydd ar gartrefi incwm isel angen cymorth ychwanegol er mwyn manteisio ar y cymhellion ariannol ynni adnewyddadwy hyn. Mae ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r ymgynghoriad ar Dariffau Bwydo-i-mewn a’r ymgynghoriad cyfredol ar y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy yn cydnabod fod hwn yn fater pwysig.

 

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid yng Nghymru i annog pobl i fanteisio ar gymhellion ariannol ynni adnewyddadwy o brosiectau maint micro i faint macro. Gall cartrefi, cymunedau, busnesau a’r sector cyhoeddus i gyd fanteisio ar yr arian sydd ar gael i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy.

 

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni amrywiaeth fawr o wybodaeth am ficrogynhyrchu ar ei gwefan (www.energysavingtrust.org.uk), gan gynnwys offeryn Dewis Cynhyrchu Ynni Cartref y gall deiliad tŷ ei ddefnyddio i gael gwybod pa dechnolegau allai fod yn addas i’w gartref. Mae cyngor manylach ar gael trwy ffonio canolfan gyngor yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yng Nghymru (0800 512 012). Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni hefyd yn datblygu cyfrifiannell Tariffau Bwydo-i-mewn a fydd ar gael cyn cyflwyno Tariffau Bwydo-i-mewn ym mis Ebrill. Bydd y gyfrifiannell yn caniatáu i ddeiliaid tai amcangyfrif yr arian y gallent o bosibl ei gael yn ôl o’u buddsoddiad.

 

Mae Rhaglen Cymorth yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai (a ariennir gan Lywodraeth y Cynulliad) hefyd yn trefnu dau ddigwyddiad ym mis Mawrth (un yn y Gogledd, un yn y De) i helpu Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai i ddeall Tariffau Bwydo-i-mewn ac i’w cynghori ar ffyrdd o sicrhau buddion lleol sylweddol i’w tenantiaid a’u cymunedau lleol.

 

Bydd yr Ymddiriedolaeth Garbon hefyd yn darparu cymorth i fusnesau a’r sector cyhoeddus i’w galluogi i gael Tariffau Bwydo-i-mewn.

 

Byddaf hefyd yn hyrwyddo’n gryf fuddion posibl Tariffau Bwydo-i-mewn i brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol. Mae cynorthwyo cymunedau i weithredu i leihau eu hôl troed carbon a dod yn fwy hunangynhaliol o ran ynni ac adnoddau eraill yn un o elfennau allweddol ein Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd.

 

Mae rhai cymunedau eisoes wedi nodi bod effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni carbon isel yn faes y maent eisiau bwrw ymlaen ag ef. Hoffem i gymunedau ddod yn allforwyr ynni net. Bydd Tariffau Bwydo-i-mewn wedyn yn cynhyrchu ffrwd incwm y gallent ei hail-fuddsoddi i helpu i ariannu prosiectau lleol.

 

Bydd Rhaglen Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy ar Raddfa Gymunedol Llywodraeth y Cynulliad yn chwarae rhan allweddol wrth alluogi pobl i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a fydd o fudd i gymunedau cyfan. Bydd ein partner prosiect, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, yn cydgysylltu’r gwasanaeth cyngor technegol ac yn rheoli ceisiadau. Mae’r rhaglen yn sefydlu Gwasanaeth Swyddogion Datblygu rhanbarthol i ddarparu cymorth arbenigol i brosiectau ynni cymunedol. Bydd hyn yn adeiladu ar allu sefydliadau ledled Cymru sydd ag arbenigedd yn y maes hwn eisoes, ac yn cryfhau’r gallu hwnnw.

 

Gellir cael mwy o wybodaeth am Dariffau Bwydo-i-mewn ar: http://www.decc.gov.uk/en/content/cms/what_we_do/uk_supply/energy_mix/renewable/policy/feedin_tarriff/feedin_tarriff.aspx