Skip to content

Ysgrifenedig - Diweddariad ynghylch cyfarfod Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 5 Ionawr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Ar 12 Ionawr, rhoddais gyflwyniad llafar ar fy ymweliad â Copenhagen a chrybwyllais hefyd gyfarfod diwethaf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi i chi wybodaeth fwy penodol ynghylch y trafodaethau a gynhaliwyd yng nghyfarfod y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd ar 5 Ionawr.

 

Rhoddodd aelodau’r Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiwn ynghylch y rôl y maent hwy neu eu sefydliad wedi’i chwarae hyd at yr uwchgynhadledd yn Copenhagen ac yn ystod yr uwchgynhadledd ei hun. Er enghraifft, Cyswllt Amgylchedd Cymru yn gweithio ar y cyd ag Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru oedd prif drefnydd cyfraniad Cymru at yr orymdaith ar y newid yn yr hinsawdd sef The Wave yn Llundain ar 5 Rhagfyr. Aeth y garfan o Gymru â Draig Las gyda nhw i gynrychioli Cymru a’r mudiad protest. Amcangyfrifwyd bod rhwng 30,000 a 60,000 o bobl yno yn y brotest. Aeth y Ddraig Las a gafodd le amlwg yn y brotest hon i Copenhagen hefyd.

 

Cymerodd y CBI ran mewn nifer o ddigwyddiadau yn arwain at Copenhagen i sicrhau bod buddiannau a chyfraniad busnesau yn cael eu hystyried wrth gymryd camau ar y newid yn yr hinsawdd.

 

Ymhlith aelodau’r Comisiwn oedd Cadeirydd Cynnal Cymru, Morgan Parry. Cymerodd ran mewn nifer o gyfweliadau yn ystod yr uwchgynhadledd a fu’n gyfle i drafod rhai o’r materion mwy heriol fel y bwyd rydym yn ei fwyta a’r newidiadau y mae angen i ni eu gwneud i’n diet er mwyn mynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau’r newid yn yr hinsawdd.

 

Yn ogystal â hynny, fe wnaeth Cerith Jones, un o Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Cymru 2009, fynychu’r uwchgynhadledd gan esbonio wrth aelodau’r Comisiwn ei fod, drwy ei bresenoldeb yn Copenhagen ym mis Rhagfyr, yn gallu bod yn llais i bobl ifanc Cymru. Roedd ei bresenoldeb yn bwysig gan mai ein pobl ifanc yw’r dyfodol a’r rhai a fydd yn gorfod delio ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

 

Yn Copenhagen, cyfarfu â nifer o sefydliadau gan gynnwys y Groes Goch a sefydliadau ledled Ewrop ac UDA. Cafodd Cerith gyfle hefyd i gwrdd â’r wasg ar sawl achlysur gan gyfrannu at yr adroddiad ar gyfer ysgolion gyda’r BBC, cael ei gyfweld gan y BBC a chreu ei flog ei hun.

 

Yn gyffredinol, roedd aelodau’r Comisiwn yn siomedig na chafodd cytundeb cyfreithiol-rwym ei lunio yn Copenhagen. Er hynny roeddent yn teimlo y dylem fod yn bositif a chanolbwyntio ar ystyried Copenhagen yn gam cychwynnol i’r broses a’r angen i ganolbwyntio ar sicrhau cytundeb ym Mecsico. Yn ogystal â hynny, roedd aelodau’r Comisiwn yn awyddus i sicrhau na fyddai’r diffyg cytundeb rhyngwladol yn arafu’r momentwm sydd wedi datblygu o blaid gweithredu i fynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau’r newid yn yr hinsawdd.

Trafododd aelodau’r Comisiwn ddrafft cyntaf Strategaeth derfynol Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. Croesawai aelodau’r Comisiwn gryfhau’r adran ar addasu a’r thema sy’n ymwneud â newid ymddygiad sydd bellach yn gymwys ym mhob sector. Cafodd nifer o awgrymiadau eu gwneud i wella cynnwys ac eglurder y Strategaeth. Yn eu plith oedd eglurder ar gyflwyno’r dulliau gweithredu yn raddol, cyfraniad y camau i’w cymryd at gyflawni’r targed o 3%, gwella’r broses o drawsgyfeirio dogfennau Llywodraeth y Cynulliad y cyfeirir atynt yn y Strategaeth a’r angen am fwy o fanylder am fwyd o safbwynt y bwyd sy’n cael ei fwyta gennym a hefyd o safbwynt cynhyrchu bwyd.

Cyfarfu’r grŵp Gorchwyl a Gorffen ar ôl cyfarfod y Comisiwn i drafod yr adran ddiwygiedig ar addasu sy’n rhan o’r Strategaeth ac i wneud cyfraniad cydgysylltiedig ynghyd ag awgrymiadau i wella.

Bydd y Comisiwn yn ystyried drafft diwygiedig o’r Strategaeth yn ei gyfarfod nesaf ddiwedd mis Mawrth.

Rhoddodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru gyflwyniad ar y gwaith maent yn ei wneud, gyda chymorth Llywodraeth y Cynulliad, i gryfhau eu rôl arweinyddol bresennol ac i roi eu haddewidion ar waith. Sefydlwyd grŵp arweinyddol ar y newid yn yr hinsawdd sy’n cael ei hwyluso gan Peter Davies o’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy. Y nod yw datblygu strategaeth a rhai canllawiau ar ddatblygu arweinyddiaeth ar fynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau’r newid yn yr hinsawdd.

Mae papur ar waith Llywodraeth Cynulliad Cymru ar annog y Trydydd Sector i gymryd camau i fynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau’r newid yn yr hinsawdd hefyd wedi’i drafod gan aelodau’r Comisiwn. Dyma rai o’r agweddau a fydd yn cael eu datblygu:

  • Sefydlu rhwydweithiau rhanbarthol i gefnogi asiantau allweddol dros newid a hefyd swyddogion / gweithwyr datblygu cymunedol ac amgylcheddol.
  • Adeiladu ar ddigwyddiadau cymunedol blaenorol a gynhaliwyd ddiwedd 2007 a dechrau 2009 er mwyn cefnogi sefydliadau ledled Cymru i gyflwyno digwyddiadau undydd rhyngweithiol ar gyfer grwpiau cymunedol a’r Trydydd Sector.
  • Rydym wrthi ar hyn o bryd yng nghanol proses tendro er mwyn cael sefydliad i gyflwyno tri phrosiect Pathfinder yng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Wrecsam. Y nod yw datblygu fframwaith o fodelau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth ac sy’n cefnogi camau i’w cymryd yn lleol y gellir eu defnyddio gan gymunedau ledled Cymru.
  • Gweithio gyda’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd ac Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Cymru ar her creu cymunedau carbon isel.
  • Grantiau i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru er mwyn annog sefydliadau i gymryd eu camau cyntaf i fynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau'r newid yn yr hinsawdd yn ogystal â darparu grantiau i grwpiau cymunedol er mwyn sgrinio ac yna drafod Oes y Dwl.

Byddaf yn parhau â’r gwaith hwn ac rwyf yn gwbl ymrwymedig i gryfhau ein cysylltiadau â’r Trydydd Sector a’r grwpiau cymunedol. 

Yn anffodus, oherwydd y tywydd garw, ni fu modd i’r Athro Kevin Anderson gyflwyno’r adroddiad olaf ar y sefyllfa ynghylch allyriadau i aelodau’r Comisiwn. Fodd bynnag, cafodd copi o’r adroddiad terfynol ei ddosbarthu a bydd cyflwyniad yn cael ei roi yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn a’i  gyhoeddi yn dilyn hynny.

Edrychodd y prosiect ar y polisïau y byddai eu hangen i sicrhau gostyngiad mwy na 3% yn yr allyriadau blynyddol. Bydd y prosiect hwn yn bwysig i sicrhau na fydd y camau a gymerwn i leihau allyriadau yn ein hatal rhag dilyn trywydd cyflymach i leihau allyriadau yn y dyfodol.

Yn ogystal â thrafod y drafft llawn o’r Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd ac adroddiad Canolfan Tyndall, bydd cyfarfod y Comisiwn i’w gynnal ym mis Mawrth yn canolbwyntio ar drafod blaenraglen waith y Comisiwn.