Skip to content

Ysgrifenedig - Pythefnos Masnach Deg - 22 Chwefror tan 7 Mawrth 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mae'n Bythefnos Masnach Deg yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd (rhwng 22 Chwefror a 7 Mawrth 2010) – amser i godi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg a dathlu ei llwyddiant yn mynd i'r afael â'r tlodi eithriadol sy'n wynebu ffermwyr a chynhyrchwyr mewn llawer o wledydd tlotaf y byd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i sôn wrthych am hynt yr ymgyrch Cenedl Masnach Deg a'r gweithgareddau Masnach Deg y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn eu cefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf, ac i dynnu sylw at rai o'r digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru dros y pythefnos hwn.

Cyhoeddwyd ym mis Mehefin 2008 mai Cymru oedd Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd, yn dilyn ymgyrch a arweiniwyd gan fudiad Masnach Deg Cymru, a'i hariannu gan Lywodraeth y Cynulliad. Fodd bynnag, rydym yn cyfrif mai cam ar y daith yw bod yn Genedl Masnach Deg, nid diwedd y daith, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi Masnach Deg a chodi ymwybyddiaeth ohoni eto i'r dyfodol. Mae llawer o wirfoddolwyr brwd o gymunedau a sefydliadau yng Nghymru wedi cefnogi ymgyrch Cenedl Masnach Deg, ac yn dal i wneud hynny, gyda chymorth Masnach Deg Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pum awdurdod lleol a thair tref arall yng Nghymru wedi cael statws Masnach Deg. Mae hyn yn golygu bod 70% o awdurdodau lleol Cymru a 42% o'n trefi wedi cael statws Masnach Deg.

Mae 41% o ysgolion Cymru wedi'u cofrestru gyda chynllun Ysgolion Masnach Deg y DU ac fe gododd nifer yr ysgolion yng Nghymru sydd â statws Masnach Deg o 55 y llynedd i 82 eleni. Felly, yng Nghymru y mae chwarter holl ysgolion y DU sydd â statws Masnach Deg.

Mae dau brif undeb amaethyddol Cymru (NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru) wedi cytuno ar gyd-ddatganiadau gyda Masnach Deg Cymru, yn ymrwymo i gefnogi cynnyrch Masnach Deg ac yn cyhoeddi'r neges, 'Os na allwch brynu cynnyrch lleol, prynwch gynnyrch Masnach Deg'.

Trwy raglen Cymru o Blaid Affrica eleni, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ariannu nifer o brosiectau Masnach Deg. Rydym wedi cefnogi'r mudiad 'Bees for Development' sydd â'i ganolfan yng Nghymru, i gydweithio â gwenynwyr yng Nghamerŵn. Rydym yn eu helpu i gynhyrchu mwy o fêl a chŵyr a'r rheiny o safon uwch fel y gall cwmni Masnach Deg o Gymru eu gwerthu. Rydym wedi dal ati i gynnig cyngor a chymorth busnes o Gymru i Fenter Gydweithredol Coffi Masnach Deg Gumutindo yn Uganda, gan ddefnyddio'r ddolen gyswllt hon i hybu gwell dealltwriaeth o Fasnach Deg yng Nghymru. Yn ogystal, rydym wedi rhoi cymorth a chyngor marchnata i fusnesau arbenigol Masnach Deg ledled Cymru trwy Ganolfan Gydweithredol Cymru.

Yng Ngŵyl y Gelli ym mis Mai 2009, fe wnaethom ni gefnogi trafodaeth am 'ryfeloedd bananas a brwydrau Masnach Deg eraill'. Hefyd, fe wnaethom ni helpu i ariannu Ffair Fasnach Cymru a'r Byd ym mis Hydref 2009 yng Nghanolfan Dewi Sant, Caerdydd, er mwyn hybu ymwybyddiaeth o Fasnach Deg, safle Cymru fel Cenedl Masnach Deg, a dangos holl amrywiaeth y nwyddau Masnach Deg sydd ar gael erbyn hyn.

Cynhelir llawer iawn o weithgareddau a dathliadau Pythefnos Masnach Deg ledled Cymru. Cânt eu trefnu gan grwpiau lleol mewn trefi a chymunedau eraill a'u cefnogi a'u hysbysebu gan Masnach Deg Cymru. Hoffwn annog Aelodau'r Cynulliad i gefnogi digwyddiadau yn eu hardaloedd eu hunain os oes modd. Bydd ffermwr cnau cashew Masnach Deg o El Salvador yng Nghanol America a chynhyrchydd cnau ac olew olewydd Masnach Deg o Balesteina yn ymweld â Chymru yn ystod y pythefnos i helpu i hyrwyddo Masnach Deg ac esbonio'r effaith a gaiff. Byddant yn siarad yn rhai o'r digwyddiadau lleol ac mae'r manylion i'w gweld ar wefan Masnach Deg (www.masnachdegcymru.com)

Cynhelir Te Parti Mawr o dan Arweiniad Masnach Deg Cymru yn y Senedd ar 3 Mawrth (12-2pm) pryd y bydd ysgolion lleol yn dangos eu gwaith Masnach Deg ac yn canu a dawnsio. Bydd Lliain Bwrdd Masnach Deg mwyaf Cymru i'w weld yno, wedi'i wneud o gant o sgwariau cotwm Masnach Deg wedi'u haddurno gan ysgolion ledled Cymru. Bydd derbyniad Masnach Deg yn yr Oriel hefyd rhwng 5 a 7 o'r gloch y nos. Hoffwn annog holl Aelodau'r Cynulliad i gefnogi'r achlysur hwn.

Yn ogystal, mae Canolfan Gydweithredol Cymru yn cynnal pleidlais ar-lein i ganfod hoff baned Masnach Deg y Cymry. Caiff unrhyw un bleidleisio dros y caffi, y bwyty neu'r cwmni arlwyo sy'n rhoi eu hoff ddiod poeth Masnach Deg iddynt ac fe gyhoeddir enw'r enillydd hanner ffordd trwy Bythefnos Masnach Deg.

Ar gotwm a the y mae Sefydliad Masnach Deg y DU wedi dewis canolbwyntio yn ystod Pythefnos Masnach Deg eleni, ac mae ganddynt ymgyrch yn gofyn i bobl gyfnewid eu nwyddau arferol am nwyddau Masnach Deg, boed hynny'n de, lemons neu grysau-T, pan fyddant yn siopa.

Mae nifer o gwmnïau mawr wedi newid i greu cynnyrch Masnach Deg dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae nifer y nwyddau Masnach Deg sydd ar werth yn dal i gynyddu. Mae siocled Dairy Milk gan Cadbury’s a choffi sy'n defnyddio espresso yn Starbucks yn rhai Masnach Deg erbyn hyn, fel y mae bariau siocled Kit Kat a holl siocledi Green and Blacks. Mae'r melons Masnach Deg cyntaf ar werth mewn rhai o archfarchnadoedd Prydain erbyn hyn ac mae 130 o nwyddau harddwch (sy'n defnyddio cynhwysion fel menyn coco a rhannau o ffrwythau) wedi cael tystysgrif Masnach Deg. Gallwch brynu dillad cotwm Masnach Deg mewn mwy a mwy o siopau'r Stryd Fawr ac mae sylfaenwyr cwmni hufen iâ Ben and Jerry's newydd gyhoeddi eu bod am droi eu hufen iâ yn un hollol Fasnach Deg.

Mae'n bleser gennyf adrodd hefyd bod trefnwyr Cwpan Ryder wedi ymrwymo i gynnig te, coffi a siwgr Masnach Deg yn ystod y bencampwriaeth yng Nghymru eleni ac y bydd y gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn cynnig bananas, te, coffi, siwgr a siocled poeth Masnach Deg mewn 40 canolfan yn y Deyrnas Unedig.

Felly, mae Masnach Deg yn dal i ffynnu, ac mae Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn cefnogi Masnach Deg ac yn codi ymwybyddiaeth ledled Prydain, trwy grwpiau brwd yn ein hysgolion, prifysgolion, trefi, dinasoedd ac awdurdodau lleol.

Hoffwn longyfarch a diolch i'r miloedd o gefnogwyr brwd Masnach Deg ledled Cymru sydd, trwy eu hymdrechion, wedi sicrhau bod Cymru'n Genedl Masnach Deg, ac sy'n dal i addysgu a chodi ymwybyddiaeth, yn enwedig yn ystod Pythefnos Masnach Deg. Gyda'n gilydd, rydym yn helpu i fynd i'r afael â thlodi byd-eang trwy fasnach, trwy dalu pris teg a thrwy hybu datblygiad yng nghymunedau rhai o'r ffermwyr a'r cynhyrchwyr tlotaf yn y byd.