Skip to content

Ysgrifenedig - Proposed Waste (Wales) Measure 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Yr wyf wrth fy modd o gyflwyno Mesur Arfaethedig Gwastraff (Cymru) 2010 i’w ystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Bydd Aelodau’n ymwybodol imi gyflwyno’r Mesur Arfaethedig Gwastraff (Cymru) ddoe ynghyd â’r memorandwm esboniadol ac imi ddosbarthu datganiad ysgrifenedig gan y Cabinet. Dyma’r Mesur arfaethedig cyntaf i’w gyflwyno gan ddefnyddio’r cymhwysedd deddfwriaethol sydd wedi’i roi i’r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Amgylchedd) 2010, a wnaed gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 10 Chwefror.

 

Mae strategaeth newydd Llywodraeth y Cynulliad ar wastraff, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, a fu’n destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar, yn darparu’r cyd-destun polisi cyffredinol ar gyfer yr amryfal ddarpariaethau yn y Mesur arfaethedig. Mae’r strategaeth yn gosod nod tymor hir y bydd Cymru’n wlad ailgylchu mawr erbyn 2025 ac yn wlad ddiwastraff erbyn 2050. Bydd y darpariaethau yn y Mesur arfaethedig yn helpu cynnal datblygiad arferion rheoli gwastraff mwy cynaliadwy, yn unol ag uchelgeisiau’r strategaeth. Gall mabwysiadu arferion rheoli gwastraff mwy cynaliadwy chwarae rhan bwysig i leihau olion troed ecolegol a charbon Cymru, yn unol â chynllun datblygu cynaliadwy Llywodraeth y Cynulliad. Os ydym am gyrraedd nod y cynllun o sicrhau mai dim ond ei chyfran deg o adnoddau y bydd Cymru, o fewn cenhedlaeth, yn ei defnyddio, mae angen trefniadau rheoli gwastraff a fydd yn ein galluogi i fyw o fewn ein modd amgylcheddol ac a fydd yn llai gwastraffus o’n hadnoddau materol meidrol.

 

Mae’n bwysig pwysleisio hefyd y bydd newid y ffordd yr ymdriniwn â gwastraff yn arwain hefyd at gyfleon sylweddol i arbed arian yn ogystal â chreu swyddi o ansawdd uchel yn y sector diwydiant amgylcheddol, yn unol â strategaeth swyddi gwyrdd Llywodraeth y Cynulliad, drwy ddefnyddio’r adnoddau materol gwerthfawr a geir mewn gwastraff. Bydd y Mesur arfaethedig yn ein helpu i gyflawni rhwymedigaethau’r Comisiwn Ewropeaidd a gofynion deddfwriaethol allweddol eraill, gan gynnwys y gyfarwyddeb fframwaith gwastraff a’r gyfarwyddeb tirlenwi. Yn fyr, bydd y Mesur arfaethedig yn helpu sicrhau rheolaeth fwy effeithiol a chynaliadwy ar ein hadnoddau ac yn gwella ansawdd amgylcheddol lleol. Mae’n ymdrin â phedwar prif faes polisi, y rhoddaf ddisgrifiaf byr o bob un yn awr.

 

Mae a wnelo maes cyntaf y Mesur arfaethedig â bagiau siopa untro. Amcangyfrifir y defnyddir rhyw 480 miliwn o fagiau plastig yng Nghymru bob blwyddyn, a’u bod yn cymryd rhwng 500 a mil o flynyddoedd i ddiraddio. Nod y bwriad i godi tâl am fagiau siopa untro, a gyflwynir trwy ddefnyddio pwerau a geir yn Neddf Newid Hinsawdd 2008, yw lleihau’r nifer sylweddol honno o fagiau a gwneud rhywbeth am eu heffaith amgylcheddol. I gyd-fynd â hynny, yr wyf eisoes wedi hysbysu Aelodau’r Cynulliad, fel rhan o ddatganiad ym mis Tachwedd 2009, am fy mwriad i weithio gyda manwerthwyr i ddatblygu cytundeb gwirfoddol ar ddefnyddio’r derbyniadau net o’r tâl a godir. Mae’r Mesur arfaethedig yn darparu pŵer i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau’n mynnu bod manwerthwyr yn rhoi’r elw net o’r refeniw a geir o werthu bagiau siopa untro at ddibenion amgylcheddol penodol neu i gyrff penodol, y byddai angen iddynt hwythau ddefnyddio elw net y tâl at ddibenion amgylcheddol penodol. Dim ond os na cheir canlyniadau boddhaol yn sgîl cytundebau gwirfoddol â manwerthwyr y defnyddir y pŵer a geir yn y Mesur arfaethedig.

 

Mae a wnelo’r ail faes â gosod targedau gwastraff. Mae’r Mesur arfaethedig yn sefydlu targedau statudol ar gyfer y ganran o wastraff trefol awdurdod lleol sydd i’w ailgylchu, ei baratoi i’w ailddefnyddio, a’i gompostio. Mae’r targedau gwastraff yn cyrraedd targed penllanw o 70 y cant erbyn 2024-25. Dyna’r cyfeiriad y mae angen inni fynd iddo os am drawsnewid ein dull o reoli gwastraff yn unol ag uchelgeisiau ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’. Mae’r Mesur arfaethedig yn rhoi’r pŵer hefyd i Weinidogion Cymru sefydlu targedau gwastraff eraill i’w cyrraedd gan awdurdodau lleol, a sefydlu cosbau ariannol y gellid eu rhoi i awdurdodau lleol pe methent â chyrraedd y targedau a bennid dan y Mesur arfaethedig.

 

Bydd trydydd faes y Mesur arfaethedig yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wahardd neu gyfyngu ar roi mathau penodol o wastraff mewn safleoedd tirlenwi yng Nghymru. Tirlenwi yw’r dewis amgylcheddol gwaethaf ar gyfer delio â gwastraff. Mae’r ddarpariaeth honno’n arf arall i sicrhau y mabwysiadwn arferion mwyfwy cynaliadwy ar gyfer rheoli ein gwastraff, eto’n unol â ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’. Bydd Llywodraeth y Cynulliad ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig cyn hir yn cynnal cyd-ymgynghoriad ar y dewisiadau ynghylch gwaharddiadau neu gyfyngiadau posibl ar dirlenwi. Ystyrir y cynigion manwl ar gyfer unrhyw waharddiad neu gyfyngiad o’r fath yng ngoleuni canlyniadau’r ymgynghori hwnnw. Bydd y pŵer a geir yn y Mesur arfaethedig, felly, yn darparu hyblygrwydd i Weinidogion Cymru benderfynu ar y ffordd orau ymlaen.

 

Yn olaf, mae’r Mesur Arfaethedig Gwastraff (Cymru) yn rhoi’r pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cynlluniau ffioedd a chodi tâl mewn perthynas â chynlluniau rheoli gwastraff safle i’r sector adeiladu a dymchwel yng Nghymru. Gallai cyflwyno cynllun ffioedd a chodi tâl helpu gwneud cynlluniau rheoli gwastraff safle yn effeithiol drwy sicrhau bod gan yr awdurdod gorfodi perthnasol adnoddau priodol i fonitro a gorfodi’r cynlluniau. Mae’r Mesur arfaethedig yn ailddatgan hefyd bwerau presennol Gweinidogion Cymru dan adran 54 Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 i wneud rheoliadau’n mynnu cynlluniau rheoli gwastraff safle.

 

Bydd y meysydd polisi a geir yn y Mesur arfaethedig yn gymorth inni symud tuag at y nod tymor hir o fod yn genedl ddiwastraff drwy fabwysiadu arferion rheoli gwastraff mwy cynaliadwy. Cymeradwyaf y Mesur arfaethedig hwn i Aelodau ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi drwy broses graffu deddfwriaethol y Cynulliad.