Skip to content

Ysgrifenedig - Cyfarfod â Chomisiynydd Hahn, y Comisiynydd Ewropeaidd dros Faterion Rhanbarthol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, y Brif Weinidog

Ar 22 Chwefror cefais gyfarfod ym Mrwsel â Chomisiynydd Hahn, y Comisiynydd Ewropeaidd newydd dros Faterion Rhanbarthol, y cadarnhawyd ei benodiad gan senedd Ewrop ar 9 Chwefror. Deallaf mai fi yw’r gweinidog cyntaf o’r Deyrnas Unedig i gyfarfod â’r Comisiynydd.

 

Fe wnaethom drafod rhaglen gyfredol y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru, gan archwilio’r ffiniau ar gyfer y ddadl sy’n datblygu ynghylch Cyllideb yr Undeb Ewropeaidd a ffurf posibl y polisi cydlyniant ar ôl 2013.

 

Esboniais fod y Cronfeydd Strwythurol, drwy Gydgyfeirio a Chystadleurwydd, wedi’u llunio fel rhan bwysig o’n strategaeth datblygu economaidd ac y bydd offerynnau polisi cydlyniant yn parhau i fod yn bwysig inni pan ddaw’r cylch cyfredol i ben ar ôl 2013. Nododd y Comisiynydd ei fod ar hyn o bryd yn archwilio’r opsiynau cyn y cynhelir y ddadl ar gyllideb yr UE. Cytunwyd y bydd yn bwysig sicrhau hyblygrwydd o ran strwythurau’r rhaglenni i helpu i fodloni heriau’r dyfodol.

 

Ar ddiwedd ein cyfarfod, estynais wahoddiad i’r Comisiynydd ymweld â Chymru fel y gall weld rai o brosiectau’r Gronfa Strwythurol sydd wedi helpu ein heconomi. Wrth inni baratoi ar gyfer polisi cydlyniant ar ôl 2013, mae hefyd yn bwysig ein bod yn cynnal dadl lawn ac agored ymysg partneriaid ledled Cymru, ac â’r Comisiwn Ewropeaidd, ynghylch y ffyrdd gorau i lunio polisi yn y dyfodol.