Skip to content

Ysgrifenedig - Cyngor Sir Ynys Môn

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Ddoe, anerchais gyfarfod anghyffredin a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn.  Gerbron yr Aelodau, amlinellais ystod o gamau y mae angen eu cymryd er mwyn fy argyhoeddi eu bod o ddifrif ynglŷn ag ymdrin â’r problemau a nodwyd yn Arolygiad Llywodraethu Corfforaethol hynod feirniadol Swyddfa Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd fis Gorffennaf diwethaf.

 

Yn ystod y pum mis diwethaf mae’r Bwrdd Adfer wedi bod yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth i ategu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.  Gan ddefnyddio’r dystiolaeth honno, mae adroddiad diweddaraf y Bwrdd wedi cynnig cyfres o argymhellion imi.  Mae’r rhain yn amlinellu’r camau y mae angen eu cymryd, ym marn y Bwrdd, i yrru’r broses adfer yn ei blaen.   Nid oes mwy o amser i ddadansoddi.  Rwy’n disgwyl i’r Cyngor weithredu, ac roedd fy anerchiad i’r Cyngor yn nodi’n glir yr hyn rwy’n ei ddisgwyl – a’r amserlen ar gyfer ei gyflawni. 

 

Fe wnes i gydnabod bod y Cyngor wedi gwella rhywfaint, er enghraifft, drwy’r arfer newydd o gynnal cyfarfodydd rhwng arweinwyr grwpiau er mwyn rheoli busnes y cyngor ac i ystyried ymddygiad aelodau.  Er hynny, dechrau’r broses yn unig yw hwn, ac mae angen gwneud llawer mwy.  Rwy’n disgwyl i’r Cyngor weithredu.

 

Rhaid i’r Cyngor ganolbwyntio ar yr hyn y mae’r ynys a’i phobl wir ei angen.  Yn hytrach na thrafodaethau sy’n canolbwyntio ar wrthdaro a chystadlu ar lefel bersonol a phlwyfol, rhaid dechrau canolbwyntio ar flaenoriaethau strategol yr ynys ar adeg o her a chaledi economaidd.  Trwy beidio â gwneud hynny, mae’n bradychu dinasyddion a chymunedau Ynys Môn.  Maent yn disgwyl ac yn haeddu i gamau gael eu cymryd ac i’r Cyngor arwain, nid mân gweryla ymysg ei gilydd. 

 

Rwyf wedi nodi’n eglur beth sy’n rhaid i’r Cyngor ei wneud i ddangos ei fod yn fodlon cymryd y camau angenrheidiol a’i fod yn barod i wneud hynny.  Yn gyntaf, rhaid mynd i’r afael â’r camymddwyn parhaus gan nifer cyfyngedig o aelodau.  Rhaid ymdrin ag unrhyw un sy’n atal y Cyngor rhag gwella ei berfformiad.  Rhaid i bobl sydd ag awdurdod, fel arweinwyr grwpiau’r Cyngor, gymryd camau priodol, ac rwy’n falch o nodi bod rhai wedi gwneud hynny eisoes.

      

Mae’n hanfodol sicrhau bod yr aelodau’n ymddwyn yn briodol, ac mae’r Pwyllgor Safonau yn allweddol yn hyn o beth.  Rwy’n cydnabod bod gwaith yr aelodau presennol yn anodd a bod angen canmol eu hymrwymiad i wasanaethu’r cyhoedd.  Ond, o droi at y mater o dan sylw, rwyf am weld y pwyllgor yn newid er gwell cyn gynted â phosibl.  Rhaid rhoi cylch gwaith eglur iawn iddo fynd i’r afael ag ymddygiad gwael ac i fynd ati’n rhagweithiol i wella safonau, yn ogystal â chyfarfod yn amlach.  Yn ogystal â hynny, i ddangos eu bod yn gallu rheoleiddio eu hymddygiad eu hunain, rhaid i’r cynghorwyr wasanaethu fel aelodau o’r pwyllgor o ddechrau’r flwyddyn ddinesig nesaf.  Mae’n hanfodol iddynt ddangos eu bod yn gallu cynnal safonau, fel sy’n arferol ym mhob awdurdod lleol arall yng Nghymru. 

 

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn darparu gwasanaethau o ansawdd da i ddinasyddion, a bod y rheini’n cael eu gwella’n barhaus, mae galw am swyddogaeth graffu effeithiol.  Mae dirfawr angen ail-archwilio systemau trosolwg a chraffu Cyngor Sir Ynys Môn am eu bod yn ddiffygiol iawn ar hyn o bryd.  Cyfarfu’r tri phwyllgor presennol lai na chyfanswm o ugain gwaith y llynedd.   Mae hyn lawer yn llai na’r disgwyl, ac yn wahanol iawn i’r hyn sy’n arferol mewn awdurdodau eraill yng Nghymru.  A phan fydd y pwyllgorau’n cyfarfod, maent yn canolbwyntio’n ormodol ar faterion mewnol yn hytrach nag ar roi prawf ar ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.  Felly, erbyn dechrau’r flwyddyn ddinesig nesaf, rwy’n disgwyl i’r Cyngor fod wedi newid ei system graffu yn sylweddol.  Dylai hynny gynyddu ei gapasiti a rhoi’r cyfrifoldeb i aelodau anweithredol graffu ar ei bolisïau a’i wasanaethau’n llawn.

 

Rwyf hefyd am weld swydd Cadeirydd y Cyngor yn cael ei dadwleidyddoli, fel sy’n digwydd mewn cynghorau eraill. Rhaid ildio swydd Cadeirydd y Prif Bwyllgor Craffu i’r Wrthblaid, yn ogystal â swydd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio.  Rhaid gwneud pob penodiad mewnol ac allanol arall mewn ffordd sy’n adlewyrchu holl grwpiau’r Cyngor.

 

Rwyf wedi gofyn i’r Bwrdd Adfer fonitro’n agos unrhyw ddatblygiadau yn y meysydd hyn dros y misoedd nesaf, ac rwy’n disgwyl gweld gwelliant amlwg a chyflym.  Nid wyf am ymyrryd ym musnes unrhyw gyngor a ddylai fod yn ddigon galluog i’w reoli ei hun.  Nid wyf ychwaith am roi cyfarwyddiadau llymach na manylach ond, os dyna fydd ei angen i sicrhau gwelliant cyflymach a mwy cynaliadwy, fe wnaf hynny. 

 

Mae Ynys Môn yn wynebu problemau enbyd.  Ond mae modd i’r Cyngor drawsnewid ei hun er mwyn ymdrin yn well ag anghenion yr ynys a’i phobl.  Byddaf i a’m Bwrdd Adfer yn parhau i gefnogi’r broses hon ym mhob ffordd bosibl.