Skip to content

Ysgrifenedig - Setliad Grant Trafnidiaeth 2010-11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr wyf yn cyhoeddi fy mhenderfyniad am ddyrannu cyllid Grant Trafnidiaeth i awdurdodau lleol yn 2010-11 am 11.00 o’r gloch heddiw.

Eleni, mae’n bleser gennyf gyhoeddi cyfanswm cyllid Grant Trafnidiaeth o £55.389 miliwn, sy’n cyd-fynd â chyllidebau cytunedig Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Grant Trafnidiaeth (GT) yn fecanwaith a ddefnyddir gennym i fuddsoddi arian cyfalaf gydag Awdurdodau Lleol i wella seilwaith trafnidiaeth Cymru ac i hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy. Gofynnir i aelodau nodi hefyd bod cyhoeddiad eleni’n adlewyrchu’r broses barhaus o bontio o fecanwaith cyllido’r GT, wrth i’r rhaglen bresennol ddod i ben, tuag at y trefniadau cyllido newydd fel rhan o’r Cynllun(iau) Trafnidiaeth Cenedlaethol a Rhanbarthol.   Gyda’i gilydd, bydd y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cyflenwi blaenoriaethau strategol Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.  Edrychaf ymlaen at rannu mwy o fanylion am fy nghynigion ar gyfer ariannu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol cyn bo hir.    

Ffyrdd

Mae’r rhaglen GT bellach yn cynrychioli elfennau olaf y rhaglen wreiddiol, sy’n cynnwys cynlluniau ffyrdd. Mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u hagor i draffig ac wedi’u cwblhau.  Yn ystod 2009, cafodd Ffordd Liniaru’r A469, a elwir yn lleol yn “Angel Way”, sy’n ffurfio rhan o’r pecyn integredig o fesurau sy’n cyfuno i ffurfio Cynllun Adfywio Cymunedol Bargoed Fwyaf, a Ffordd Osgoi Llandysul, sy’n rhan o gynllun Ffyrdd Cyswllt Ceredigion, eu hagor i draffig.

Mae’n bwysig bod cynlluniau’n cael eu cyflawni a’u cwblhau er mwyn cynorthwyo ein hamcanion strategol ehangach o adfywio economaidd drwy ysgogi’r economi leol.  Fodd bynnag, rhaid gwneud yr ymrwymiad i ariannu cynlluniau lle nad yw’r gwaith adeiladu wedi dechrau eto yng nghyd-destun fforddiadwyedd, ac nid oes effaith ormodol ar gyllidebau’r dyfodol.  Yr ydym yn gweithio gyda’r awdurdodau dan sylw i wneud y mwyaf o bosibiliadau cyllido amgen i ychwanegu at y buddsoddiad sylweddol yr ydym eisoes yn ei wneud yn y cynlluniau dan sylw, ac i sicrhau y canfyddir y datrysiadau sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian.

Yr wyf yn darparu £46 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â gwella rhwydweithiau ffyrdd lleol yng Nghymru.  Yr wyf hefyd yn darparu £0.900 miliwn i awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â chynlluniau Grant Prif Ffyrdd.    

Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

Yr wyf yn darparu £8.5 miliwn ychwanegol i fwrw ymlaen â’r fenter Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.  Mae’r fenter hon bellach yn ei thrydedd flwyddyn, ac mae’r dyraniadau a roddaf heddiw’n helpu i adeiladu ar ei llwyddiant ac ar lwyddiant ei rhagflaenydd, y fenter Llwybrau Diogel i’r Ysgol. Mae’r cynlluniau a gyflenwyd hyd yn hyn wedi helpu i wella hygyrchedd mewn cymunedau lleol a gwella diogelwch ar y ffyrdd.

Bydd y setliad a gyhoeddir gennyf heddiw’n galluogi awdurdodau lleol i fwrw ymlaen ag ystod eang o brosiectau a’u cwblhau i raddau helaeth. Bydd hefyd yn helpu i symud ymlaen â’n hymrwymiadau “Cymru’n Un” o ran trafnidiaeth gynaliadwy.

Atodir copi o’r dyraniadau i awdurdodau unigol er gwybodaeth i chi.