Skip to content

Llafar - Gymunedau yn Gyntaf

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Yn y misoedd diweddar, mae gwasanaeth archwilio mewnol Llywodraeth y Cynulliad, ar y cyd â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi cynnal ymchwiliad manwl i faterion partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc yn Ne Clwyd, ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Mae’r gwaith hwnnw bellach wedi’i gwblhau, ac yr wyf wedi cael fy mriffio am y canfyddiadau. Cyhoeddir yr adroddiad gan Lywodraeth y Cynulliad a Swyddfa Archwilio Cymru o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf, yn unol â threfniadau arferol ar gyfer cyhoeddi adroddiadau.

 

Yr wyf yn gwneud y datganiad hwn heddiw, cyn cyhoeddi’r adroddiad, oherwydd diddordeb y cyhoedd a dyfalu’r cyfryngau ynghylch y canfyddiadau. Yr wyf yn arbennig o awyddus i roi taw ar ddyfalu direidus a di-sail y bydd yr adroddiad hwn yn arwyddo diwedd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, sy’n chwarae rhan hanfodol i gynnal ein cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru.

 

Profiad annifyr yw darllen yr adroddiad. Mae’n nodi gwendidau difrifol a chyffredin yn rheolaeth ariannol a threfn lywodraethu partneriaeth Plas Madoc. Mae’n feirniadol o ddiffygion bwrdd y partneriaeth ac o weithredoedd afreolaidd aelodau unigol. Mae arnaf eisiau datgan yn berffaith glir fy mod yn gresynu at y gweithredoedd bwriadol a’r diffyg goruchwylio a stiwardiaeth sydd wedi arwain at arallgyfeirio arian cyhoeddus oddi wrth ddibenion cyffredinol bwriedig y rhaglen. Yr wyf yn siŵr y bydd Aelodau eraill, fel fi, yn dymuno condemnio ymddygiad y bobl sydd wedi rhoi elw personol o flaen y budd a fwriedid i bobl leol yn un o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

 

Wrth ystyried beth a aeth o’i le, mae angen gosod methiannau Plas Madoc mewn cyd-destun. Mae Plas Madoc yn un o 157 partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru. O’r cyfanswm o £47 miliwn a fuddsoddwyd yn Cymunedau yn Gyntaf yn ystod 2009-10, aeth rhyw £480,000 i Blas Madoc. Mae pryderon penodol yr archwiliad yn ymwneud â chamreolaeth ariannol cyfran fechan o’r arian a gyfeiriwyd drwy bartneriaeth Plas Madoc i’r cronfeydd hynny a fyddai ar gael i’w gwario yn ôl disgresiwn lleol ac i ddibenion rheolaeth fewnol. Nid oes dim awgrym fod y rhan fwyaf o’r cyllid a ddarparwyd wedi’i ddefnyddio i ddibenion gwahanol i’r hyn a fwriadwyd, ac mae ystod eang o wasanaethau pwysig wedi’u cyflenwi i’r gymuned leol gan gynnwys cefnogaeth i blant a phobl ifanc lleol, yn arbennig. Yn gyffredinol, darparwyd y gwasanaethau hyn i safon uchel ac fe’u gwerthfawrogir gan y gymuned. Yr wyf yn awyddus i gadw’r gwasanaethau gwerthfawr hynny a gyflenwir yno, a gwnaf ddatganiad pellach ar ddyfodol y gwasanaethau hynny pan gyhoeddir yr adroddiad.

 

Mae’r ardystio ffurfiol drwy archwiliad annibynnol sy’n ofynnol ar gyfer rhyddhau cyllid Llywodraeth y Cynulliad wedi’i ddarparu’n foddhaol ar gyfer pob un o’r tair blynedd y mae partneriaeth Plas Madoc wedi derbyn grant uniongyrchol. Yn unol â’r arfer, mae hynny wedi ysgogi parhau i dalu grantiau cymeradwy i’r bartneriaeth.

 

Mae arnaf eisiau rhoi sicrwydd i holl bartneriaethau eraill rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Awgrymwyd y gellir cyffredinoli methiannau partneriaeth Plas Madoc ar draws rhaglen ehangach Cymunedau yn Gyntaf. Nid yw’r awgrymiadau hynny wedi’u gwneud ar sail unrhyw dystiolaeth y gwn i amdani. Yn wir, yr wyf yn siŵr y bydd partneriaethau eraill yn awyddus iawn i ymbellhau oddi wrth yr ymddygiadau a welwyd ym Mhlas Madoc. Gallaf sicrhau pobl sy’n gweithio’n wirioneddol er budd cymunedau difreintiedig yng Nghymru fod ganddynt fy nghefnogaeth. Fodd bynnag, er y dymunaf weld buddsoddiad yn rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn parhau, bydd arnaf eisiau sicrwydd ychwanegol penodol gan bartneriaethau bod eu rheolaeth ariannol a’u trefniadau llywodraethu’n gadarn cyn rhwymo cyllid sylweddol pellach iddynt. Mae fy adran eisoes wedi dechrau’r broses o sicrhau sicrwydd ychwanegol drwy sefydlu mesurau gwirio manwl ar reolaeth ariannol a threfniadau llywodraethu ym mhob partneriaeth.

 

Mae’r camau yr wyf yn eu cyhoeddi yn ymateb cymesur i’r niwed i enw da’r rhaglen a achoswyd gan y methiannau ym Mhlas Madoc. Disgwyliaf y bydd y mwyafrif helaeth o bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf a’r cyrff sy’n derbyn grantiau yn eu sgîl yn gallu fy modloni yn hyn o beth, ac y bydd arnynt eisiau gwneud hynny’n brydlon.

 

Bydd Aelodau’n ymwybodol o adolygiadau ac adroddiadau eraill ynglŷn â Chymunedau yn Gyntaf. Dechreuwyd adolygiad o gadernid fframwaith llywodraethu’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yr hydref diwethaf. O ganlyniad, yr wyf wedi gofyn i’m swyddogion wneud rhaglen o arolygon archwilio manwl a brys ar bartneriaethau. Mae arnaf eisiau bod yn sicr na ellir caniatáu i’r methiannau ym Mhlas Madoc ddigwydd eto. Felly, cymeraf ddiddordeb agos yn y gwaith hwn a gwnaf ddatganiad pellach i’r Cynulliad pan fydd wedi’i orffen.

 

Yn ogystal ag archwilio partneriaethau, yr ydym yn gweithredu cyfres bellach o gamau gweithredu i gryfhau rheolaeth ariannol a threfniadau llywodraethu, gan ymateb i fethiannau fel y rhai a welwyd ym Mhlas Madoc. Mae camau mewn llaw eisoes i brofi a rhoi sicrwydd ynglŷn â threfniadau sydd yn bodoli ar draws y rhaglen. Yr wyf yn ysgrifennu at gadeiryddion byrddau partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf, gan dynnu eu sylw at adroddiad Plas Madoc ac ailadrodd pwysigrwydd glynu at y safonau ymddygiad uchel a ddisgwyliaf mewn bywyd cyhoeddus. Bydd fy adran yn dilyn hynny â chanllawiau ffurfiol i sicrhau na all fod unrhyw gwestiwn nad yw pwysigrwydd glynu at y safonau hyn, egwyddorion Nolan, wedi’i ddeall gan bawb sy’n ymwneud â chyflenwi a chynnal rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Hysbysaf y Cynulliad pan fydd y gwaith archwilio pellach hwnnw ar bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf eraill wedi’i gwblhau.

 

Bydd Aelodau’n cofio hefyd y cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad yn ddiweddar ar Gymunedau yn Gyntaf, a bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymateb i hwnnw cyn bo hir. Deliodd yr adroddiad hwnnw nid â chwestiynau manwl rheolaeth a phriodoldeb o fewn partneriaethau, ond ag effaith y rhaglen o ran sicrhau canlyniadau gwell i bobl a chymunedau. Nac anghofiwn fod Cymunedau yn Gyntaf, ar draws Cymru, yn cyflawni pethau i bobl leol, gan ddarparu gwasanaethau gwerthfawr fel gofal plant, gweithgaredd ieuenctid, help i mewn i waith, a llawer mwy i bobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Bydd llawer ohonoch yn gwybod hynny’n iawn ac yn gwerthfawrogi’r gwaith hwnnw yn eich ardaloedd eich hunain.

 

Mae’r camau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw’n darparu ymateb cymesur i’r methiannau a nodwyd ym mhartneriaeth Plas Madoc a byddant yn sicrhau ac yn cryfhau rheolaeth ariannol a threfniadau llywodraethu da ar draws rhaglen ehangach Cymunedau yn Gyntaf. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau’n gwbl ymroddedig i sicrhau y cefnogir y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac yn gwbl ymroddedig i wella canlyniadau i’r bobl sy’n byw yno. Ni chaf fy ngwyro oddi wrth y nod hwnnw gan fethiannau ychydig o unigolion neu bartneriaeth sy’n pardduo enw da eraill drwy ei gweithredoedd gresynus.