Skip to content

Ysgrifenedig - Cyllid ar gyfer Ardal Adfywio Strategol Aberystwyth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio

Rwyf heddiw’n cyhoeddi cyllid gwerth £1.5 miliwn ar gyfer blwyddyn gyntaf rhaglen a fydd yn darparu cyfanswm o hyd at £10.3 miliwn dros y 3 blynedd nesaf ar gyfer Ardal Adfywio Strategol Aberystwyth.   

 

Mae ardal Aberystwyth wedi’i dynodi’n ardal blaenoriaeth ar gyfer ymyrraeth benodol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i phartneriaid. Dyma gyfle pwysig i’r Canolbarth elwa ar ddulliau adfywio mwy strategol. 

 

Byddwn yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion a phartneriaid eraill i ddatblygu cynllun gweithredu cwbl integredig a holistaidd ar gyfer y dref, ac yn trefnu cyfarfod cyntaf Bwrdd Partneriaeth Ardal Adfywio Strategol Aberystwyth. 

 

Bydd Cynllun Gweithredu’r Ardal Adfywio Strategol yn ymdrin â nifer o faterion allweddol. Bydd yn adlewyrchu’r prif anghenion a chyfleoedd o ran adfywio yn yr ardal.  Bydd y rhaglen adfywio yn canolbwyntio ar bum maes, a fydd yn destun ymgynghori â’r rhanddeiliaid allweddol. Mae’r themâu allweddol yn cynnwys:

Y dref, glan y môr a’r promenâd;
Tai;
Ymgyrch i greu swyddi a hybu busnesau;
Anweithgarwch economaidd;
Teithio cynaliadwy.

Y bwriad yw ychwanegu gwerth at yr amrywiaeth o weithgareddau sy’n digwydd yn y dref ei hun a’i chyffiniau, a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n codi yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.