Skip to content

Ysgrifenedig - Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Rwy’n dymuno rhoi gwybod ichi ein bod wedi sefydlu Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi i Gymru, a’i fod yn cyfarfod am y tro cyntaf heddiw.

 

Cafwyd hysbysiad ymlaen llaw o’n bwriad i sefydlu’r Bwrdd yn natganiad polisi Canlyniadau Gwell ar gyfer Cyfnod Anoddach, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad fis Rhagfyr diwethaf.  Mae’n rhan allweddol o’n hymateb i’r heriau ariannol a’r heriau gwasanaethu y mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Rhaid inni gyflymu’r newidiadau sydd ar y gweill ledled y gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i’n dinasyddion a’n cymunedau, sef yr hyn rydym i gyd am ei weld. 

 

Mae’r Bwrdd, yr wyf i’n gadeirydd arno, yn tynnu arweinwyr ynghyd o blith ein partneriaid cymdeithasol, llywodraeth leol, y GIG a gwasanaeth sifil Llywodraeth y Cynulliad.  Bydd yn gyfrifol am oruchwylio’r Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi genedlaethol ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus.

 

Diben y Rhaglen yw gwella effeithlonrwydd ein dulliau gweithredu, ysgogi arloesedd yn y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a’u cyflenwi, a hyrwyddo cydweithio. Bydd yn canolbwyntio ar gymryd camau lle mae angen sicrhau rhagor o gydweithredu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Bydd hefyd yn adeiladu ar y gwelliannau a gafwyd eisoes, ac yn ategu’r newidiadau y mae fy nghyd-Weinidogion yn eu rhoi ar waith yn eu portffolios hwy.

 

Mae’r Rhaglen yn cynnwys meysydd fel caffael a chomisiynu, rheoli asedau, TGCh, trawsnewid busnes, modelau newydd o ddarparu gwasanaethau, datblygu’r gweithlu, ac arweiniad.  Byddwn yn ymestyn y Rhaglen yn ôl yr angen.

 

Rhan hanfodol o’n dull gweithredu fydd yr angen i gynnwys y gweithlu ac i seilio’r newidiadau ar anghenion y bobl. Rhaid i effeithlonrwydd ac ansawdd y gwasanaethau atgyfnerthu ei gilydd.    

 

Bydd y Rhaglen yn eiddo ar y cyd i’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a chafodd groeso cynnes yn ystod yr Uwchgynhadledd Gwasanaethau Cyhoeddus a alwyd gan Brif Weinidog Cymru fis diwethaf. Bydd y Rhaglen yn sianelu profiad a chapasiti o bob rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus, ac rwy’n ddiolchgar i bawb sy’n cymryd rhan ac a fydd yn cymryd rhan yn y dyfodol.

 

Rwy’n trefnu bod y Gronfa Buddsoddi i Arbed yn cyd-fynd â’r Rhaglen hon.  Yn ystod cyfarfod y Bwrdd, cyhoeddais fuddsoddiad gwerth £2.2 miliwn ar gyfer pedwar prosiect o dan ail gylch cyllido’r Gronfa.  Bydd hyn yn darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell ac yn arwain at arbedion effeithlonrwydd. Erbyn hyn, mae cyfanswm o 29 o brosiectau yn derbyn cymorth gan y Gronfa.