Skip to content

Ysgrifenedig - Cyllid ar gyfer Dysgwyr ag Anghenion Ychwanegol mewn Dosbarthiadau Chwech ac Addysg Bellach

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

  

Hoffwn gyhoeddi'r ffordd ymlaen ar gyfer cyllido dysgwyr ôl-16 mewn ysgolion arbennig ac addysg bellach.

 

Mae darparwyr wedi'i gwneud yn glir eu bod nhw'n ei chael yn anodd byw o fewn cyllideb y Cynulliad. Rwyf felly wedi cymryd camau i gynyddu dyraniadau fel a ganlyn.

 

Y dyraniad terfynol ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn ysgolion arbennig a lleoliadau y tu allan i'r sir ar gyfer 2009-10 yw £20.2m. Mae hynny gyfwerth â chyllido'n llawn amcangyfrifon terfynol awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn hon. Ar gyfer 2010-11, rwyf wedi gwneud dyraniad cychwynnol o £20.49m. Mae hynny gyfwerth ag 85% o amcangyfrifon cychwynnol awdurdodau lleol, 16% o gynnydd ar y 69% a gyhoeddwyd yn wreiddiol.

 

Mae'r dyraniadau hyn yn golygu bod y gyllideb ar gyfer ysgolion arbennig ôl-16 a lleoliadau y tu allan i'r sir wedi mwy na dyblu ers 2003. Mae'r twf hwn, wrth reswm, yn anghynaliadwy. Rwyf felly am sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ddyfeisio proses ariannu mwy ystyrlon ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n symud o addysg cyn-16 i addysg ôl-16.

 

Rwy'n awyddus iawn i weld pethau'n cael eu gwneud yn wahanol yn y dyfodol. Bydd ffrwyth gwaith y Grŵp yn gwneud y gorau o'r arbenigeddau a geir yn ysgolion arbennig a cholegau Cymru ac yn defnyddio cyfleusterau y tu allan i'r sir/wlad ac opsiynau ar gyfer cryfhau'r ddarpariaeth yng Nghymru gyda golwg ar ddarparu gwasanaeth gwell am lai.  Byddaf yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio mwy a hefyd i arloesi yn y meysydd hyn gan fy mod am weld gwelliant arwyddocaol yn y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu i'r grŵp bregus hwn.