Skip to content

Ysgrifenedig - Lansiad “Hawl i fod yn Ddiogel”, strategaeth integredig chwe blynedd Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â phob dull o drais yn erbyn menywod.

Dolenni perthnasol

Yr Hawl i fod yn Ddiogel yw strategaeth integredig 6 blynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

  Cyhoeddais Ddatganiad gan y Cabinet ar 5 Ionawr 2010 yn nodi y byddai mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig yn un o’r prif flaenoriaethau yn ystod fy nghyfnod cynnar yn y swydd hon.

 

Rwyf yn falch i hysbysu’r Aelodau fy mod heddiw’n lansio “Hawl i fod yn Ddiogel”, sef strategaeth integredig chwe blynedd Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â phob dull o drais yn erbyn menywod. Rwyf hefyd yn cyhoeddi cynllun gweithredu tair blynedd a fydd yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r strategaeth hon a’r strategaeth cam-drin domestig bresennol. 

 

Byddaf yn trefnu bod yr holl Aelodau’n cael copïau caled o’r dogfennau cyn gynted ag y byddant ar gael.