Skip to content

Ysgrifenedig - Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, y Brif Weinidog

Yn ystod cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Domestig) ar 10 Mawrth 2010, a fynychwyd gennyf i a Dirprwy Brif Weinidog Cymru, cytunodd Llywodraeth y DU, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru a Phwyllgor Gweithredol Gogledd Iwerddon ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig a Chytundebau Atodol. 

 

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwiraeth diwygiedig, a gyhoeddwyd ddiwethaf yn 2001, yn cadarnhau’r egwyddor o gydweithio sy’n sylfaen i’r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig.  Rwyf heddiw wedi gosod testun llawn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gerbron y Cynulliad.  Mae hefyd yn cael ei gyflwyno i’r tair deddfwrfa arall. 

 

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwiraeth diwygiedig yn cynnwys y newidiadau o sylwedd canlynol:

  • Diweddaru’r derminoleg i adlewyrchu’r newidiadau cyfansoddiadol yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006;
  • Trefniadau newydd er mwyn osgoi a datrys anghydfodau;
  • Newid y concordatau a atodwyd i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sef y Concordat ar Gydlynu Polisïau Ewropeaidd, sy’n ymwneud â gweithrediadau’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Ewrop) a rôl swyddfeydd y Gweinyddiaethau Datganoledig ym Mrwsel, a’r Concordat ar Gysylltiadau Rhyngwladol, sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Gweinyddiaethau Datganoledig o ran eu goblygiadau rhyngwladol a’u perthynas â sefydliadau rhyngwladol.

Mae’r Concordat ar Ystadegau wedi cael ei dynnu o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ac wedi’i ddisodli gan ddeddfwriaeth sy’n pennu trefniadau newydd ar gyfer gwaith ystadegol ledled y DU.