Skip to content

Ysgrifenedig - Pandemig ffliw’r moch A (H1N1)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Diweddariad ar gyfer Aelodau ar y datblygiadau o ran pandemig ffliw’r moch A (H1N1) yw’r datganiad hwn.

 

Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu llawer llai o achosion newydd o’r firws yng Nghymru. Erbyn diwedd mis Mawrth roedd graddfa’r ymgynghoriadau clinigol ar gyfer afiechydon tebyg i’r ffliw fel y’u dehonglwyd gan Feddygon Teulu wedi disgyn i un achos ymhlith pob 100,000 o bobl.

 

Felly mae’r ffliw yng Nghymru ar hyn o bryd lawer yn is na’r trothwy sylfaenol sef 25 ymgynghoriad o bob 100,000 ar gyfer gweithgarwch tymhorol arferol. Mae wedi cyrraedd y lefel isaf oddi ar i’r clefyd ymddangos am y tro cyntaf.

 

Dyma’r pryd felly i fi ddatgan gymaint rwy’n gwerthfawrogi gwaith pawb sydd wedi bod â rhan yn yr ymateb yng Nghymru, yn enwedig y staff hynny yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru sydd wedi trin y cleifion a’r teuluoedd yr effeithiodd y clefyd arnynt.

 

Wrth i niferoedd yr achosion newydd ostwng mae llai o angen brechlyn yr H1N1 arnon ni. Mae Llywodraeth y D.U. wedi dod i gytundeb ar y cyd â GlaxoSmithKline (GSK) i gyfyngu ar yr archebion ar gyfer brechlyn ffliw’r moch. Bydd y setliad hwn yn arbed tua thraean gwerth yr holl archebion a roddwyd yn wreiddiol i GSK.

  

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Senedd y D.U. Dyma’r ddolen berthnasol:

 

http://www.publications.parliament.uk/pa/cm200910/cmhansrd/cm100406/wmstext/100406m0002.htm#100406m0002.htm_spmin8

 

Wnewch chi’r Aelodau nodi hefyd y bydd y Fonesig Deirdre Hine, cyn Brif Swyddog Meddygol Cymru, yn cadeirio adolygiad annibynnol ar ran y pedair gwlad a fydd yn archwilio’r ymateb a gafwyd i’r pandemig ar draws y D.U.

 

Comisiynwyd ar adolygiad gan bob un o bedair gweinyddiaeth y D.U. a bydd y Fonesig Deirdre’n adrodd ac yn cynnig argymhellion i Weinidogion y D.U. erbyn Mehefin 2010.  Mae’r adolygiad yn cael ei gynnal yn rhan o’r weithdrefn arferol fydd yn dilyn digwyddiadau difrifol ym maes iechyd. Bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i wella unrhyw gynllunio a geir yn y dyfodol ar gyfer pandemig ac er mwyn sicrhau bod y cynlluniau cenedlaethol yn parhau i fod yn rhai cadarn.    

Members will wish to be aware that on behalf of the four nations, Dame Deirdre Hine, the former Chief Medical Officer for Wales, will chair an independent review to examine the pandemic response across the UK.

 

The review has been jointly commissioned by all four UK administrations and Dame Deirdre will report to UK Ministers with recommendations by June 2010. This review is being conducted as part of the normal procedure following a serious health event. The findings will be used to inform any future planning for pandemics and help ensure that the national plans remain robust.