Skip to content

Ysgrifenedig - Yr Ymchwiliad Annibynnol i’r Gofal a ddarperir gan Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ar 24 Chwefror 2010, cyhoeddodd yr Adran Iechyd yr Adroddiad ar yr Ymchwiliad Annibynnol i’r gofal a ddarperir yn Ymddiriedolaeth GIG Canol Swydd Stafford. Cawsom i gyd ein syfrdanu a’n tristáu o glywed am y diffygion difrifol a oedd wedi effeithio ar fywydau cynifer o bobl a’u teuluoedd. Nid dyna a ddisgwyliwn gan ein gwasanaethau iechyd. Mae gan bob claf hawl i gael ei drin yn ddiogel ac â pharch, pryd bynnag a ble bynnag y bydd yn derbyn ei ofal iechyd.

 

Mae’r Adroddiad yn cyflwyno darlun o gorff a oedd yn canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar arbed arian a bodloni targedau, a hynny i bob golwg ar draul popeth arall. Pwysleisiodd Robert Francis QC, Cadeirydd yr Ymchwiliad, mai’r wers bwysicaf i’w dysgu yw ‘…fod yn rhaid i bobl ddod cyn ffigurau bob tro…’ – ac mai’r profiadau unigol y tu ôl i’r ystadegau, y meincnodau a’r cynlluniau gweithredu sydd bwysicaf.

 

Dyma’r Materion a nodwyd yn yr Adroddiad:

  • Profiad y Claf – gan gynnwys diffyg preifatrwydd ac urddas, agweddau’r staff, diogelwch, hylendid personol, maeth a hylif, glanweithdra a rheoli heintiau, oedi cyn gwneud diagnosis a rhoi triniaeth, cyfathrebu gwael a rheoli rhyddhau cleifion;
  • Diwylliant yr Ymddiriedolaeth – nid oedd yn arwain at ofal da nac yn sicrhau amgylchedd gwaith cynhaliol ar gyfer y staff;
  • Materion Staffio – dim digon o staff a newidiadau cyson ymhlith y rheolwyr;
  • Llywodraethu Gwael – yr Archwiliad Clinigol wedi’i ddatblygu’n wael a’r systemau hysbysu am ddigwyddiadau yn wan. Roedd y broses o ymchwilio i gwynion yn cael ei rheoli’n wael a rhoddid blaenoriaeth isel i arfarniadau a Datblygiad Proffesiynol Parhaus y staff;
  • Materion Pwysig yn cael eu Rheoli’n Wael – gan gynnwys diffyg asesiadau risg yn ymwneud ag ad-drefnu wardiau, y pwysau ariannol yn dylanwadu ar safbwyntiau, a dim digon o graffu ar ostyngiadau yn y lefelau staffio;
  • Ystadegau Marwolaethau – dylai’r ystadegau marwolaethau fod wedi tynnu sylw at yr angen am ymchwiliad manwl; ac
  • Ymddygiad y Bwrdd – beirniadwyd arweinwyr y Bwrdd yn llym am ganolbwyntio gormod ar faterion strategol ac am golli golwg ar y ffaith eu bod yn gyfrifol am bob agwedd ar berfformiad ac yn anad dim am ansawdd y gofal a ddarperir ar gyfer cleifion. Nid oedd y ffordd o weithio yn ddigon agored, ac nid oedd digon o ymgysylltu, yn enwedig â’r cyhoedd.

Ceir 18 argymhelliad yn yr Adroddiad, sydd ar gael yn llawn yn:

http://www.dh.gov.uk/en/Publicationsandstatistics/Publications/PublicationsPolicyAndGuidance/DH_113018

 

Er bod yr ymchwiliad hwn yn ymwneud â gwasanaethau yn un o Ymddiriedolaethau Lloegr, mae angen i bawb ohonom ystyried yr hyn y gallwn ni ei ddysgu ohono. Rwyf eisoes wedi egluro wrth Gadeirydd pob Bwrdd ac Ymddiriedolaeth Iechyd fy mod yn disgwyl i’w Bwrdd ystyried y canfyddiadau a’r argymhellion a’u bodloni eu hunain a’u dinasyddion fod pob rhan o’u cyrff yn darparu gofal o’r ansawdd y mae gan gleifion hawl resymol i’w ddisgwyl. Mae sawl fframwaith ac offeryn ar gael i helpu cyrff i gadarnhau hyn ac i sicrhau bod ganddynt raglen i wella ansawdd yn barhaus:

 

Mae ein Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru yn amlinellu yn gyffredinol yr hyn y gall cleifion ei ddisgwyl gan y GIG yng Nghymru. Mae’r fframwaith safonau wedi bodoli er 2005 a chyn bo hir byddaf yn cyhoeddi diweddariad o’r fframwaith sy’n cydweddu’n well â’n trefniadau GIG newydd. Bydd y safonau diwygiedig hyn yn helpu i sicrhau bod pob gwasanaeth iechyd ym mhob lleoliad yn plannu ac yn defnyddio safonau. O’u defnyddio’n effeithiol ar bob lefel, bydd modd gweld yn glir beth mae gwasanaeth a chorff yn ei wneud yn dda a ble mae angen gwelliant.

 

Un o ddatblygiadau pwysig y flwyddyn ddiwethaf oedd rhoi’r Offeryn Archwilio Hanfodion Gofal ar waith ym mhob ward ym mhob ysbyty yng Nghymru. Bydd gwneud defnydd cadarn o’r offeryn hwn yn help i nodi’n gyflym y wardiau sy’n cyrraedd safonau da a’r rhai y gallai fod angen iddynt wella mewn ambell faes.

 

Mae staff GIG Cymru wedi amlygu eu hymrwymiad i wella ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir ar gyfer eu cleifion. Mae’r ymgyrch 1000 o Fywydau wedi esgor ar nifer o enghreifftiau o welliannau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, megis lleihau nifer yr wlserau pwyso, lleihau nifer yr heintiau a ddelir wrth gael gofal iechyd, a sicrhau llawdriniaeth fwy diogel. Mae Byrddau Iechyd hefyd wedi cefnogi’r ymgyrch drwy gynnal teithiau diogelwch ar draws eu cyrff; drwy wrando ar straeon cleifion yn eu cyfarfodydd a thrwy sicrhau bod diogelwch cleifion yn eitem hanfodol ar holl agendâu’r Bwrdd.

 

Mae ystadegau marwolaethau wedi’u haddasu yn ôl risg – o’r math y cyfeirir ato yn yr adroddiad – ar gael ar lefel Cymru gyfan drwy’r ymgyrch 1,000 o Fywydau, a gellir eu gweld yn: www.1000livescampaign.wales.nhs.uk

 

At hynny, mae eisoes yn bosibl i gyrff weld eu hystadegau marwolaethau eu hunain, a chaiff y rhain eu hadolygu gan Brif Weithredwr y GIG yng Nghymru drwy’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol. Yn rhan o gam nesaf yr ymgyrch 1000 o Fywydau, mae gwaith sylweddol yn cael ei gyflawni drwy’r Cyfarwyddwyr Meddygol i sicrhau bod pob corff, o Ebrill 2010, yn pennu ac yn monitro ei nodau lleol ei hun ar gyfer lleihau niwed a marwolaethau. Bydd niwed yn cael ei asesu’n rheolaidd gan ddefnyddio offerynnau i adolygu nodiadau achos cleifion a ddatblygwyd ac a dreialwyd yn ystod yr ymgyrch 1000 o Fywydau. Bydd hyn yn flaenoriaeth i holl gyrff y GIG a bydd gofyn cyflwyno adroddiadau rheolaidd ar gynnydd.

 

Rhaid i ni adeiladu ar y gwaith hwn – rhaid i’r gwelliannau a sicrhawyd eisoes gael eu cyflwyno ymhobman – mae gan gleifion hawl i ddisgwyl hynny o leiaf. Rhaid i ymgysylltiad ac arweinyddiaeth glinigol gref fod yn sylfaen i’r cwbl, megis y fenter Rhyddid i Arwain, Rhyddid i Ofalu. Mae prydlondeb yn elfen bwysig o ddarparu gofal da – er enghraifft, nid oes neb am aros ac ni ddylai neb orfod aros mwy na 4 awr mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys, ond ni ddylid byth beryglu diogelwch cleifion i wireddu hynny.

 

Mae’n bwysig fod pobl yn gallu rhoi sylwadau – cadarnhaol neu negyddol – ar wasanaethau, a rhaid i gyrff y GIG fonitro’r rhain yn ofalus, cymryd camau lle y bo’n briodol, a rhoi adborth i gleifion ar welliannau i wasanaethau. Rhaid i ni ei gwneud yn haws i bobl wneud hyn a theimlo y bydd yn gwneud gwahaniaeth. Yn rhan o’r prosiect Gweithio i Wella, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch rheoliadau drafft a fydd yn ei gwneud yn haws i gleifion godi pryderon os byddant yn anfodlon neu os aiff pethau o chwith gydag unrhyw ran o’u gofal yn y GIG. Mae’r rheoliadau hefyd yn nodi’n glir fod yn rhaid i’r corff GIG, os bydd niwed wedi’i achosi, ddweud wrth y claf neu ei deulu a’u cynnwys yn yr ymchwiliad.

 

Drwy ddefnyddio E-lawlyfr Llywodraethu’r GIG gellir dod o hyd yn rhwydd i ystod o wybodaeth ynghylch y gofynion a’r canllawiau y mae angen i gyrff eu dilyn, gan gynnwys pob agwedd ar lywodraethu clinigol, ee archwiliad clinigol. Bydd yr offeryn hwn hefyd yn darparu’r canllawiau ategol a fydd yn amlinellu’r hyn a ddisgwylir gan bob un o’r safonau ar gyfer gwasanaethau iechyd Cymru.

 

Bydd nifer o’r materion a godir yn yr adroddiad yn cael eu harchwilio’n allanol ac yn annibynnol hefyd drwy arolygiadau, adolygiadau ac ymchwiliadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC). Er bod y rhain o raid yn adlewyrchiad o wasanaethau ar adeg benodol, maent gyda’i gilydd yn creu darlun cyffredinol o ddiwylliant a dull llywodraethu cyrff y GIG, o ddiogelwch y gwasanaethau a ddarperir, ac o ansawdd y profiad i’r cleifion sy’n cael eu trin.

 

Er enghraifft, mae’n ofynnol i holl gyrff GIG Cymru eu hasesu eu hunain yn flynyddol yn erbyn Safonau Gofal Iechyd Cymru, a chyflwyno’u hasesiadau i AGIC eu harchwilio. Y llynedd, aeth AGIC ati i ddilysu a phrofi cydymffurfiaeth a pherfformiad cyrff gofal iechyd drwy ymweld yn ddirybudd â phob Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru a rhai practisau meddygon teulu ledled Cymru. 

 

Archwiliwyd deg o’r 32 safon, yn ymdrin â materion megis yr Amgylchedd Gofal, Cynnal a Chadw a Glanweithdra, Gwybodaeth a Chyfathrebu, cyfraniad Cleifion a Defnyddwyr Gwasanaethau at Gynllunio Gofal, Urddas, Parch, Caniatâd a Chyfrinachedd, Maeth, Adborth, Canmol a Chwyno, Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed ac Amddiffyn Plant.

 

Bydd AGIC hefyd drwy gydol y flwyddyn yn cynnal rhaglen dreigl o hapwiriadau o lanweithdra a rheoli heintiau ac i weld i ba raddau y caiff cleifion eu trin ag urddas a pharch. Mae’r wybodaeth a gesglir o’r hapwiriadau hyn a gweithgareddau arolygu eraill, megis monitro’r Ddeddf Iechyd Meddwl ac adolygiadau thematig, yn ychwanegu at yr holl wybodaeth sydd gan AGIC am holl gyrff GIG Cymru. Un o brif nodweddion y dull arolygu yng Nghymru yw fod gwasanaethau’r GIG yn cael eu harchwilio’n uniongyrchol, drwy arolygiadau lle rhoddir rhybudd ac arolygiadau dirybudd sy’n canolbwyntio’n benodol ar brofiad y cleifion.

 

Mae’r gwerthoedd sylfaenol sydd wedi llywio Rhaglen Ddiwygio’r GIG yn seiliedig yn y bôn ar roi cleifion a diogelwch cleifion uwchlaw popeth – peidiwn byth â gwyro oddi wrth hynny. Pan fo heriau ariannol fel y rhai presennol yn ein hwynebu, mae’n bwysicach fyth i ni ganolbwyntio ar ansawdd y gwasanaethau a ddarparwn drwy wneud pethau’n iawn y tro cyntaf – lleihau gwastraff a dyblygu.

 

Er mis Hydref 2009 mae 7 o Fyrddau Iechyd Integredig yng Nghymru, sy’n ei gwneud yn bosibl i gyrff iechyd gael eu halinio’n agos. Rhan bwysig o sefydlu’r cyrff hyn oedd sicrhau bod holl Aelodau’r Byrddau, p’un a oedd ganddynt brofiad blaenorol ai peidio, wedi bod yn rhan o Raglen Datblygu Bwrdd. 

 

Mae gan bob Bwrdd Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, sy’n cydweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Awdurdodau Lleol, ac rwy’n disgwyl i’r Cyfarwyddwyr hyn chwarae rhan hanfodol yn eu cyrff drwy sicrhau bod gwasanaethau o safon uchel yn cael eu darparu yn eu hardaloedd.

 

Caiff y 7 corff integredig yma eu cynnal hefyd gan waith y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru – maent yn chwarae rhan allweddol drwy eu swyddogaethau amrywiol, gan gynnwys eu rhaglen ymweld a’u gwasanaethau eirioli. O Ebrill 2010, bydd 6 Chyngor Iechyd Cymuned wedi’u halinio â Byrddau Iechyd, gyda 2 ym Mhowys. 

 

Bydd ailstrwythuro’r Cynghorau Iechyd Cymuned i sicrhau eu bod yn ymwneud â’r un ardal â’r BILI yn sicrhau bod ganddynt gryfder rhanbarthol, a  byddant yn gallu parhau i gadw golwg ar yr hyn sy’n digwydd yn lleol drwy eu strwythurau pwyllgor. Bydd hyn yn golygu cynrychiolaeth fwy effeithiol i gleifion a’r cyhoedd ar draws ardal y Bwrdd Iechyd a bydd modd galw’r GIG i gyfrif yn fwy effeithiol.

 

At hynny mae gan Gynghorau Iechyd Cymuned bŵer statudol o hyd i fynd i mewn i safleoedd y GIG a’u harchwilio er mwyn diogelu buddiannau’r cyhoedd. Maent yn cynnal rhaglen gadarn o ymweliadau, arolygiadau a phrosesau monitro er mwyn cyflawni’r rôl honno. Yn ogystal, bydd y Cynghorau’n cynnal yr ymarfer blynyddol Amgylchedd Cleifion mewn Ysbytai (HPE) ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nod HPE yw sicrhau bod gofal iechyd yn ysbytai Cymru yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd sy’n fodern ac yn lân, ac yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda. Rwy’n disgwyl i holl gyrff y GIG ystyried y rhain yn ffynonellau o adborth gwerthfawr ar ansawdd y gwasanaethau a ddarparant.

 

Ni allwn byth laesu dwylo. Rhaid i ni fynd ati nawr i adeiladu ar y cyfleoedd y mae Rhaglen Ddiwygio’r GIG wedi’u darparu. Bydd gwella ansawdd y gofal a ddarparwn yn ganolog i’n Fframwaith Strategol Gwasanaeth, Gweithlu a Chyllid 5 Mlynedd – er mwyn sicrhau bod gennym wasanaethau diogel a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol, sydd yn fwy integredig ac yn canolbwyntio mwy ar y dinesydd.