Skip to content

Ysgrifenedig - Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cafodd y Mesur Rheoli Llifogydd a Dŵr Gydsyniad Brenhinol ar 8 Ebrill 2010.

 

Mae'r Ddeddf newydd yn cynnwys ystod o ddarpariaethau ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol a rheoli dŵr.  Bydd yn fodd inni sicrhau bod y perygl hwn yn cael ei reoli’n well ac mewn ffordd fwy cynaliadwy ar gyfer pobl, cartrefi a busnesau, ac yn helpu i ddiogelu grwpiau yn y gymuned rhag codiadau na allant eu fforddio yn y taliadau a godir am ddraenio dŵr wyneb. Bydd hefyd yn diogelu’r cyflenwadau dŵr a ddarperir i'r cwsmer. 

 

Aethom ati i gydweithio'n agos â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y Ddeddf, sy'n adeiladu ar y ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol a rheoli dŵr, yn caniatáu i Lywodraeth y Cynulliad ac awdurdodau perthnasol yng Nghymru reoli'r perygl hwn yn well.  Mae'r bylchau yn y ddeddfwriaeth bresennol wedi'u cau, a llinellau cyfrifoldeb clir wedi'u creu.  Mae hyn yn ganolog i’r darpariaethau ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol a nodir yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

 

Ar sail yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’r gwaith craffu a wnaed cyn y broses ddeddfu, mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn cynnwys darpariaethau penodol ar gyfer:

  • rolau a chyfrifoldebau o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol;
  • diogelwch cronfeydd dŵr;
  • asedau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy’n eiddo i drydydd partïon;
  • adeiladau sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd;
  • systemau draenio cynaliadwy;
  • cywiro anghysondeb yn ymwneud â rhoi caniatâd ar gyfer prosiectau seilwaith yng Nghymru o dan adran 167 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991;
  • taliadau dŵr wyneb – cynlluniau consesiynau ar gyfer grwpiau cymunedol;
  • biliau dŵr – tariffau cymdeithasol;
  • mesurau rhag sychder;
  • lleihau'r lefelau "dyled ddrwg" yn y diwydiant dŵr;
  • system gweinyddu dŵr;
  • datblygu dull o weithredu seiliedig ar brosiectau ar gyfer prosiectau seilwaith mawr yn y sector dŵr;

Mae’r Ddeddf yn adlewyrchu’r angen i addasu er mwyn ymdopi â’r pwysau cynyddol sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd. Rhagwelir y bydd y newid hwn yn golygu y bydd tywydd eithafol megis llifogydd a sychder, ac erydu’r arfordir, yn dod yn fwy tebygol.

 

Bydd y diffiniad clir a geir yn y Ddeddf o rolau a chyfrifoldebau pawb sy’n gysylltiedig â rheoli perygl llifogydd yn cyfrannu at ddiogelu’r cyhoedd yng Nghymru.  Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn datblygu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a bydd awdurdodau lleol yn datblygu strategaethau lleol manylach i reoli'r perygl. Asiantaeth yr Amgylchedd fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o weithredu'r Strategaeth Genedlaethol.

 

Bydd y darpariaethau i foderneiddio’r trefniadau sy'n gysylltiedig â diogelwch cronfeydd dŵr yn sicrhau bod cronfeydd dŵr yng Nghymru yn cael eu hasesu ar sail lefel y perygl yn hytrach nag yn ôl maint y gronfa ddŵr yn unig.  Bydd hyn yn fodd i sicrhau bod y cymunedau hynny yng Nghymru sy’n byw’n agos i gronfeydd dŵr yn fwy diogel ac yn rhoi llai o faich rheoliadol ar berchnogion cronfeydd dŵr mwy, sy’n is o ran eu perygl.

 

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy i ddraenio dŵr wyneb ym mhob datblygiad tai a busnes newydd.  Bydd y dull hwn o reoli dŵr wyneb yn lleihau'r perygl o lifogydd ac yn gwella ansawdd dŵr.  Bydd hefyd yn darparu amwynderau gwell mewn llawer o ddatblygiadau newydd.

 

Rwy'n ffyddiog y bydd y camau hyn yn cyfrannu at wneud pobl Cymru’n fwy diogel rhag llifogydd ac erydu arfordirol. 

 

Ein hegwyddorion craidd ar gyfer dŵr yw sicrhau bod dŵr yfed diogel ar gael; cynnal a chadw gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth, gan wneud hynny am bris y gellir ei fforddio; a sicrhau ein bod yn cydymffurfio â rhwymedigaethau statudol yn ymwneud ag ansawdd dŵr.

 

Bydd y darpariaethau’n ymwneud â dŵr sydd yn y Ddeddf yn diogelu buddiannau cwsmeriaid dŵr ac yn rhoi rhagor o hyblygrwydd i’r cwmnïau dŵr ddiogelu ein cyflenwadau yn well. 

 

Mae dau o argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Godi Tâl am Wasanaethau Dŵr a Charthffosiaeth Cartrefi (Adolygiad Walker) wedi'u cynnwys yn y Ddeddf.  Mae'r rhain yn cynnig darpariaethau ynghylch Dyled Ddrwg a Thariffau Cymdeithasol. Bydd y cymal ar Ddyled Ddrwg yn sicrhau y caiff person wedi'i enwi ei restru ar filiau dŵr yn achos pobl sy'n rhentu llety.  Bydd hynny'n fodd i ymdrin â'r lefelau uchel o ddyled ddrwg yn y diwydiant dŵr. Mae'r cymal ar Dariffau Cymdeithasol yn caniatáu i gwmnïau dŵr a charthffosiaeth gynnwys tariffau cymdeithasol yn eu cynlluniau talu.  Nod y rhain yw lleihau'r costau ar gyfer grwpiau amhenodol o gwsmeriaid a fyddai fel arall yn ei chael yn anodd talu eu biliau dŵr a charthffosiaeth yn llawn. Dyma ddau o argymhellion allweddol yr Adolygiad, ac roedd angen deddfwriaeth sylfaenol i'w cefnogi.

 

Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn rhoi'r darpariaethau perthnasol ar waith ac yn gweithio i lunio'r Rheoliadau a'r canllawiau cysylltiedig.