Mae’n dda gennyf gyflwyno adroddiad ar gyfarfod diweddaraf Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru, a gynhaliwyd ar 25-26 Mawrth. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r comisiwn am weithgarwch Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan gynnwys lansio 'Chwyldro Carbon Isel’—datganiad polisi ynni Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n amlinellu ein hagenda uchelgeisiol ar gyfer ynni carbon isel yng Nghymru—manylion am y cynllun sgrapio boeleri a lansiwyd ar 1 Ebrill i helpu hyd at 5,000 o aelwydydd yng Nghymru i elwa ar welliant sylweddol ym mherfformiad ynni eu systemau gwresogi, a Gorchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2010, a gymeradwywyd ar 23 Chwefror gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, dau Dŷ’r Senedd a’r deddfwrfeydd datganoledig eraill, gan gael Cydsyniad Brenhinol yn y Cyfrin Gyngor ar 17 Mawrth. Daeth y Gorchymyn i rym ar 1 Ebrill, yr un dyddiad ag y dechreuodd y cynllun. Cadarnhaodd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ddiweddar y bydd dros £30 miliwn ar gael ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn y sector domestig o gronfeydd strwythurol, ac mae’r datganiad diddordeb manwl ar gyfer prosiect strategol eisoes wedi’i dderbyn.
Ar 4 Mawrth, bûm mewn uwch-gynhadledd ym Mharis. Fe’i trefnwyd ar y cyd gan Île-de-France a’r Grŵp Hinsawdd ac yr oedd yn cynnwys 17 o ranbarthau o bedwar ban byd yn cynrychioli 150 miliwn o bobl, a rhwydweithiau o ranbarthau’n cynrychioli 200 i 300 rhanbarth. Cyfarfûm ag Arlywyddion a Gweinidogion amgylchedd i drafod y ffordd ymlaen ar negodiadau newid hinsawdd yn sgîl Copenhagen, yn enwedig cyn Cyngor Gweinidogion Amgylchedd yr Undeb Ewropeaidd a’r Cyngor Ewropeaidd. Yn ystod yr uwch-gynhadledd, cafwyd cyfle i dynnu sylw at bopeth sydd wedi’i gyflawni gan Rwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy hyd yma a chan aelodau’r rhwydwaith, a rhan Cymru yn yr ymwneud tiriogaethol â’r newid yn yr hinsawdd.
Ar y diwrnod cyntaf, canolbwyntiodd cyfarfod y comisiwn ar wneud sylwadau ar y drafft terfynol arfaethedig o strategaeth newid hinsawdd Cymru. Er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer y trafodaethau hyn, cafwyd cyflwyniadau gan yr Athro Kevin Anderson a’r Athro Gareth Wyn Jones. Cyflwynodd yr Athro Anderson ganfyddiadau manwl y gwaith yr oedd y Comisiwn Newid Hinsawdd wedi’i gomisiynu gan Ganolfan Ymchwil Newid Hinsawdd Tyndall ar oblygiadau cwtogi 3 y cant, 6 y cant a 9 y cant ar allyriadau. Pwysleisiodd y cyflwyniad mor enfawr yw’r her i leihau allyriadau er mwyn osgoi newid peryglus yn yr hinsawdd, a chyfrifoldeb gwledydd datblygedig i gymryd camau pendant.
Cyflwynodd yr Athro Gareth Wyn Jones adroddiad y grŵp defnydd tir a newid hinsawdd. Rhoddodd yr adroddiad asesiad cynhwysfawr o’r wyddoniaeth berthnasol i allyriadau o amaethyddiaeth a defnydd tir, gyda chyfres o argymhellion ar opsiynau ar gyfer gweithredu pellach. Mae’r Gweinidog dros Faterion Gwledig wrthi’n ystyried yr adroddiad a’i argymhellion ar hyn o bryd. Rhoddodd y ddau gyflwyniad ddeunydd cyfoethog a heriol i’r comisiwn a chyd-destun rhagorol ar gyfer trafod strategaeth ddrafft Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer y newid yn yr hinsawdd a’i chynlluniau ar gyfer ei gweithredu. Wrth drafod y strategaeth a’r cynlluniau cyflenwi cysylltiedig ar gyfer lleihau ac addasu allyriadau, gwnaeth y comisiwn nifer o awgrymiadau ar gyfer cryfhau’r dogfennau. Bydd cyfraniad ehangach cymunedau, busnesau a phobl ledled Cymru’n allweddol inni gyrraedd ein targedau ar newid hinsawdd, ac mae arnom eisiau i’r cyfraniad hwn gael ei adlewyrchu’n llawn yng nghynlluniau cyflenwi’r strategaeth.
Mae aelodau’r comisiwn yn gweithio gyda’u sefydliadau, ac o fewn eu sectorau, i nodi’r cyfraniad penodol y maent yn ei wneud tuag at y targedau. Caiff eu cyfraniad at y targed 3 y cant ei amlinellu’n fanwl a’i feintoli yn y cynllun cyflenwi lleihad mewn allyriadau. Cymerodd dau o grŵp diweddaraf Cymru o eiriolwyr newid hinsawdd, Rose Stevens a Jennifer Derrick, ran yn y cyfarfod gan roi’r manylion diweddaraf am eu gwaith. Yn ogystal, gwnaed cyflwyniadau gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, Non Rhys o’r Ffederasiwn Busnesau Bach a Hywel Thomas o’r sector addysg uwch ar y newid yn yr hinsawdd a busnesau bach a chanolig. Edrychodd cyflwyniad y CBI ar yr heriau sy’n wynebu busnes y Deyrnas Unedig yn sgîl Copenhagen a phwysleisiodd yn eglur iawn y pwysigrwydd parhaus y mae’r sector busnes yn ei roi ar fynd i’r afael â newid. Amlygodd hefyd y gwaith sydd ar droed gan y CBI a busnesau i wthio am gytundeb rhyngwladol, i barhau i hyrwyddo gweithredu ar newid hinsawdd mewn busnes ac i annog gweithredu gan y Llywodraeth. Yn ystod ail ddiwrnod y cyfarfod, trafododd y comisiwn asesiad risg newid hinsawdd y Deyrnas Unedig a chytunodd ar bwysigrwydd sicrhau bod arbenigwyr o Gymru’n cyfranogi ym mhob ffrwd waith sectorol ar gyfer y prosiect hwn. Cafodd y comisiwn gyflwyniad hefyd gan Groundwork ar safon amgylcheddol y ddraig werdd, a chytunodd nifer o aelodau i gyfranogi mewn trafodaethau ynglŷn â’i datblygiad i’r dyfodol.
Un peth mawr y canolbwyntiwyd arno yn ystod y dydd oedd trafodaeth am rôl, cylch gwaith a rhaglen waith y comisiwn i’r dyfodol. Yn y sesiwn hwn, cadarnheais fy mwriad i ymddiswyddo o gadair y comisiwn yn dilyn cyhoeddi’r strategaeth newid hinsawdd yn yr hydref, fel y gall cadeirydd annibynnol, a benodir yn gyhoeddus, ymgymryd â’r swydd. Bydd hyn yn helpu’r comisiwn i gyfnerthu’i safle fel corff cynghori sydd yn wirioneddol annibynnol ac yn abl i greu consensws trawsbleidiol a thraws-sector ar y newid yn yr hinsawdd. Byddaf yn parhau’n aelod llawn o’r comisiwn i sicrhau y ceir dolen gyswllt barhaus â Llywodraeth y Cynulliad ac y cynrychiolir pob un o’r pedair prif blaid wleidyddol.
Trafododd y comisiwn hefyd sut y byddai ei rôl, a rôl aelodau, yn esblygu yn y dyfodol. Cytunwyd ynghylch yr angen i’r comisiwn ddarparu presenoldeb cyhoeddus cryf ar yr angen am weithredu ynglŷn â’r newid yn yr hinsawdd a hefyd ei bod yn bwysig i’r comisiwn adolygu’r hyn a gyflawnir gan Lywodraeth y Cynulliad, a phob sector, i fwrw’r maen i’r wal ar ein hamcanion o ran y newid yn yr hinsawdd. Wrth edrych ymlaen, yr wyf yn hyderus y bydd y comisiwn, dan gadeiryddiaeth newydd, mewn sefyllfa dda i barhau i ddarparu’r cyngor arbenigol a’r dystiolaeth angenrheidiol i sicrhau bod Cymru’n cyflawni’i hagenda uchelgeisiol ar gyfer y newid yn yr hinsawdd.