Skip to content

Ysgrifenedig - Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi Cymru

Dolenni perthnasol

Mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus yn rhoi arweiniad cenedlaethol ar gyfer cydweithio, ac yn ysgogi’r gwaith o wella gwasanaethau i bobl Cymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Rwyf am ddilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 18 Mawrth 2010, a diweddaru Aelodau’r Cynulliad ar gynnydd y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi, yr wyf yn gadeirydd arno.  Mae’r Bwrdd yn cyfarfod am yr eildro heddiw. 

 

Rydym wedi derbyn ymateb positif iawn gan wasanaethau cyhoeddus, ac mae’r Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi yn symud yn gyflym.  Mae’r Bwrdd eisoes wedi cytuno ar gamau i sicrhau £200 miliwn o effeithlonrwydd erbyn 2013 trwy gaffael a chomisiynu cydweithredol, gan arbed arian a gwella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.  

 

Mae’r Rhaglen hefyd yn gyrru’r agenda i sicrhau mwy o werth o’r ystad gyhoeddus gwerth £10 biliwn, trwy sefydlu dulliau arloesol a mwy effeithlon o weithio trwy strategaeth TGCh Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a datblygu dull mwy hyblyg a chydweithredol o ddefnyddio staff ar draws gwasanaethau cyhoeddus, trwy Uned Trawsnewid a Chefnogi Gyrfa Cymru-gyfan.  

 

Mae’r Bwrdd hefyd yn gweithio ar gamau i’w cymryd mewn dau faes arall: trawsnewid y ffordd y mae sefydliadau’n rheoli eu busnesau, a modelau newydd o gyflenwi gwasanaethau. 

 

Bydd arloesi o safon uchel yn ganolog i’r Rhaglen, ac rwy’n falch bod rhaglen arloesol cyfnewidcymru sy’n seiliedig ar TGCh, sy’n helpu sefydliadau’r gwasanaethau cyhoeddus i wneud y gorau o’u gwariant caffael, wedi ennill gwobr Gyfrifiaduraeth fawreddog gan y Llywodraeth yn y categori ‘Cyflawni effeithlonrwydd’.  Rwy’n edrych ymlaen at weld cyfnewidcymru yn parhau i gael ei defnyddio ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel y gellir gwireddu ei manteision yn llawn.

I fodloni her y newid y mae’r agenda hon yn ei chynrychioli, mae’n rhaid inni symud adnoddau o amgylch y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi, gan gynnwys alinio cronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cynulliad Cymru.  

 

Heddiw, rwy’n cyhoeddi buddsoddiad o £11 miliwn ar gyfer prosiectau, o dan gylch diweddaraf y gronfa, a fydd yn cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon ac effeithiol yng Nghymru trwy ffyrdd newydd o weithio.  Mae’r prosiectau sy’n cael eu cynorthwyo yn cynnwys chwech ledled y GIG, yn ogystal â mentrau yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Chyngor Sir Pen-y-Bont ar Ogwr, sy’n berthnasol ledled Cymru.  Mae cais i gyflymu manteision ariannol a manteision gwasanaeth ein Rhwydwaith Band Eang unigryw i Wasanaethau Cyhoeddus trwy gynorthwyo hyd at 1,000 o gysylltiadau newydd yn y sector cyhoeddus wedi ei gefnogi hefyd.  Mae gan y prosiectau hyn y posibilrwydd o greu dros £10 miliwn o arbedion arian parod yn flynyddol. 

 

Mae’r cymysgedd hwn o weithredu ledled Cymru a threialu dulliau newydd yn nodwedd o’n hymagwedd at y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi.  Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach i Aelodau’r Cynulliad wrth i’r Rhaglen fynd yn ei blaen.