Skip to content

Llafar - Datganiad am y Cynllun Demensia

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae demensia’n effeithio ar bron pob teulu yng Nghymru. Yr wyf wedi Mae demensia’n effeithio ar bron pob teulu yng Nghymru. Yr wyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl a demensia arnynt yng Nghymru’n cael cefnogaeth lawn, a’u bod yn cael y cymorth, yr urddas a’r parch y maent yn eu haeddu. Mae’n amlwg bod cymdeithas drwyddi draw’n gyfrifol am sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae angen i’r gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector gydweithio er mwyn gwella bywyd pobl a demensia arnynt a bywyd y bobl sy’n gofalu amdanynt. Gan gydnabod bod angen gwella’r gofal a chynllunio ar gyfer pobl a demensia arnynt, sefydlais grŵp arbenigwyr gorchwyl a gorffen lefel uchel i drafod demensia ym mis Hydref 2008. Cadeirydd y grŵp oedd Ian Thomas, cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer Cymru a chynullwyd gweithwyr iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu camau gweithredu er mwyn wynebu her demensia. Cyhoeddwyd papur gan y grŵp y llynedd, ac ymgynghorwyd ynglŷn â hwn drwy’r wlad. Cafwyd amrywiaeth o ymatebion i’r ymgynghori hwn, yn ogystal â chynnal tri digwyddiad ymgynghori llwyddiannus gyda nifer dda’n bresennol ynddynt.

 

Ym mis Ionawr, cyfarfu’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol a minnau ag aelodau’r grŵp arbenigwyr gorchwyl a gorffen er mwyn cytuno ar y camau nesaf ar ôl yr ymgynghori. Yn sgil y cyfarfod a’r ymgynghori hwn, nodwyd pedwar maes allweddol a allai wella bywyd pobl a demensia arnynt a bywyd eu teuluoedd yng Nghymru. Dyma’r meysydd hyn: gwella’r ffordd y darperir gwasanaethau drwy sicrhau gwell cydweithio rhwng y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector ac asiantaethau eraill; gwella diagnosis cynnar ac ymyriadau prydlon; gwella’r llwybr at wybodaeth a chymorth i bobl sy’n dioddef o’r salwch ac i’w gofalwyr, ynghyd â mwy o ymwybyddiaeth o’r angen am eiriolaeth; a gwella’r hyfforddiant i’r rheini sy’n darparu gofal. Er mwyn bwrw ymlaen â’r rhain, gofynnais i’r pedwar grŵp o randdeiliaid baratoi cyngor imi ynglŷn â’r camau y dylid eu cymryd ym mhob un o’r meysydd blaenoriaeth hyn. Mae gan bob un o’r grwpiau hyn gadeirydd annibynnol sy’n dod o’r gwasanaeth iechyd gwladol, o’r awdurdodau lleol ac o’r trydydd sector. Yr oedd angen i’r camau gweithredu sicrhau’r gwelliannau amlwg ar gyfer gwasanaethau i bobl y canfuwyd bod demensia arnynt ac i’w gofalwyr ac yr oedd angen sicrhau bod modd eu gwireddu yn yr hinsawdd ariannol bresennol.

 

Mae’r pedwar grŵp hyn bellach wedi adrodd yn ôl imi, ac mae’n amlwg eu bod wedi gwneud cynnydd rhagorol. Mae’r cynigion ar gyfer gweithredu’n ymwneud â holl ystod y blaenoriaethau, a chyda’i gilydd, byddant yn sicrhau datblygiad sylweddol o ran gwasanaethau i bobl a demensia arnynt a’u gofalwyr. Maent yn cynnwys gwella’r hyfforddiant i bobl sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol er mwyn sicrhau ei bod yn haws i bobl gael diagnosis yn gynnar; gwella’r cymorth a’r wybodaeth i’r rheini y canfyddir bod demensia arnynt ac i’w gofalwyr; gwella’r hyfforddiant i’r rheini sy’n darparu gofal demensia o fewn y GIG, awdurdodau lleol a’r sector annibynnol; gwasanaethau cymorth ychwanegol i ofalwyr; cynyddu’r ymwybyddiaeth o ddemensia ymhlith y cyhoedd er mwyn creu cymunedau sy’n gefnogol i bobl a demensia arnynt; a, gwaith ymchwil parhaus i ddemensia. Dymunaf achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi gweithio yn y grwpiau arbenigwyr, yn ogystal ag i’r rheini sydd wedi cyfrannu at yr ymgynghori. Mae’r rhain i gyd wedi cynorthwyo i sicrhau bod camau gweithredu ymarferol wedi’u rhestru er mwyn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau allweddol. Mae’r rhain ar gael yn awr hefyd ar wefan Llywodraeth y Cynulliad. Mae’n bryd yn awr felly inni ganolbwyntio ar wireddu’r rhain ar lefel ymarferol a gwella’r gwasanaeth o ddifrif mewn ffordd ystyrlon. Yr wyf wedi gofyn i fwrdd newydd y rhaglen iechyd meddwl i oedolion fwrw ymlaen â’r gwaith hwn a sicrhau newid go iawn ar gyfer y rheini y canfyddir bod demensia arnynt ac ar gyfer eu gofalwyr. Cadeirir bwrdd y rhaglen gan Mary Burrows, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, a fydd yn awr yn gweithio gyda chadeiryddion y pedwar grŵp o randdeiliaid, yn ogystal â chyda’r prif chwaraewyr eraill, gan gynnwys y GIG, awdurdodau lleol a’r trydydd sector, er mwyn gwireddu’r cynigion.

 

Ochr yn ochr â’r gwaith hwnnw, yr wyf wedi gofyn i’r BILlau roi’r targedau deallus newydd ar gyfer demensia ar waith. Dyma ofynion allweddol targedau’r fframwaith gweithredu blynyddol eleni: adeg y pwynt cyswllt cyntaf, cwtogi’r cyfnod rhwng yr adeg pan fydd y symptomau’n ymddangos a rhoi diagnosis i ddefnyddiwr y gwasanaeth a’r teulu; gwella ansawdd y gofal cyffredinol mewn ysbyty i bobl a demensia arnynt; cwtogi’r cyfnod y maent yn ei dreulio yn yr ysbyty a chynyddu canran y perthnasau sy’n fodlon ar y gofal a geir; defnyddio llai o feddyginiaethau gwrth-seicotig amhriodol yn unol â chanllawiau NICE a gwella’r gefnogaeth i’r sawl sy’n gofalu.

 

Felly, mae llawer iawn o waith wedi’i wneud i restru’r camau gweithredu y mae eu hangen er mwyn sicrhau bod gennym wasanaethau effeithiol i bobl a demensia arnynt yng Nghymru. Y dasg yn awr yw sicrhau bod pethau’n gwella o ddifrif i unigolion ac i’w teuluoedd drwy fynd i’r afael â’r blaenoriaethau a nodwyd. Mae’n amlwg hefyd y bydd angen inni sicrhau gwaith rhyngasiantaeth a chydweithredu effeithiol a chydweithredu rhwng y sectorau i gyd er mwyn sicrhau bod y gwelliannau go iawn hynny a gynigir yn cael eu gwireddu o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Lywydd, dyna ddiwedd fy natganiad y prynhawn yma.