Skip to content

Ysgrifenedig - Strategaeth Tlodi Plant Cymru a'r Cynllun Cyflawni

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant

Hoffwn roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad y byddwn yn cyhoeddi Strategaeth a Chynllun Cyflawni newydd ar Dlodi Plant i Gymru yfory (12 Mai 2010) ar gyfer ymgynghoriad. Bydd y cyfnod ymgynghori'n para am dri mis – gan ddod i ben ar 12 Awst 2010.

 

Mae'r fframwaith deddfwriaethol newydd sydd wedi'i sefydlu erbyn hyn trwy Ddeddf Tlodi Plant 2010 a Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn golygu y bydd fframwaith statudol, am y tro cyntaf, i ysgogi Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cynulliad Cymru, a'r awdurdodau lleol ac asiantaethau cyhoeddus eraill, i gydweithio i weithredu ar dlodi plant. 

 

Mae'r Strategaeth Tlodi Plant newydd yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru a gwella canlyniadau ar gyfer y plant a'r rhieni sy'n byw ar aelwydydd incwm isel.  Bydd y Strategaeth yn cadarnhau y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gosod tri amcan strategol newydd o ran tlodi plant, a fydd yn darparu'r fframwaith trosfwaol ar gyfer ein camau i leihau tlodi plant ar draws y Llywodraeth gyfan. Mae'r Cynllun Cyflawni sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth yn amlinellu'r camau polisi y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion strategol hyn ac, yn y pen draw, i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer 2020, sef Cymru lle nad yw unrhyw blentyn na pherson ifanc dan anfantais oherwydd tlodi.

 

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru), a ddaeth i rym ym mis Chwefror 2010, yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth i leihau tlodi plant a'i hadolygu yn gyson. Mae'r Strategaeth Tlodi Plant newydd hon i Gymru a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig yn cyflawni'r ymrwymiad hwn o safbwynt Gweinidogion Cymru.

 

Yn benodol, mae Strategaeth Tlodi Plant newydd Cymru yn darparu'r cyfeiriad strategol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â mynd i'r afael â thlodi plant a gwella canlyniadau ar gyfer y plant a'r bobl ifanc hynny sy'n byw ar aelwydydd incwm isel. Mae'r fframwaith ar gyfer y camau polisi yn y Strategaeth Tlodi Plant newydd wedi'i ddarparu gan y 13 Nod Eang a nodir ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae cwmpas y Nodau Eang yn dangos bod achosion ac effeithiau tlodi plant yn gymhleth, yn amlweddog ac yn torri ar draws nifer o feysydd polisi. Rydym yn pwysleisio mai dim ond trwy gymryd camau ar draws y meysydd hyn y byddwn yn llwyddo i godi ein plant a'n pobl ifanc allan o dlodi sy'n cael effaith mor andwyol ar eu canlyniadau addysgol ac economaidd ac ar eu hiechyd. Mae'r Cynllun Cyflawni sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth yn amlinellu'r ymrwymiadau polisi cyfredol ac arfaethedig (ar draws Llywodraeth y Cynulliad) a fydd yn ein helpu i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru.

 

Mae'r ffigurau tlodi plant diweddaraf yn dangos bod cynnydd wedi'i atal yn ystod y blynyddoedd blaenorol, a bod amcangyfrif o 32 y cant o blant yng Nghymru yn byw ar aelwydydd sy'n derbyn llai na 60 y cant o'r incwm canolrifol. Mae'r ffaith bod tlodi plant yn bodoli o hyd mewn gwlad fodern, waraidd a blaengar fel Cymru yn annerbyniol i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dyna pam yr ydym wedi rhoi her dileu tlodi plant ar frig ein hagenda bolisi.

 

Ers ei sefydlu, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pwysleisio'n gyson fod lleihau tlodi plant yn elfen hollbwysig o'i hagenda cyfiawnder cymdeithasol. Mae Strategaeth Tlodi Plant newydd Cymru a'r Cynllun Cyflawni yn datblygu ein Strategaeth Tlodi Plant gyntaf, Dyfodol Teg i'n Plant (a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2005) a'r targedau tlodi plant a nodwyd gennym yn Dileu Tlodi Plant - Mesur Llwyddiant (a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2006). Yn 2007, roedd Cytundeb Cymru'n Un yn cynnwys nifer o ymrwymiadau newydd a oedd wedi'u llunio'n benodol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant, ac mae llawer ohonynt wedi cael eu cyflawni, neu wrthi'n cael eu cyflawni. Un o’r rhain oedd yr ymrwymiad i sefydlu Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant i ddarparu cyngor ar sail tystiolaeth ar y gofynion polisi ehangach sy'n ofynnol i gyrraedd targedau dileu tlodi plant. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Arbenigol ym mis Mai 2008 ac mae wedi darparu cyfres o argymhellion polisi a chyngor arbenigol sydd wedi llywio datblygiad y Strategaeth hon. 

 

Mae plant a phobl ifanc sy'n cael eu magu mewn tlodi yn agored i niwed mewn sawl ffordd. Rydym yn gwybod bod mwy o berygl y byddant yn dioddef iechyd gwael, y bydd eu cyraeddiadau mewn addysg yn isel, ac y bydd ganddynt lai o sgiliau a dyheadau is. Maent hefyd yn fwy tebygol o gael cyflogau isel, o fod yn ddi-waith a dibynnu ar y system les maes o law. Er y bydd llawer o blant o deuluoedd incwm isel na fyddant yn wynebu'r canlyniadau hyn, mae'n bwysig nodi bod plant sy'n cael eu magu mewn tlodi dan anfantais fel rheol.

 

Mae rhai plant yn fwy tebygol o gael eu magu mewn tlodi na rhai eraill. Mae plant sy'n byw ar aelwydydd di-waith yn arbennig o agored i niwed: mae tua hanner yr holl blant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi yn byw ar aelwydydd di-waith. Un o brif amcanion strategol y Strategaeth newydd hon yw lleihau nifer yr aelwydydd di-waith yng Nghymru. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig mynd i'r afael â thlodi mewn gwaith, ac un o amcanion strategol eraill y Strategaeth newydd hon yw gwella sgiliau rhieni er mwyn iddynt gael gwaith sy'n talu'n dda. Yn olaf, mae'r Strategaeth yn nodi amcan strategol i leihau'r anghydraddoldebau sy'n bodoli yn y canlyniadau addysgol ac economaidd a'r canlyniadau o ran iechyd ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, drwy wella canlyniadau'r tlotaf.

 

Rwy'n nodi'n glir fod llawer y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru ei wneud i leihau tlodi plant yng Nghymru.  Ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i'r nod hwn.  Rydym yn deall bod yn rhaid i ni ganolbwyntio hyd yn oed yn fwy ar leihau tlodi plant yng Nghymru a sicrhau bod y plant sy'n byw ar aelwydydd incwm isel yn cael mwy o gyfleoedd mewn bywyd. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gallu cyflawni ein hamcanion tlodi plant heb gymorth. Nid oes amheuaeth bod angen gweithredu’n fwy ar draws pob lefel o'r llywodraeth – ac ar draws ei phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol – i flaenoriaethu anghenion y grŵp hwn o blant a'r aelwydydd y maent yn byw arnynt.  Mae'n rhaid i hon fod yn genhadaeth sy’n gyffredin i bawb ac yn un yr ydym ni i gyd yn gyfrifol amdani.

 

Rydym yn gwybod y bydd cynnydd pellach a chyflymach o ran lleihau tlodi plant hefyd yn dibynnu i raddau helaeth ar ddarpariaeth leol gref.  Felly, rydym hefyd yn pennu cyfeiriad newydd ar gyfer datblygu trefniadau darparu lleol mwy effeithiol sy'n gallu diwallu anghenion teuluoedd incwm isel yn well a rhoi'r cymorth integredig sydd ei angen arnynt.

 

Yn ystod y cyfnod ymgynghori tri mis, rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru. Ymhlith y digwyddiadau hyn bydd gweithdai i hwyluso trafodaethau ar gynnwys y Strategaeth Tlodi Plant a'r Cynllun Cyflawni, yn ogystal â'n cynigion i ddatblygu dull newydd o roi cymorth integredig i deuluoedd a gwella'r ffordd y mae'r partneriaethau lleol yn gweithio. Rydym hefyd wedi datblygu fersiwn o'r Strategaeth a'r Cynllun Cyflawni i blant a phobl ifanc, a byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori sy'n benodol iddyn nhw.

 

Edrychaf ymlaen at y tri mis nesaf  ac at allu defnyddio'r cyfnod ymgynghori i gryfhau'r ymrwymiadau yr ydym yn eu sefydlu yma yng Nghymru, er mwyn sicrhau cynnydd pellach yn y frwydr yn erbyn tlodi plant.