Skip to content

Ysgrifenedig - Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad Panel Arbenigol Comisiwn Cynghorwyr Cymru “At ein gwasanaeth?”

Dolenni perthnasol

Cafodd y Panel Arbenigol yng Nghymru ei gynnull yn dilyn sefydlu’r Comisiwn Cynghorwyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol bryd hynny.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Sefydlwyd Panel Arbenigol Comisiwn Cynghorwyr Cymru gan fy rhagflaenydd i ymchwilio i argymghellion y Comisiwn Cynghorwyr, a sefydlwyd gan y Gwir Anrhydeddus Ruth Kelly AS, yr Ysgrifennydd Gwladol Cymunedau a Llywodraeth Leol gynt. Cylch gorchwyl y Comisiwn Cynghorwyr oedd ymchwilio sut gellid adfywio democratiaeth leol a’i gwneud yn fwy cynrychioliadol. Roedd gwaith y Comisiwn yn cynnwys cynnal sesiwn dystiolaeth yng Nghymru. Roedd 61 o argymhellion yn ei adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2007.

 

Cylch gorchwyl y Panel Arbenigol oedd ystyried argymhellion y Comisiwn Cynghorwyr a pha mor briodol yw eu rhoi ar waith yng Nghymru, yn ogystal ag ystyried unrhyw faterion eraill oedd yn berthnasol i ehangu cyfranogiad mewn llywodraeth leol. Mae Llywodraeth y Cynulliad am sicrhau bod cynghorwyr cymuned ac unedol fel ei gilydd yn dod o’r ystod ehangaf bosibl o bobl, a’u bod yn adlewyrchu’n well y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bu’n bryder ers rhai blynyddoedd bod cynghorwyr yn dod o gronfa fechan iawn a bod diffyg cynrychiolaeth ddifrifol o sawl sector allweddol. Mae’r sefyllfa hon yn golygu nad yw’n cynghorau yn elwa ar ystod lawn o brofiadau ac arbenigedd er mwyn ymgymryd â’u rolau amrywiol.

 

Cynhaliodd y Panel Arbenigol waith annibynnol a helaeth a arweiniodd at adroddiad â 35 o argymhellion, sef “At ein gwasanaeth?” a gyhoeddwyd ym mis Awst 2009. Roedd yr argymhellion hyn yn cael eu cyfeirio at nifer o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth y Cynulliad. Roedd yr adroddiad yn destun ymgynghoriad gyda’r holl bartïon perthnasol ac rydym wedi ystyried yn ofalus y 41 o ymatebion a ddaeth i law. 

Mae argymhellion yr adroddiad yn cyd-fynd yn dda â chyfeiriad polisi cyfredol Llywodraeth y Cynulliad ac rwy’n falch o allu derbyn y rhan fwyaf o’r rheini sy’n gyfrifoldeb i Lywodraeth y Cynulliad yn unig. Mae sawl argymhelliad arall yn galw am weithredu gan ystod o sefydliadau, gyda Llywodraeth y Cynulliad yn eu plith. Bydd angen ystyried yr argymhellion hyn ymhellach gyda phartneriaid, ond rwy’n cefnogi’n gyffredinol fwriad y cam gweithredu arfaethedig, ac rwy’n falch o allu cychwyn y gwaith ar hyn.

 

Byddai angen deddfwriaeth ar nifer o’r argymhellion yn adroddiad y Panel Arbenigol er mwyn cyflawni’r canlyniad a fwriedir. Mae Llywodraeth y Cynulliad am alluogi’r Cynulliad i ddeddfu i annog cyfranogiad helaethach a mwy amrywiol mewn llywodraeth leol. Bydd Gorchymyn y Cynulliad Cenedlaethol (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Llywodraeth Leol) 2010 (“yr LCO”) a ddaeth i rym ar 13 Ebrill yn rhoi cymhwysedd i’r Cynulliad ddeddfu yn y maes hwn.

 

Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ei bwriad i gyflwyno Mesur Llywodraeth Leol yn ddiweddarach eleni a fydd yn manteisio ar y cymhwysedd a drosglwyddwyd i’r Cynulliad drwy’r LCO Llywodraeth Leol. Bwriedir i’r Mesur ddelio â nifer o faterion pwysig ynghylch llywodraeth leol yng Nghymru, ac ymysg pethau eraill, rydym yn gobeithio y bydd yn mynd i’r afael â materion sy’n achosi rhwystrau ac anghymhelliant i bobl rhag sefyll ar gyfer etholiad i gynghorau cymuned ac unedol. Bydd argymhellion adroddiad y Panel Arbenigol yn llywio datblygiad ein cynigion ar gyfer y Mesur. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau’r Cynulliad ac eraill sydd â diddordeb mewn llywodraeth leol ar y Mesur Llywodraeth Leol yn ddiweddarach eleni.

 

Mae ymateb Llywodraeth y Cynulliad i adroddiad y Panel Arbenigol yn rhoi esboniad manwl o’n safle polisi o ran pob un o’r 35 o argymhellion. Mae ynghlwm fel Atodiad ar wahân er gwybodaeth i chi.